Jump to content
Adeiladu NYTH: cefnogi iechyd meddwl a llesiant mewn babanod, plant a phobl ifanc
Digwyddiad

Adeiladu NYTH: cefnogi iechyd meddwl a llesiant mewn babanod, plant a phobl ifanc

Dyddiad
16 Mehefin 2026, 10am i 11.10am
Lleoliad
Ar-lein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru

NYTH (rhoi Nerth, Ymddiried, Tyfu’n ddiogel, Hybu) yw sut mae pobl ifanc yn disgrifio’r ffordd dylai gofal iechyd meddwl a llesiant deimlo.

Bydd y gweminar hwn yn eich helpu i ddeall fframwaith NYTH a sut mae’n helpu pawb sy’n ymwneud â bywyd plentyn i sicrhau fod y plentyn yn medru ffynnu.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r digwyddiad hwn i bawb sy’n gweithio â phlant a phobl ifanc.

Cynnwys y sesiwn

Mae’r sesiwn hon yn gyfle gwych i:

  • ddysgu beth yw NYTH a pham mae’n bwysig
  • ystyried sut gall leoliadau gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar ddefnyddio fframwaith NYTH
  • derbyn canllawiau ar ddefnyddio teclyn hunan-asesu NYTH
  • clywed am enghreifftiau bywyd go iawn o NYTH.