Jump to content
Gwaith Cynllunio datblygu'r gweithlu ac Addysgwyr Ymarfer

Helpwch ni i lunio cynlluniau'r dyfodol trwy ddweud wrthym ni beth sy'n bwysig i chi.

Rydyn ni’n diweddaru’r Cynllun gweithlu gwaith cymdeithasol, yn creu Cynllun datblygu gweithlu gofal preswyl i blant newydd, ac yn casglu mewnwelediadau gan Addysgwyr Ymarfer.

Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn ni lunio camau gweithredu clir ac ymarferol sy'n cefnogi dyfodol y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cefndir

Mae pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.

Er mwyn sicrhau bod y gweithlu yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi nawr ac yn y dyfodol, mae gan Gymru Strategaeth Genedlaethol y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r strategaeth hon yn nodi'r hyn sydd ei angen i helpu staff i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, wedi'u hyfforddi'n dda, ac yn gallu gwneud eu gwaith gorau.

Fel rhan o hyn, rydyn ni’n diweddaru'r Cynllun gweithlu gwaith cymdeithasol ac yn creu Cynllun gweithlu gofal preswyl i blant newydd. Bydd y cynlluniau hyn yn helpu i droi nodau hirdymor y strategaeth yn gamau gweithredu clir sy'n adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yn y sector.

Rydyn ni hefyd yn casglu mewnwelediad gan Addysgwyr Ymarfer i ddeall sut mae myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn cael eu cefnogi yn eu lleoliadau. Mae hyn yn helpu i adeiladu darlun llawnach o'r gweithlu ac yn sicrhau bod y cynlluniau terfynol yn cydnabod pawb sy'n ymwneud â datblygu gweithwyr proffesiynol y dyfodol.

Trwy wrando ar bobl ar draws y sector, gallwn ni wneud yn siŵr bod y cynlluniau wedi'u seilio ar anghenion gwirioneddol y gweithlu. Ein bwriad yw i helpu i lunio gweithlu gofal cymdeithasol cryfach, gyda fwy o gefnogaeth ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Cymryd rhan a llenwi'r holidaur

Os hoffech chi fod yn rhan o siapio’r gwaith hwn, rhannwch eich profiadau â ni drwy lenwi holiadur byr.

Bydd yr holiadur yn cymryd dim mwy na 15 munud yr un yw cwblhau. Bydd eich barn chi yn ein helpu ni i adeiladu darlun clir o anghenion y gweithlu gofal cymdeithasol ledled Cymu.

Gweithio gyda phartneriaid

Rydyn ni’n gweithio gyda'r Institute of Public Care (IPC) ar y darn hwn o waith. Eu rôl nhw yw helpu i sicrhau ein bod ni’n clywed gan ystod eang o leisiau.

Bydd IPC yn arwain y gweithgareddau ymgysylltu gan siarad â phobl ar draws y sector i gasglu eu barn a'u profiadau.

Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod ein cynlluniau gweithlu terfynol yn adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i'r bobl sy'n deall y gwaith orau.

Sut rydyn ni eisiau gweithio gyda chi

Amserlen

Cam 1: Ffurflen Datblygu’r gweithlu ac Addysgwyr Ymarfer (dechrau 2026)

Byddwn yn dechrau trwy ofyn i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i rannu eu barn trwy gyfres o ffurflenni byr. Mae hyn yn ein helpu i adeiladu darlun cynnar o'r hyn sy'n gweithio'n dda a lle gellid gwella pethau.

Cam 2: Gweithdai ac ymgysylltu (canol 2026)

Nesaf, bydd IPC yn cynnal gweithdai ac yn siarad â phobl ar draws y sector i archwilio'r themâu allweddol yn fwy manwl. Bydd y sgyrsiau hyn yn helpu i lunio camau gweithredu yn y ddau gynllun gweithlu ac yn rhoi dealltwriaeth gliriach i ni o dirwedd Addysgwyr Ymarfer.

Cam 3: Adroddiadau drafft (Haf 2026)

Yna byddwn yn dod â phopeth at ei gilydd mewn drafft o’r cynlluniau gweithlu a chrynodeb o ganfyddiadau'r Addysgwyr Ymarfer. Bydd y drafftiau hyn yn cael eu hadolygu a'u diwygio cyn i'r fersiynau terfynol gael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2026.

Darganfod mwy

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy, gallwch chi gysylltu â ni drwy e-bostio workforcedevelopmentproject@socialcare.cymru.