Ymunwch a ni i glywed mwy am yr ystod o wasanaethau, cymorth ac adnoddau sydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae'r sesiwn yma ar gyfer cyflogwyr gweithwyr cofrestredig gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys Unigolion Cyfrifol a rheolwyr cofrestredig.
Cynnwys y sesiwn
Dewch i glywed am y gwasanaethau, cymorth ac adnoddau sydd ar gael i chi gan gynnwys:
- ein ‘cynnig i gyflogwyr’ a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gofal Cymdeithasol Cymru
- Y Codau Ymarfer Proffesiynol a chanllaw newydd
- gwasanaethau cymorth yn y gwaith gan Mind Powys
- cymunedau ymarfer - darganfyddwch fwy am ddwy gymuned newydd i gefnogi data digidol mewn gofal cymdeithasol
- diwylliannau cadarnhaol - dysgwch fwy am egwyddorion diwylliannau cadarnhaol a pham maen nhw'n bwysig
- pŵer adrodd straeon mewn gofal cymdeithasol - archwilio'r fframwaith adrodd straeon.
Bydd cyfle hefyd i barhau i sgwrsio am y pynciau uchod ag arbenigwyr a staff eraill, i archwilio sut gallwch chi ddefnyddio’r cymorth a’r adnoddau yn eich sefydliad.
Bydd diodydd a chinio ar gael.