Jump to content
Bywgraffiadau siaradwyr Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2026

Darllenwch y bywgraffiadau isod i wybod mwy am y siaradwyr sy'n arwain ein sesiynau yn ystod Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2026.

Alexandra Beckham, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Mae Alex yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig gyda dros 20 mlynedd o brofiad. Dechreuodd ei gyrfa fel gweithiwr cymorth a hyfforddodd fel gweithiwr cymdeithasol wrth weithio gyda phobl a dderbyniodd wasanaethau gofal a chymorth.

Mae hi'n Bennaeth Gwasanaethau Oedolion blaengar ac ymroddedig gyda gwybodaeth ddofn o Ofal Cymdeithasol Oedolion, gan gynnwys gwaith cymdeithasol, diogelu, gwasanaethau plant, a gwasanaethau a gomisiynwyd.

Mae Alex wedi rheoli gwasanaethau ar lefel ranbarthol a lleol, gan gynnwys diogelu amlasiantaeth, timau gwaith cymdeithasol, a gwasanaethau darparwyr.

Mae hi'n edrych ymlaen at rannu ei phrofiadau o ddewrder wrth weithio mewn sector heriol a chymhleth.

Kate Newman, Rheolwr Llesiant, Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Kate Newman yn reolwr llesiant yng Ngofal Cymdeithasol Cymru ac mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad o weithio mewn rolau iechyd a llesiant mewn a gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.

Mae hi'n dod ag angerdd gwirioneddol dros weithio gyda phobl a sefydliadau, i lywio pam a sut i flaenoriaethu llesiant, hyd yn oed pan fyddwch yn y rolau mwyaf heriol yn emosiynol.

Mae Kate yn hyrwyddo hunan-werthfawrogiad a hyder trwy alluogi pobl i herio hunan-siarad negyddol, dathlu cryfderau personol, a hunan-dosturi. Mae pobl a sefydliadau bob amser yn cael eu hannog i gydnabod a dathlu pam eu bod yn wych. Mae hyn yn cael ei yrru gan ei synnwyr o bwrpas y dylai pawb allu bod eu gorau waeth beth fo'u hamgylchiadau.

Mae Kate yn dod â llawer o brofiad, barn a mewnwelediad ym maes iechyd a llesiant personol, cymunedol a gweithle.

Dr Katharine Daneski, Carers Consultancy Cymru

Mae Katharine yn darparu gofal a chymorth i'w merch a'i hwyrion a'i hwyresau, ac roedd yn ofalwr llawn amser i'w thad tan yn ddiweddar. Fel nyrs ac ymwelydd iechyd, cafodd yrfa fel clinigwr ac fe weithiodd swyddi strategol ym maes iechyd y cyhoedd cyn dod yn ymchwilydd ac yn ddarlithydd yng Ngholeg y Brenin Llundain, Prifysgol Abertawe a'r Brifysgol Agored.

Nick Andrews, Swyddog Datblygu Ymchwil ac Ymarfer, Prifysgol Abertawe

Mae Nick yn Weithiwr Cymdeithasol Cofrestredig ac yn Swyddog Datblygu Ymchwil ac Ymarfer ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n cydlynu'r rhaglen Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth. Mae'r gwaith hwn yn ffocysu ar ddull cyd-gynhyrchu o ddefnyddio tystiolaeth wrth ddysgu a datblygu. Ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn ymarfer ac yn cynllunio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, gall wneud cysylltiadau rhwng ymchwil, polisi ac ymarfer, gyda rhwydwaith ledled Cymru a'r DU. Mae'n frwd dros gefnogi newid o ymarfer sy'n seiliedig ar brosesau i ymarfer sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd.

Emma Miller, Uwch Gydymaith Ymchwil mewn Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol, Prifysgol Strathclyde

Mae Emma yn Uwch Gydymaith Ymchwil mewn Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Strathclyde yn Glasgow. Mae ei gwaith yn ffocysu ar ymarfer sy'n seiliedig ar berthnasoedd, a chanlyniadau personol i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr di-dâl. Mae Emma yn gweithio'n agos gydag ymarferwyr, sefydliadau a phobl sydd â phrofiad bywyd ledled Cymru a'r Alban i gefnogi ymarfer ystyrlon a dyngarol o fewn cyfyngiadau'r byd go iawn. Mae Emma yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig.

Dr Diane Seddon, Cyfarwyddwr Ymchwil, Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor

Diane yw Cyfarwyddwr Ymchwil Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor. Mae hi'n ymchwilydd gofal cymdeithasol sefydledig, sy'n arwain gwaith sydd wedi cefnogi newid mewn cymorth gofal cymdeithasol cenedlaethol (seibiant byr) i ofalwyr. Mae gwaith Diane yn cynrychioli ymrwymiad hirsefydlog i waith ymchwil cydweithredol i wella canlyniadau gofal cymdeithasol i oedolion hŷn a’u gofalwyr. Rhan allweddol o waith Diane yw cynnwys ac ymgysylltu’n weithredol â phobl sydd â phrofiad bywyd.

Cerian Twinberrow - Rheolwr Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Cerian yn Rheolwr Gwaith Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae ei rôl yn ffocysu ar gefnogi datblygiad proffesiynol ac amodau gwaith gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru. Mae Cerian wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers dros 30 o flynyddoedd. Cymhwysodd fel Gweithiwr Cymdeithasol yn 2007 gyda gradd Meistr o Brifysgol Caerdydd, ac mae wedi gweithio yn y trydydd sector a gwasanaethau gwaith cymdeithasol statudol i oedolion yng Nghymru a Lloegr. Mae hi’n weithiwr cymdeithasol cofrestredig.

Anna Louise Edwards

Mae Louise yn unigolyn profiadol o ofal gydag angerdd dros rymuso eraill i fod yn gyfarwyddwyr eu bywydau, trwy gefnogi datblygiad proffesiynol a gwella dealltwriaeth o sut y gall ymarfer ddylanwadu a thrawsnewid bywydau pobl sy'n cael mynediad at gymorth.

Mae Louise wedi bod yn ymwneud â herio a gwella gwasanaethau ers dros 10 mlynedd. Dechreuodd ei thaith pan gafodd ei hethol yn Gadeirydd Cyngor Gofal Pobl Ifanc Wrecsam yn 2016. Daeth yn eiriolwr cryf dros blant a phobl ifanc mewn gofal yn Wrecsam a thu hwnt, gan barhau i fod yn newidiwr mewn gwahanol feysydd sy'n effeithio ar bobl ifanc.

Ar hyn o bryd, mae Louise yn rhan o grŵp cyfranogiad Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd Prifysgol Wrecsam, Outside in, sy'n pontio'r bwlch rhwng theori academaidd a phrofiad byw mewn arferion iechyd a gofal cymdeithasol.

Anna Elliott

Mae Anna yn diwtor staff i’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae hi’n sicrhau bod pobl sy’n derbyn gofal a chymorth, yn ogystal â gofalwyr, yn cymryd rhan lawn yn y rhaglen addysg gwaith cymdeithasol. Mae hi hefyd yn cydlynu grŵp Carers Cymru.

Mae Anna wedi bod yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig ers 1992. Mae ganddi brofiad ym maes cyfiawnder ieuenctid, rhianta, timau plant a theuluoedd, a hyfforddiant a datblygu.

Lance Carver, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bro Morgannwg

Lance yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg. Mae'n arwain gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a phlant ledled y sir. Gyda phrofiad helaeth o arwain yn y sector cyhoeddus, mae Lance wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu dulliau mwy cydgysylltiedig o ymdrin â gofal, gan ffocysu ar wella canlyniadau i unigolion a chymunedau.

Fel Cyd-gadeirydd Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro, mae Lance yn helpu i oruchwylio trefniadau diogelu amlasiantaeth ac yn sicrhau bod partneriaethau effeithiol ar waith i ddiogelu a chefnogi poblogaethau agored i niwed. Mae ei arweinyddiaeth wedi bod yn ganolog i ddatblygu mentrau strategol sy'n cryfhau'r gwaith o ddarparu gwasanaethau ac yn hyrwyddo cydweithio ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn ogystal, arweiniodd Lance y gwaith o ddatblygu a chyflwyno Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Cyflwynodd y rôl eang hon y gweithdrefnau mewn fformat symudol a hygyrch i unrhyw un eu defnyddio yng Nghymru, ac mae'n sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyfredol. Yn 2024 a 2025, Lance oedd Cadeirydd ADSSC, y sefydliad arweinyddiaeth cenedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Nick Howard, Ditectif Arolygydd, Adran ymchwilio i gamfanteisio, atal pobl rhag mynd ar goll, diogelu ac amddiffyn y cyhoedd

Ymunodd Nick â Heddlu Gwent yn 2004 a chyn bo hir symudodd i rolau Ditectif, gan gynnwys rolau yn CID, yr Adran Ymchwilio ac Amddiffyn Plant, a Throseddau Treisgar Difrifol. Ar ôl trosglwyddo i Heddlu De Cymru yn 2017, symudodd ymlaen drwy gyfleoedd am ddyrchafiad ac mae wedi gweithio ym maes Ymchwiliadau, Gwasanaethau Corfforaethol a Diogelu hyd at reng y Prif Arolygydd. Mae ganddo brofiad sylweddol fel ymarferydd, goruchwylydd ac ar lefel strategol, gan weithio gyda phartneriaid i ddiogelu plant ac oedolion sydd naill ai angen help neu gael eu diogelu. Cyn hynny, roedd gan Nick gyfrifoldeb strategol dros Amddiffyn Plant a phobl sydd ar goll yn Heddlu De Cymru. Roedd hyn yn cynnwys ysgrifennu polisïau'r heddlu a gwella gweithdrefnau ac arferion, yn ogystal â sicrhau bod timau rheng flaen yn deall ac yn defnyddio'r newidiadau hyn.

Mae Nick hefyd wedi gweithio ar draws tair ardal Bwrdd Diogelu Rhanbarthol gwahanol ym maes diogelu dros y blynyddoedd, ac mae’n eiriolwr dros drefniadau partneriaeth ‘wyneb yn wyneb’ lle bynnag y bo modd.

Annette Blackstock, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Y Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Annette yn Nyrs Gofrestredig gyda 38 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion. Hyfforddodd fel Ymwelwraig Iechyd yn Nottingham yn 2007 ac aeth ymlaen i gefnogi teuluoedd a phlant lle yr oedd amddifadedd, cam‑drin a cham‑esgeuluso yn effeithio arnyn nhw. Mae hi wedi gweithio gyda Flying Start yn Y Fenni ac yn y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd yng Ngwent.

Mae gan Annette MSc mewn Ymarfer Proffesiynol (Person Bregus), ac ers 2023 mae wedi hyfforddi fel Eiriolwr Nyrsio Proffesiynol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru.

O 2016 i 2022, bu Annette yn gweithio fel y Nyrs Dynodedig ac Arweinydd Diogelu Oedolion ar gyfer Bwrdd Cydlynu Clinigol Swydd Gaerloyw (Bwrdd Gofal Cyfunol). Roedd y rôl arwain heriol hon yn gofyn am arbenigedd diogelu eang a manwl, yn ogystal â gweithio’n agos gyda NHS England, darparwyr iechyd a phartneriaid eraill. Trwy ei phrofiad o gynnal adolygiadau statudol, mae Annette yn credu ei bod yn hanfodol defnyddio’r dysgu o achosion niwed difrifol i lywio blaenoriaethau a llywio datblygiad polisi ac ymarfer.

Mae Annette wedi byw yng Nghymru ers 2010 a dechreuodd weithio gyda’r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol yn 2022 pan gafodd ei phenodi yn Nyrs Dynodedig. Daeth yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol yn 2024. Mae’n ymrwymedig iawn i weledigaeth y NSS i yrru ac arwain gwelliannau strategol ar draws y GIG yng Nghymru drwy arweinyddiaeth, cydweithio, offer gwella, datblygu’r gweithlu, ac ymgorffori polisi ac ymchwil yn yr ymarfer.

Mae Annette yn rhoi anghenion plant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl wrth galon ei gwaith. Mae hi’n canolbwyntio ar gryfhau ymarfer diogelu ar draws GIG Cymru drwy wella ansawdd, gweithio mewn partneriaeth, a chydweithio aml‑asiantaeth.

Katie Jacobs, Rheolwr Gofal Cymdeithasol Plant, Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Katie yn Rheolwr Gofal Cymdeithasol Plant ac yn arweinydd dynodedig diogelu ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hi’n cefnogi gweithlu gofal cymdeithasol plant ac mae ganddi 20 mlynedd o brofiad mewn gwasanaethau plant a diogelu. Mae hi’n weithiwr cymdeithasol cofrestredig ac mae ganddi brofiad o ddiogelu plant, diogelu corfforaethol, troseddu ieuenctid, ac mae’n arwain gwaith ar ecsbloetio, caethwasiaeth fodern a masnachu o fewn sawl awdurdod lleol.

Mae gweithio amlasiantaeth effeithiol wedi bod yn greiddiol i bob rôl y mae hi wedi’i dal, ac mae cydweithio’n hanfodol i wella canlyniadau a chynorthwyo i gadw pobl yn ddiogel.

Rhoda Emlyn Jones, OBE

Mae Rhoda wedi gweithio yn y sectorau gwirfoddol a statudol ers y 1970au, gan ddatblygu gwasanaethau oedolion a phlant ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Cafodd ei henwi'n Gymraes y Flwyddyn yn 2007 am ei chyfraniadau arloesol at ymarfer effeithiol, a chafodd OBE yn 2008 am ei gwaith gyda theuluoedd difreintiedig. Mae hi bellach yn gweithio'n annibynnol ledled y DU, gan gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r gweithlu'n strategol a dulliau perthynol sy'n seiliedig ar gryfderau.

Mae hi wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o wreiddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yng Nghymru ers dros 15 mlynedd.

Laurel Morgan, Rheolwr Tîm Dros Dro y Gwasanaeth Therapiwtig, Cyngor Sir Ddinbych

Mae Laurel yn rheoli tîm sy'n darparu cymorth integredig i deuluoedd ac ymyriadau ar gyrion gofal. Bu’n gweithio fel gweithiwr cymdeithasol am 15 mlynedd ar draws gwasanaethau plant ac iechyd meddwl. Mae hi wedi arwain y gwaith o weithredu dulliau cyfathrebu cydweithredol sy’n seiliedig ar gryfderau mewn gwasanaethau plant ac oedolion. Mae ei hymarfer wedi’i wreiddio mewn creadigrwydd, perthnasoedd a sicrhau bod lleisiau teuluoedd yn parhau i fod wrth galon y broses o wneud penderfyniadau

Rachel Hopkins

Mae Rachel yn Weithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol yn Nhîm Gwaith Cymdeithasol Ysbyty Caerdydd. Mae hi'n gweithio mewn lleoliadau ysbyty cyflym ac yn aml cymhleth, gan sicrhau bod profiadau pobl a gofalwyr yn llywio cynllunio a gwneud penderfyniadau. Mae Rachel yn fentor Cyfathrebu Cydweithredol profiadol ac Addysgwr Ymarfer, sy'n cefnogi ymarfer myfyriol, sy'n seiliedig ar gryfderau ar draws ei thimau, yn enwedig pan fo pwysau'n uchel. Mae hi'n angerddol am gefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso wrth iddyn nhw ddechrau eu hymarfer mewn lleoliadau ysbyty.

Becky Evans, Prif Swyddog Galluogi, Credu

Becky Evans yw Prif Swyddog Galluogi Credu. Mae hi wedi bod yn eiriolwr dros ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau ers amser. Mae hi wedi gweithio ar draws gofal cymdeithasol, addysg, gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol, wedi'i harwain bob amser gan y gred bod gan bawb werth a chryfderau y dylid eu cydnabod a'u meithrin.

Mae arweinyddiaeth Becky wedi'i llunio gan wrando, chwilfrydedd ac ymrwymiad i gysylltiad dynol ystyrlon. Mae hi wedi gweld sut y gall yr egwyddorion hyn helpu pobl i dyfu, a grymuso gofalwyr, pobl ifanc, timau a chymunedau i ddod o hyd i'w hatebion eu hunain.

Mae Becky wedi ymrwymo i sicrhau bod y lleisiau pwysicaf yn cael eu clywed, a chreu mannau lle mae straeon yn arwain at newid. Mae hi'n hyrwyddo diwylliant o garedigrwydd, myfyrio a gweithredu, ac yn parhau i arwain Credu i adeiladu cymunedau lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a'u cefnogi.

Imogen Blood

Mae Imogen Blood yn weithiwr cymdeithasol a drodd yn ymchwilydd, hyfforddwraig a phodledwraig. Mae hi’n rhedeg Imogen Blood & Associates, cwmni ymgynghori ymchwil sy’n canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng tai, gofal a chefnogaeth. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys rheoli risg yn gadarnhaol, digartrefedd aml‑eithriedig a dementia. Mae hi hefyd wedi cyd‑ysgrifennu llyfr am gefnogi pobl hŷn gan ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau ac sy’n cael eu llywio gan ddamcaniaeth ymlyniad.

Eve Piffaretti, Blake Morgan LLP

Mae Eve yn Bartner yn Blake Morgan LLP ac yn arwain swyddfa'r cwmni yng Nghymru. Mae hi'n cynghori gweithwyr cymdeithasol yn rheolaidd ar lawer o faterion cyfreithiol, o gael y gefnogaeth iawn i unigolion agored i niwed i ddelio â dyletswyddau statudol a chyfrifoldebau diogelu. Mae hi hefyd yn cynghori rheoleiddwyr iechyd a gofal proffesiynol ar brosesau addasrwydd i ymarfer, gan gynnwys drafftio canllawiau cyfryngau cymdeithasol a rhyddid mynegiant ar gyfer unigolion cofrestredig.

Mae Eve yn Olygydd Cynorthwyol Gwyddoniadur y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfraith Gofal Plant a Llawlyfr y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Mae hi hefyd yn ddarlithydd gwadd rheolaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Louise Bretland-Treharne

Nyrs niwroleg yw Louise a oedd yn gofalu am bobl ag anafiadau i'r ymennydd a chyflyrau niwrolegol. Mae hi’n dweud iddi fod yn falch iawn pan gyfarfu â thîm People Speak Up. Mae Louise wedi ymroi ei bywyd i rannu ei stori.

Liz Parker, Gofal Cymdeithasol Cymru

Liz yw arweinydd datblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol yn Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae Liz hefyd wedi gweithio ar gylch gwaith y Gymraeg yn y sefydliad am y saith mlynedd diwethaf. Mae ganddi ddiddordeb mewn diwylliant a sut mae’n cael ei adlewyrchu mewn ymarfer.

Akinsanmi Apara

Mae Sanmi yn weithiwr cymdeithasol dan hyfforddiant gyda gwasanaethau oedolion Cyngor Sir Gaerfyrddin. Bu’n gweithio yn flaenorol fel gweithiwr gofal mewn cartref preswyl cyn ymuno ag Academi Gofal y cyngor. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn rôl technoleg gynorthwyol ddigidol mewn gofal cymdeithasol i oedolion.

Rhian Parry

Mae Rhian ar ei lleoliad olaf, mewn tîm gofal plant tymor hir, ac yn disgwyl cwblhau ei gradd Meistr mewn gwaith cymdeithasol eleni. Hyfforddodd fel cerddor clasurol ac fe benderfynodd ddilyn gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol ar ôl treulio amser yn gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol, lle datblygodd angerdd dros yr angen i eirioli dros blant ac oedolion ag anableddau.

Mae’n gobeithio gweithio mewn tîm sy’n cefnogi pobl ifanc ag anableddau, er mwyn dilyn yr angerdd hwn a chyfrannu at wella canlyniadau i bobl ifanc ag anableddau a’u teuluoedd

Eleanor Shaw

Mae Eleanor Shaw yn sylfaenydd ac yn Brif Weithredwr People Speak Up, elusen gelfyddydau ac iechyd sy’n rhoi amser a gofod i bobl ddod o hyd i’w llais.

Mair Davies

Mae Mair yn cefnogi gweithwyr cymdeithasol yn eu tair blynedd gyntaf mewn ymarfer fel cynghorydd dysgu a datblygu. Mae hi hefyd yn rhedeg y grŵp ymarfer a gyfoethogir gan dystiolaeth yn Sir Gaerfyrddin. Mae gan Mair ddiddordeb mewn sut mae creadigrwydd yn cefnogi llesiant yn ymarferol a sut gall gweithwyr cymdeithasol o wahanol ddisgyblaethau weithio gyda'i gilydd i ddatblygu eu hymarfer drwy wrando ar leisiau profiadol.

Siobhan Maclean

Mae Siobhan wedi bod yn weithiwr cymdeithasol ers 35 mlynedd, a daeth yn addysgwr ymarfer ym 1995. Mae Siobhan wedi gweithio'n annibynnol ers blynyddoedd lawer, gan ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith, gan gynnwys hyfforddiant, creu adnoddau dysgu i ymarfer a gwaith ymgynghori.

Yn 2004, daeth Siobhan yn Ysgrifennydd Ffederasiwn Rhyngwladol y Gweithwyr Cymdeithasol, gan ddal y swydd hon am wyth mlynedd.

Mae Siobhan wedi ysgrifennu'n helaeth, yn bennaf ar ddamcaniaethau gwaith cymdeithasol a myfyrio beirniadol, ac mae wedi ymrwymo i wneud gwybodaeth yn glir ac yn hygyrch i ymarferwyr prysur.

Symudodd Siobhan i Ogledd Iwerddon yn ddiweddar, ble mae wedi mwynhau ymgymryd â rôl yr athro ymarfer.

Mae Siobhan yn Gymrawd yr RSA

Bex Steen, Rheolwr Datblygu Arweinyddiaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru

Bex Steen yw Rheolwr Datblygu Arweinyddiaeth Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae ganddi dros 22 mlynedd o brofiad arwain ym maes gofal cymdeithasol rheng flaen. Mae hi’n frwd dros helpu arweinwyr i dyfu ac mae hi’n cael ei hysbrydoli gan leisiau pobl sydd â phrofiad bywyd i wneud newid go iawn ac ystyrlon.

Mae Bex wrth ei bodd yn creu rhaglenni ymarferol a diddorol sy'n rhoi hwb i hyder a chwilfrydedd. Mae hi’n credu bod arweinyddiaeth ardderchog yn golygu mwy na dim ond gwneud penderfyniadau, mae’n ymwneud â phobl.

Ei chenhadaeth yw gwneud i arweinyddiaeth deimlo'n ddynol, yn agos-atoch ac yn effeithiol.