Bydd y sesiwn hon yn edrych ar wella canlyniadau, llesiant staff a diwylliant sefydliadol trwy dosturi.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae’r gweithdy hwn yn deilwredig i’r rhai sydd heb lawer o wybodaeth flaenorol ar arweinyddiaeth dosturiol. Nid oes angen i fynychwyr fod mewn rôl arwain i fynychu.
Cynnwys y sesiwn
Yn y sesiwn hon, byddwn yn:
- dysgu am egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol
- deall y gwahaniaeth gall arweinyddiaeth dosturiol wneud
- trafod ffyrdd ymarferol gallwch ddefnyddio egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol.
Dyddiadau
Rydyn ni’n cynnal y sesiwn hon ar sawl dyddiad. Dim ond un sesiwn sydd angen i chi fynychu
- 11 Mehefin, 1pm i 4pm
- 13 Ionawr 2027, 9am i hanner dydd.