Rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod ni’n cynnal cynhadledd genedlaethol blynyddoedd cynnar a gofal plant eto eleni, ar ddydd Mercher 23 Medi yn Stadiwm Swansea.com, Abertawe.
Mae'r gynhadledd am ddim i fynychu ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Ymunwch â ni i glywed gan arbenigwyr blynyddoedd cynnar, yn ogystal ag ymarferwyr o leoliadau fydd yn rhannu sut mae addasu'r theori i ymarfer dydd i ddydd. Bydd y diwrnod hefyd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer dysgu proffesiynol, myfyrio a rhwydweithio.
Cynnwys y sesiwn:
- Ymarfer gwrth-wahaniaethu – byddwn ni'n archwilio sut y gellir gwreiddio ymarfer gwrth-wahaniaethu a gwrth-hiliaeth mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, gan gynnwys gwrando ar brofiadau bywyd, ymarfer myfyriol, gweithio mewn partneriaeth a’r heriau o greu newid ystyrlon a chynaliadwy.
- Arweinyddiaeth a rheolaeth – byddwn ni'n edrych ar beth sy’n gwneud arweinyddiaeth effeithiol yn y sector a sut y caiff ei ddangos yn ymarferol, gan gynnwys yr effaith gadarnhaol ar gadw staff a’u llesiant.
- Cyflwyniad i fframwaith NYTH – cefnogi iechyd meddwl a llesiant babanod, plant a phobl ifanc.
- Llesiant – gwerthfawrogi a grymuso staff a phlant, a chreu amgylcheddau cadarnhaol lle mae pawb yn teimlo’n hapus, yn ddiogel ac yn saff.
Edrychwn ymlaen i’ch gweld yn y gynhadledd!
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â eycc@socialcare.wales