Jump to content
Arolwg newydd yn rhoi darlun o’r gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant
Newyddion

Arolwg newydd yn rhoi darlun o’r gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae ein harolwg cyntaf o'r gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru yn rhoi darlun cliriach o'r bobl sy'n gweithio yn y sector, beth sy'n eu cymell a'r heriau maen nhw’n eu hwynebu. 

Cymerodd mwy na 900 o bobl mewn amrywiaeth o rolau ran yn yr arolwg rhwng Hydref a Rhagfyr 2025, sy'n cynrychioli tua 6.1 y cant o'r gweithlu*.

Mae'r canlyniadau'n cadarnhau llawer o'r materion yr oedden ni eisoes yn gwybod amdanynt, gan gynnwys heriau ynghylch recriwtio, amrywiaeth, telerau ac amodau, a chyfleoedd dilyniant gyrfa.

Mae'r arolwg yn datgelu gweithlu sy'n fenywod yn bennaf, yn wyn ac rhwng 35 a 49 oed. Gall y rhan fwyaf siarad rhywfaint o Gymraeg, gyda dim ond 18.2 y cant yn dweud nad ydyn nhw'n gallu siarad unrhyw Gymraeg.

Mae'n ymddangos bod y gweithlu wedi'i ysgogi gan bwrpas yn hytrach na thâl. Dywedodd tua thraean (30.9 y cant) eu bod wedi dechrau gweithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant oherwydd eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth, tra bod 30.4 y cant eisiau swydd a fyddai'n addas i'w sgiliau neu y bydden nhw’n dda ynddi. Dim ond 2.9 y cant a ddywedodd eu bod wedi ymuno â'r sector oherwydd eu bod yn meddwl y byddai'n swydd sefydlog neu ddiogel gyda rhagolygon gyrfa da.

Er bod 93.5 y cant yn dweud bod ganddyn nhw’r hyfforddiant cywir i wneud eu swydd, mae pryderon am lwybrau dilyniant gyrfa aneglur neu gyfyngedig. Dywedodd tua 34.7 y cant yr hoffen nhw symud i rôl arweiniol yn y dyfodol, ond roedd mwy na thraean yn wynebu rhwystrau i hyfforddiant, fel diffyg amser, prinder staff a chost.

Roedd ychydig dros hanner (53.8 y cant) yn fodlon ar eu telerau ac amodau, fel cyflog, oriau gwaith a pholisïau, ond mae pwysau parhaus o amgylch recriwtio a thwf y gweithlu. Mae bron i draean (31.5 y cant) yn ystyried gadael y sector oherwydd ffactorau fel cyflog isel, llwyth gwaith uchel, diffyg cydnabyddiaeth, cyfleoedd cyfyngedig i ddatblygu a phrinder staff.

Mae'r canfyddiadau hyn yn fan cychwyn defnyddiol i ddeall y gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru yn well. Byddwn ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid cenedlaethol a rhanbarthol i ddylanwadu, cefnogi a llunio atebion i'r heriau hyn, lle bynnag y bo modd. 

Mae rhai o'r camau rydyn ni'n eu cymryd yn cynnwys: 

  • dechrau ein gweithgaredd allgymorth cydgysylltiedig i hyrwyddo gyrfaoedd gofal plant i ddynion
  • sefydlu fforymau arweinyddiaeth a rheoli ar gyfer dysgu a chymorth a rennir
  • diweddaru'r llwybr gyrfa blynyddoedd cynnar
  • ehangu treialon gwaith drwy ein rhaglen Llwybrau at Ofal Plant. 

Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: 

"Diolch i bawb a gymerodd ran yn ein harolwg cyntaf o'r gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Mae eich ymatebion wedi rhoi mewnwelediad amhrisiadwy i ni am weithio yn y sector.

“Rydyn ni’n ffodus bod gennym weithlu sy’n cael ei yrru gan werthoedd, gyda phobl wedi’u cymell gan wneud gwahaniaeth. Mae’r canfyddiadau hefyd yn tynnu sylw at hyder cryf mewn sgiliau a hyfforddiant, ochr yn ochr ag uchelgais i symud ymlaen i rolau arweinyddiaeth.

"Fodd bynnag, mae’r sector yn wynebu heriau, ac rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen i fynd i’r afael â’r rhain. Dros y flwyddyn i ddod, mae ein cynlluniau yn cynnwys rhaglenni allgymorth wedi'u targedu, digwyddiadau ymgysylltu, a chyfleoedd ar gyfer dysgu a chefnogaeth. Byddwn ni hefyd yn parhau i ganolbwyntio ar lwybrau gyrfa ac yn ehangu ein rhaglen treialon gwaith.

"Byddwn ni’n cynnal ein harolwg blynyddol nesaf yn yr hydref, ac rwy’n annog cymaint o bobl â phosib i gymryd rhan. Mae eich llais yn chwarae rhan bwysig wrth lunio sut rydyn ni a’n partneriaid yn cefnogi'r sector.”

*Mae'r ffigur hwn yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio'r 15,437 o staff a ddywedodd eu bod yn gweithio yn y sector yn y Datganiadau Hunanasesu’r Gwasanaeth a ddychwelwyd i Arolygiaeth Gofal Cymru yn 2025.

Darllenwch yr adroddiad

Gallwch ddarganfod mwy am ganlyniadau'r arolwg a'n camau nesaf i gefnogi'r gweithlu yn ein hadroddiad uchafbwyntiau.