Yn y sesiwn hon, byddwn yn dysgu beth yw’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, eu pwrpas a sut y gallwch eu defnyddio i gefnogi’ch sefydliad.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae’r sesiynau hyn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yng ngofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.
Cynnwys y sesiwn
Yn y sesiwn hon, byddwn ni’n trafod:
- pwrpas y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol
- sut y gallwch ddefnyddio’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol
- cyfleoedd ar gyfer defnyddio’r Safonau
- beth sydd ar gael ar ein tudalen we Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.