Mae pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.
Er mwyn sicrhau bod y gweithlu yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi nawr ac yn y dyfodol, mae gan Gymru Strategaeth Genedlaethol y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r strategaeth hon yn nodi'r hyn sydd ei angen i helpu staff i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, wedi'u hyfforddi'n dda, ac yn gallu gwneud eu gwaith gorau.
Fel rhan o hyn, rydyn ni’n diweddaru'r Cynllun gweithlu gwaith cymdeithasol ac yn creu Cynllun gweithlu gofal preswyl i blant newydd. Bydd y cynlluniau hyn yn helpu i droi nodau hirdymor y strategaeth yn gamau gweithredu clir sy'n adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yn y sector.
Rydyn ni hefyd yn casglu mewnwelediad gan Addysgwyr Ymarfer i ddeall sut mae myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn cael eu cefnogi yn eu lleoliadau. Mae hyn yn helpu i adeiladu darlun llawnach o'r gweithlu ac yn sicrhau bod y cynlluniau terfynol yn cydnabod pawb sy'n ymwneud â datblygu gweithwyr proffesiynol y dyfodol.
Trwy wrando ar bobl ar draws y sector, gallwn ni wneud yn siŵr bod y cynlluniau wedi'u seilio ar anghenion gwirioneddol y gweithlu. Ein bwriad yw i helpu i lunio gweithlu gofal cymdeithasol cryfach, gyda fwy o gefnogaeth ar gyfer y blynyddoedd i ddod.