Mae’r sesiwn hon yn gyfle i gysylltu, dysgu a rhannu’r pethau sy’n medru cefnogi llesiant yn y gwaith.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae’r sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sy’n cefnogi llesiant pobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.
Cynnwys y sesiwn
Yn y sesiwn hon, byddwn yn:
- cyflwyno’r fframwaith llesiant
- edrych ar y drafft ddiweddaraf a cheisio ei defnyddio
- meddwl am y ffyrdd rydyn ni’n barod yn cefnogi llesiant ac ystyried sut y gallwn ni wella.