Jump to content
Grant Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2018/19
Ymgynghoriad

Grant Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2018/19

- | Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau

Ers Ebrill 2017, mae'r Grant Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn rhan allweddol o gylch gorchwyl Gofal Cymdeithasol Cymru. Er y cytunwyd na fyddai 2017/2018 yn gweld unrhyw newid i weinyddiaeth na chyflenwad y grant, mae Gofal Cymdeithasol Cymru nawr yn dymuno cael adborth ar sut y cyflwynir y grant hwn a'i weinyddu o 2018/2019 ymlaen.

O ganlyniad i waith cwmpasu cychwynnol, mae'r egwyddorion arfaethedig i ategu gweithrediad y grant yn y dyfodol fel a ganlyn:

  • Hybu datblygiad effeithiol y gweithlu gofal cymdeithasol presennol ag yn y dyfodol i wella sgiliau a gallu
  • Annog a datblygu ei ffocws partneriaeth ar lefel ranbarthol
  • Bod yn seiliedig ar ddull cyllido cyfatebol
  • Canolbwyntio ar flaenoriaethau strategol allweddol mesuradwy a chyraeddadwy
  • Gweithredu fel y prif lwybr i Ofal Cymdeithasol Cymru ddosbarthu unrhyw adnoddau ariannol hyfforddi a datblygu i'r sector
  • Yn cael ei weinyddu yn unol ag arfer da
  • Cefnogi cynllunio cynaliadwy tymor hir ar gyfer Dysgu a Datblygu

Mae'r ddolen sy'n dilyn yn esbonio ein syniad y tu ôl i bob un o'r egwyddorion hyn mewn ychydig mwy o fanylder a byddem yn gwerthfawrogi eich adborth ar yr egwyddorion arfaethedig ac unrhyw egwyddorion ychwanegol i ategu'r grant yn y dyfodol. Dylid anfon adborth i SCWDP@gofalcymdeithasol.cymru erbyn 25 Medi 2017.