Mae’r sesiwn hon yn gyfle i ddysgu am ddiweddariadau i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Cynnwys y sesiwn
Yn y sesiwn hon, byddwn yn trafod:
- beth yw'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS)
- sut mae’r NOS yn gymwys i ymarfer yng Nghymru
- sut gall y safonau eich cefnogi chi
- y cyfeirlyfr NOS newydd.
Dyddiadau
Rydyn ni’n cynnal y sesiwn hon ar sawl dyddiad. Dim ond un sesiwn sydd angen i chi fynychu:
- 10am i hanner dydd, 16 Mehefin
- 1pm i 2pm, 16 Mehefin
- 2pm i 4pm, 23 Mehefin.