Jump to content
Arolwg y gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant 2025: adroddiad ar y prif bwyntiau

Adroddiad sy'n amlinellu prif ganfyddiadau'r arolwg gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu prif ganfyddiadau arolwg gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant Gofal Cymdeithasol Cymru 2025. 

Arweiniwyd yr arolwg gan ein tîm blynyddoedd cynnar a gofal plant gyda chefnogaeth ein tîm ymchwil ac Is-adran Cydraddoldeb, Tlodi a Thystiolaeth a Chymorth Plant Llywodraeth Cymru.

Pwrpas yr arolwg oedd cael gwell dealltwriaeth o realiti gweithio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru yn 2025. 

Roedd wedi'i anelu at weithwyr unigol ac roedd yn cynnwys cwestiynau am:

  • ddemograffeg
  • y defnydd o iaith
  • math o rôl
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • profiadau o weithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • arweinyddiaeth, hyfforddiant a datblygu
  • telerau ac amodau.

Roedd gan yr arolwg gymysgedd o gwestiynau penagored a chwestiynau caeedig. Fe wnaethon ni ofyn sawl cwestiwn dilynol penagored, gan gynnwys rhai am recriwtio a chadw gweithwyr, i ddarganfod beth mae pobl yn ei fwynhau am weithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant a beth maen nhw'n meddwl y dylid ei wneud i sicrhau bod y sector yn lle mwy deniadol a gwerth chweil i weithio. 

Gweld y rhestr llawn o gwestiynau. 

Roedd yr arolwg ar agor rhwng 6 Hydref a 1 Rhagfyr 2025. Roedd y cynllun ymgysylltu a chyfathrebu yn targedu pawb sy'n gweithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, yn ogystal â chyflogwyr, sefydliadau partner ac awdurdodau lleol. Fe wnaethon ni hyrwyddo'r arolwg trwy ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau a negeseuon e-bost wedi'u targedu. 

Demograffeg

Cawson ni 939 o ymatebion gan unigolion sy'n gweithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, sy'n cynrychioli tua 6.1 y cant o gyfanswm y gweithlu. Cyfrifir y ffigur hwn drwy ddefnyddio'r 15,437 o staff a ddywedodd eu bod yn gweithio yn y sector yn y Datganiadau Hunanasesu’r Gwasanaeth a ddychwelwyd i Arolygiaeth Gofal Cymru yn 2025.

Fe wnaethon ni ofyn i bobl am eu rôl yn unol â'r rolau a restrir ar ein fframwaith cymwysterau, er mwyn sicrhau cysondeb.  
Roedd y rhai a gymerodd ran yn cynnwys:

  • 165 o reolwyr gofal dydd / crèche / personau â chyfrifoldeb
  • 153 o warchodwyr plant
  • 131 o arweinwyr / rheolwyr / personau â chyfrifoldeb Dechrau'n Deg
  • 102 o reolwyr cyn ysgol / gofal dydd sesiynol / personau â chyfrifoldeb
  • 100 o ymarferwyr Dechrau'n Deg
  • 91 o ymarferwyr gofal dydd / crèche
  • 39 o ymarferwyr gofal dydd sesiynol / cyn-ysgol
  • 29 o ddirprwy reolwyr gofal dydd / crèche
  • 29 o ymarferwyr cynorthwyol gofal dydd sesiynol / cyn-ysgol
  • 26 o ymarferwyr cynorthwyol gofal dydd / crèche
  • 14 o ddirprwy reolwyr gofal dydd sesiynol / cyn-ysgol
  • 4 o gynorthwywyr gwarchodwr plant.

Proffil y gweithlu

Fe wnaethon ni ddarganfod bod:

  • y rhan fwyaf o bobl a gymerodd ran yn yr arolwg yn fenywod. Dywedodd 98 y cant eu bod yn fenywod ac roedd 1.7 y cant yn ddynion
  • disgrifiodd 97 y cant eu cefndir ethnig fel 'Gwyn' 
  • roedd y grŵp oedran mwyaf cyffredin rhwng 40 a 44 oed (15.9 y cant), ac yna 45 i 49 (14.3 y cant) a 35 i 39 (14.1 y cant) 
  • y tri grŵp oedran lleiaf cyffredin oedd 25 i 29 (6.3 y cant), 60 i 64 (6.1 y cant) a 65+ oed (2.4 y cant)  
  • dywedodd 10.2 y cant eu bod yn ystyried eu hunain yn niwrowahanol 
  • dywedodd tri y cant eu bod yn ystyried eu hunain yn anabl
  • dywedodd 49.6 y cant eu bod yn gallu siarad Cymraeg lefel mynediad, disgrifiodd 10 y cant eu gallu fel lefel sylfaen, 5.1 y cant fel canolradd, 7.9 y cant fel uwch a 9.2 y cant fel medrus  
  • dywedodd 18.2 y cant o'r ymatebwyr nad oedden nhw'n gallu siarad unrhyw Gymraeg. 

Recriwtio a chadw gweithwyr

Gofynnwyd i'r ymatebwyr sut y gwnaethon nhw ddarganfod y cyfle yn y lle cyntaf i weithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Roedd ymatebwyr yn gallu dewis cymaint o opsiynau ag y dymunent o nifer o atebion. Yr ymateb a ddewiswyd amlaf oedd trwy ffrindiau a theulu sy'n gweithio yn y sector, dyma a ddewiswyd gan 34.9 y cant o'r ymatebwyr.

Dywedodd bron i draean (31.5 y cant) eu bod yn meddwl am adael y sector. Dyma rai o'r rhesymau a roddwyd:

  • cyflog isel
  • llwyth gwaith uchel 
  • diffyg cydnabyddiaeth 
  • angen mwy o gymorth staffio/dim digon o staff 
  • cyfleoedd cyfyngedig ar gyfer datblygiad. 

Awgrymodd rhai hefyd fod angen lleihau pwysau gweinyddol a gwaith papur.

Arweinyddiaeth, hyfforddiant a datblygu

Roedd y rhan fwyaf (93.5 y cant) naill ai'n cytuno'n gryf neu'n cytuno bod ganddynt yr hyfforddiant a/neu gymwysterau cywir i wneud eu gwaith yn dda.

Dau berson yn siarad wrth gyfrifiadur

Roedd 34.7 y cant naill ai'n cytuno'n gryf neu'n cytuno yr hoffent symud i rôl arwain yn y dyfodol.

Dywedodd mwy na thraean (35.4 y cant) fod rhwystrau i gael mynediad at hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith yn eu gweithle. 

Yr enghreifftiau mwyaf cyffredin a roddwyd oedd diffyg amser, staffio, neu bwysau o ran cymhareb a chost.

Profiad o weithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant

Fe wnaethon ni ofyn i bobl beth wnaeth eu harwain i weithio yn y maes blynyddoedd cynnar a gofal plant. 

Dyma a ganfuwyd:

  • dywedodd 30.9 y cant eu bod eisiau swydd a fyddai'n gwneud gwahaniaeth 
  • dywedodd 30.4 y cant eu bod eisiau gwaith a fyddai'n gweddu i'w sgiliau / byddent yn dda yn ei wneud
  • dywedodd 13.8 y cant eu bod yn teimlo bod y patrwm gwaith yn gweddu i'w ffordd o fyw 
  • dywedodd 9.5 y cant eu bod yn teimlo y byddent yn ei fwynhau
  • dywedodd 4.6 y cant ei fod oherwydd eu bod yn chwilio am newid mewn gyrfa
  • dim ond 2.9 y cant a ddywedodd mai’r syniad y byddai'n swydd sefydlog neu ddiogel gyda rhagolygon gyrfa da a'u harweiniodd i ymuno â'r sector.

Fe wnaethom hefyd ofyn i bobl a oeddent yn teimlo bod ganddynt ddigon o amser i wneud eu gwaith yn dda ac roedd 51.0 y cant yn cytuno'n gryf neu'n tueddu i gytuno â'r datganiad hwn.

Bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu

Fe wnaethom ofyn i bobl a oeddent wedi profi bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu yn y gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf. 

Gwelsom:

  • dywedodd 4.4 y cant eu bod wedi profi bwlio 
  • dywedodd 2.3 y cant eu bod wedi profi aflonyddu 
  • dywedodd 2.5 y cant eu bod wedi profi gwahaniaethu.

Dywedodd pawb a ddywedodd eu bod wedi profi gwahaniaethu eu bod nhw neu gydweithiwr wedi adrodd amdano. Dim ond tua hanner y rhai a ddywedodd eu bod wedi profi aflonyddu a / neu wahaniaethu a ddywedodd eu bod nhw neu gydweithiwr wedi adrodd amdano. 

Telerau ac amodau

Gofynnwyd i bobl i ba raddau yr oeddent yn fodlon â thelerau ac amodau eu cyflogaeth, megis cyflog, oriau gwaith neu bolisïau. Dywedodd tua hanner (53.8 y cant) eu bod naill ai'n eithaf bodlon neu'n fodlon iawn. Mae mynediad at fuddion cyflogaeth yn amrywio'n sylweddol yn ôl rôl, yn enwedig oherwydd bod rhai grwpiau yn fwy tebygol o fod yn hunangyflogedig.

Casgliad

Mae canlyniadau'r arolwg hwn yn rhoi man cychwyn defnyddiol i gael dealltwriaeth ddyfnach o'r gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Rydyn ni'n yn gobeithio y bydd yr arolwg peilot hwn yn cael ei ailadrodd bob blwyddyn i'n helpu i nodi tueddiadau a meysydd cryfder a gwendid. 

Mae'r hyn a wnaethon ni ddarganfod yn yr arolwg yn unol â'r hyn yr oeddem eisoes yn ei wybod, ac mae'n tynnu sylw at heriau sylweddol i'r gweithlu ynghylch recriwtio, amrywiaeth, telerau ac amodau, hunaniaeth broffesiynol, a chyfleoedd datblygiad. Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd â phartneriaid cenedlaethol a rhanbarthol i ddylanwadu, cefnogi a llunio atebion i'r heriau hyn, lle bynnag y bo modd. 

Y bwlch rhwng y rhywiau

Un o brif ganfyddiadau'r arolwg, er nad yw'n syndod, yw'r bwlch mawr rhwng staff benywaidd a gwrywaidd yn y sector. Gallai cyfran uwch o staff gwrywaidd wella canlyniadau i blant, cryfhau'r gweithlu, herio stereoteipiau rhywedd niweidiol a chefnogi cydraddoldeb. Mae gweithlu cytbwys rhwng y rhywiau yn adlewyrchu cymdeithas Cymru yn well ac yn creu amgylcheddau dysgu cyfoethocach a mwy cynhwysol.

Beth fyddwn ni'n ei wneud

Byddwn yn cryfhau ein gweithgarwch allgymorth cydgysylltiedig i hyrwyddo gyrfaoedd gofal plant i ddynion. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Cwlwm, Gyrfa Cymru, darparwyr hyfforddiant, awdurdodau lleol, partneriaid cymunedol a'n cydweithwyr Gofalwn Cymru i gyrraedd dynion mewn ysgolion, colegau, fforymau cymunedol, digwyddiadau rhanbarthol. Trwy weithio gyda sefydliadau partner, rydym yn anelu at newid canfyddiadau ac ehangu cyfranogiad mewn ffordd gynaliadwy ac ystyrlon.

Proffesiynoldeb, a thelerau ac amodau

Mae'r arolwg yn nodi pryderon gwirioneddol am broffesiynoldeb, statws, a thelerau ac amodau yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae gwella'r meysydd hyn yn hanfodol i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel, cadw gweithwyr medrus, hyrwyddo cydraddoldeb a hwyluso cyfranogiad economaidd.

Beth fyddwn ni'n ei wneud

Heb weithlu â chefnogaeth dda, ni ellir cyflawni uchelgeisiau i blant a theuluoedd. Mae hwn yn faes sy'n cael ei arwain gan bartneriaeth gymdeithasol, a byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn rhannu canlyniadau'r arolwg hwn gydag eraill drwy ein cyfranogiad yng Ngrŵp Strategol Llywodraeth Cymru a'r Fforwm Gwaith Teg. 

Byddwn hefyd yn sefydlu fforymau arweinyddiaeth a rheoli sy'n darparu mannau strwythuredig ar gyfer rhannu’r dysgu, cymorth gan gymheiriaid, ac archwilio heriau. Bydd y fforymau hyn yn canolbwyntio ar faterion allweddol a nodwyd yn yr arolwg, gan gynnwys telerau ac amodau, gan helpu arweinwyr i rannu dulliau effeithiol, deall rhwystrau, a llywio blaenoriaethau gweithlu ehangach.

Llwybrau datblygiad gyrfa

Mae'r arolwg hefyd yn codi pryderon am lwybrau datblygiad aneglur neu gyfyngedig. Gwyddom fod cyfleoedd datblygiad clir yn hanfodol i gadw staff medrus, gwella ansawdd, datblygu arweinyddiaeth a gwneud y gweithlu’n broffesiynol. Mae llwybrau gyrfa clir yn cryfhau morâl, yn cefnogi cydraddoldeb ac yn sicrhau bod gan y sector y gallu i fodloni disgwyliadau cynyddol a galw yn y dyfodol. 

Beth fyddwn ni'n ei wneud

Byddwn yn cynhyrchu ac yn rhannu llwybr gyrfa blynyddoedd cynnar wedi'i ddiweddaru, gan amlinellu'r ystod o lwybrau a rolau o lefel mynediad i arweinyddiaeth. Byddwn hefyd yn adolygu'r dulliau a gymerwyd yng ngwledydd eraill y DU. Byddwn yn cydweithio â'n cydweithwyr Gofalwn Cymru a Gyrfa Cymru fel bod negeseuon cyson a gwybodaeth hygyrch i'r gweithlu presennol a'r gweithlu yn y dyfodol.

Heriau recriwtio

Yn olaf, datgelodd yr arolwg bwysau ynghylch twf y gweithlu a recriwtio. Mae'r gallu i recriwtio gweithwyr newydd yn hanfodol i allu, ansawdd a chynaliadwyedd blynyddoedd cynnar a gofal plant. Heb nifer cyson o newydd-ddyfodiad, ni ellir cynnal neu ehangu darpariaeth. 

Beth fyddwn ni'n ei wneud

Byddwn yn ehangu'r defnydd o dreialon gwaith drwy'r rhaglen Llwybrau i Ofal Plant, gan ganiatáu i fwy o bobl gael profiad uniongyrchol o'r sector. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda chyflogwyr i sicrhau bod y datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) a gynigir i ymarferwyr a rheolwyr yn parhau i fod yn berthnasol, yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion newidiol y gweithlu.

Gweithio gydag eraill i gefnogi'r sector

Trwy gydol y gwaith hwn, rydym yn cydnabod bod nifer o'r heriau a amlygwyd yn yr arolwg yn galw am weithredu drwy’r system gyfan a chydweithredu aml-asiantaeth. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cwlwm, awdurdodau lleol, cyrff proffesiynol, darparwyr addysg, a sefydliadau rheoleiddio fel bod ein hymateb ar y cyd yn seiliedig ar dystiolaeth, wedi'i dargedu ac wedi'i alinio. 

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad gweithlu gofal plant medrus iawn, amrywiol a chynaliadwy sy'n adlewyrchu ac yn gwasanaethu ei gymunedau, gan gyfrannu at flaenoriaethau blynyddoedd cynnar a gofal plant cenedlaethol a'r camau gweithredu a nodir yng Nghynllun Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar 10 mlynedd Llywodraeth Cymru.

Cwestiynau'r arolwg

Lawrlwythwch y cwestiynau isod.