Mae arolwg Dweud Eich Dweud 2026 bellach wedi cau.
Yr arolwg blynyddol hwn yw eich cyfle i rannu eich profiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol gyda ni.
Bob blwyddyn, rydyn ni'n gofyn i chi ateb cwestiynau am bethau fel eich iechyd a'ch llesiant, cyflog ac amodau, a sut rydych chi’n teimlo am weithio yn y sector.
Mae rhoi gwybod beth rydych chi’n ei feddwl yn helpu i siapio’r cymorth rydyn ni a’n partneriaid yn ei gynnig.
Fe wnaethon ni cynnal arolwg 2026 rhwng 19 Ionawr a 4 Mawrth.
Rydyn ni wedi comisiynu tîm o ymchwilwyr annibynnol yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Pharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd i wneud y gwaith hwn. Byddwn ni'n cyhoeddi'r canfyddiadau ar ein gwefan yn hwyrach yn 2026.
Beth oedd canfyddiadau arolwg 2025?
Rydyn ni wedi rhannu canlyniadau ein harolwg 2025 yn ddiweddar, a ddangosodd fod llesiant wedi gwella ond bod pryder yn parhau’n uchel.
Os hoffech wybod mwy am ein harolygon blaenorol, gallwch edrych yn ôl ar y canfyddiadau drwy glicio ar y dolenni canlynol.
Dweud Eich Dweud 2025
Dweud Eich Dweud 2024
Dweud Eich Dweud 2023
Rydyn ni hefyd wedi defnyddio'r canfyddiadau i greu gyfres cipolwg sy'n crynhoi ac yn amlygu gwybodaeth allweddol am y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ewch i'n gwefan Grŵp Gwybodaeth i ddarganfod mwy am y canlynol:
Angen mwy o wybodaeth?
Efallai byddwch chi'n dod o hyd i'r wybodaeth rydych chi'n chwilio am yn ein cwestiynau cyffredin.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, e-bostiwch HYSsurvey@cardiff.ac.uk.