Mae Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth yn gyfle gwych i ni gydnabod, gwerthfawrogi a dathlu pobl niwroamrywiol sy’n rhan hanfodol o’n cymunedau a’r sectorau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yma yng Nghymru.
Rydyn ni’n gwybod bod cryfder y gweithlu gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yn dod o’i amrywiaeth. Mae ein cydweithwyr niwroamrywiol yn dod ag ystod amhrisiadwy o safbwyntiau sy’n cryfhau'r gofal a chymorth sy’n cael ei ddarparu i blant, teuluoedd a phobl ar draws ein cymunedau bob dydd.
Mae Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth yn atgoffa ni o’n cyfrifoldeb parhaus i adeiladu gwasanaethau gofal a chymorth a gweithleoedd lle mae pobl niwroamrywiol yn cael eu ddeall a’u parchu, ac yn gallu ffynnu heb wahaniaethu. Mae hyn yn golygu adeiladu diwylliannau cadarnhaol drwy ddefnyddio gwahanol ffyrdd o feddwl a gweithio, gan ddileu rhwystrau, a meithrin diwylliannau lle mae pawb yn teimlo’n hyderus i fod yn eu hunain.
Wrth i ni ddathlu Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth wythnos nesaf, rydw i'n eich annog chi i gymryd y cyfle i ddiweddaru eich sgiliau trwy ymgymryd dysgu proffesiynol, ymgysylltu â digwyddiadau, yn ogystal â defnyddio’r wythnos i ail-gadarnhau eich ymrwymiad i ymarfer niwro-gynhwysol.