Jump to content
Cyfres gweminarau rhyngwladol i Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHPs) a Gweithwyr Cymdeithasol Cymeradwy (ASWs)
Digwyddiad

Cyfres gweminarau rhyngwladol i Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHPs) a Gweithwyr Cymdeithasol Cymeradwy (ASWs)

Dyddiad
20 Mai 2026, 9.30am i 12.30pm
Lleoliad
Arlein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae'r gyfres o weminarau rhyngwladol yn rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) sy'n dod â Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHPs) yng Nghymru a Gweithwyr Cymdeithasol Cymeradwy (ASWs) yng Ngogledd Iwerddon at ei gilydd.

Mae'r gyfres gweminarau yn dod ag ymarferwyr iechyd meddwl at ei gilydd i fyfyrio, dysgu a gweithio ar y cyd. Mae'n creu gofod proffesiynol i bobl sy'n gweithio o dan wahanol gyfreithiau ond sy'n cyflawni rolau statudol tebyg.

Er bod ASWs ac AMHPs yn gweithio o dan ddeddfwriaeth wahanol (Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gogledd Iwerddon) 1986 a Deddf Galluedd Meddyliol (Gogledd Iwerddon) 2016 ar gyfer ASWs a Deddf Iechyd Meddwl 1983 (fel y'i diwygiwyd) ar gyfer AMHPs), mae'r ddwy rôl yn cynnwys gwneud penderfyniadau annibynnol ynghylch derbyn gorfodol a diogelu hawliau pobl.

Bydd y gyfres yn:

  • edrych ar beth sydd gan y rolau hyn yn gyffredin
  • esbonio gwahaniaethau allweddol yn y gyfraith ac ymarfer proffesiynol
  • archwilio datblygiadau polisi ac ymarfer newydd ar draws cenhedloedd
  • cefnogi dysgu a rennir a myfyrio proffesiynol.

Bydd y gyfres hefyd yn cryfhau cymuned broffesiynol ASWs ac AMHPs. Mae'n cydnabod bod y rolau hyn yn gymhleth ac mae’n aml yn cynnwys gweithio o dan bwysau mawr.

Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn a byddan nhw'n cael eu cynnal ar-lein ar Microsoft Teams.

Gall pob ASW yng Ngogledd Iwerddon a pob AMHP yng Nghymru ymuno.

Nod y gweminarau

Bydd y rhaglen gydweithredol yn:

  • annog trafodaeth broffesiynol rhwng ASWs ac AMHPs ar draws gwahanol genhedloedd
  • cynnig cyfleoedd DPP clir a strwythuredig
  • cefnogi myfyrio ar wneud penderfyniadau statudol a barn broffesiynol
  • archwilio gwahaniaethau mewn systemau, yn ogystal â heriau tebyg, mewn cyfraith ac ymarfer iechyd meddwl
  • cryfhau cymuned ymarfer ar draws awdurdodaethau.

Fformat

Bydd pob sesiwn yn cynnwys:

  • cyflwyniadau ymarfer byr o bob cenedl
  • diweddariadau ar ddatblygiadau polisi ac arferion allweddol
  • trafodaeth a myfyrio rhyngweithiol
  • amser i gytuno ar themâu ar gyfer sesiynau yn y dyfodol

Sesiwn 1

Gweithwyr Cymdeithasol Cymeradwy a Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy: Rôlau, cyd-destunau a heriau

Pwrpas

Bydd y sesiwn gyntaf yn cyflwyno rolau ASW ac AMHP ac yn esbonio'r fframweithiau cyfreithiol ac ymarfer yng Ngogledd Iwerddon a Chymru. Bydd hefyd yn dechrau sgwrs am heriau proffesiynol tebyg a blaenoriaethau ar gyfer dysgu yn y dyfodol.

Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad ar y model Gofal Cywir Person Cywir (RCRP) a'r hyn y mae'n ei olygu i wasanaethau iechyd meddwl.

Agenda

1. Croeso a chyflwyniad

Trosolwg o'r gyfres gweminarau cydweithredol rhyng-genedl

  • pwrpas y cydweithrediad
  • cyd-destun ar gyfer dysgu traws-genedl
  • strwythur y gyfres

2. Rôl ASW yng Ngogledd Iwerddon (Hyd: 30 munud)

Cyflwynydd:
Steph Kerr, Rheolwr Gwasanaeth - Deddf Galluedd Meddyliol a Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Cymeradwy, Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Belfast

3. Rôl yr AMHP yng Nghymru (Hyd: 30 munud)

Cyflwynydd:
Katherine Lewis, Cyngor Caerdydd

4. Gofal Cywir Person Cywir (RCRP) (Hyd: 45 i 60 munud)

Cyflwynydd:
Michael Brown

5. Trafod a gosod yr agenda ar gyfer sesiynau yn y dyfodol

Datganiad ar y cyd gan yr hwyluswyr

Mae'r gyfres weminarau hon yn dwyn ynghyd ymarferwyr sy'n cyflawni rolau iechyd meddwl statudol mewn gwahanol rannau o'r DU. Mae'n creu gofod a rennir ar gyfer myfyrio, trafod a chydweithio.

Mae ASWs ac AMHPs yn gweithio o dan wahanol gyfreithiau, ond mae'r ddwy rôl yn canolbwyntio ar amddiffyn hawliau pobl, gwneud penderfyniadau annibynnol, a darparu gofal cyfreithlon a thosturiol.

Trwy gysylltu ymarferwyr o Ogledd Iwerddon a Chymru, mae'r gyfres yn cefnogi dysgu a rennir, myfyrio proffesiynol, a chymuned gref o ymarfer.

Mae'r safbwyntiau a'r barn a fynegir yn y gweithdai hyn yn rhai y siaradwyr ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn y sefydliad y maent yn ei gynrychioli, na safbwyntiau a barn Gofal Cymdeithasol Cymru.

The views and opinions expressed at these workshops are those of the speakers and do not necessarily reflect the views of the organisation they represent, or the views and opinions of Social Care Wales.