Sut wnaethon ni ddewis y pynciau ar gyfer ein sioeau teithiol ymchwil yn Llandudno a Chaerdydd.
Rydyn ni’n cynnal dwy sioe deithiol er mwyn i chi gael gwybod mwy am y pynciau ymchwil sydd o bwys i chi.
Rydyn ni wedi ymuno ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i drefnu’r digwyddiadau yn Llandudno ar 23 Mai a Chaerdydd ar 13 Mehefin.
Yn ddiweddar, gweithion ni gyda’r James Lind Alliance i ofyn i ymarferwyr a phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth pa faterion a chwestiynau oedd yn bwysicach iddyn nhw.
Llwyddodd y gwaith hwn i helpu ni ddod o hyd i'r 10 prif flaenoriaeth ymchwil mewn gofal a chymorth i bobl hŷn a phlant a theuluoedd.
Ond nid ar y 10 prif flaenoriaeth yn unig y bydd ein ffocws ar gyfer y sioeau teithiol.
Yn ystod y broses, gwelsom eich bod yn chwilio am ymchwil sydd yn bodoli yn barod mewn rhai achosion.
Rydyn ni am ddod a mwy o'r ymchwil hwnnw i'ch sylw.
Y broses o osod blaenoriaethau
Mae’r JLA yn fenter ddi-elw sy’n dod a chleifion, gofalwyr a chlinigwyr ynghyd i ffurfio partneriaethau gosod blaenoriaethau.
Mae'r partneriaethau hyn yn dod o hyd i fylchau ymchwil ac yn eu graddio i helpu'r bobl sy'n ariannu ymchwil i wneud penderfyniadau gwybodus.

Beth oedd canlyniad y gwaith?
Cynhyrchodd y gwaith restr o 10 blaenoriaeth ymchwil ym mhob maes.
Y 10 prif flaenoriaeth: Cymorth i blant a theuluoedd
- Sut y gellir cefnogi teuluoedd i ddatrys problemau drostynt eu hunain a chymryd mwy o reolaeth dros eu bywydau?
- Sut gall ymarferwyr wneud mwy o ddefnydd o ymarfer wedi’i lywio gan drawma yn eu gwaith o ddydd i ddydd?
- Beth yw’r ffyrdd gorau o gefnogi plant ac aelodau o’r teulu sy’n profi anawsterau iechyd meddwl?
- Dewch o hyd i'r 10 prif flaenoriaeth yn llawn ar wefan y JLA.
Y 10 prif flaenoriaeth: Gofal a chymorth i bobl hŷn
- A yw cynllunio gofal cynnar a/neu gyswllt cynnar neu reolaidd gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol yn helpu i atal problemau ac yn arwain at brofiadau gwell i bobl hŷn nag aros nes bod argyfwng?
- Sut gallwn ni leihau unigedd a straen ymhlith gofalwyr pobl hŷn ac atal llosgi allan?
- Sut y gall gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd, gan gynnwys y sector gwirfoddol, gydweithio’n fwy effeithiol i ddiwallu anghenion pobl hŷn?
- Dewch o hyd i'r 10 prif flaenoriaeth yn llawn ar wefan y JLA.

Pam nad ydych yn canolbwyntio ar y 10 prif flaenoriaeth yn unig?
Yn ogystal â dod o hyd i'r 10 prif flaenoriaeth ym mhob maes, gwelsom fod bwlch rhwng y dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli a'r hyn y mae pobl yn gwybod amdano ar hyn o bryd.
Roedd pobl yn codi cwestiynau ar faterion y mae ymchwil wedi'i wneud amdanynt yn barod.
Rydyn ni'n gwybod bod y pethau hyn yn bwysig i chi. Gwyddom hefyd fod tystiolaeth ar gael. Rydyn ni am ddod â mwy ohono i'ch sylw yn ein sioeau teithiol.
Pynciau y byddwn yn trafod
Bydd y sioeau teithiol yn ymdrin ag ystod eang o themâu.
Mae llawer o'r themâu hyn wedi'u dewis ar sail y cwestiynau a godwyd gennych yn ystod y broses pennu blaenoriaethau.
Er y bydd ffocws ar edrych y tu hwnt i’r 10 prif flaenoriaeth, bydd rhai o’r themâu hefyd yn berthnasol i’r 10 uchaf hynny.
Cymorth i blant a theuluoedd – Venue Cymru, Llandudno, 23 Mai, 9.30am i 3.45pm
- Costau byw
- Atal plant rhag bod mewn gofal
- Pobl ifanc a risg
- Gwaith yn seiliedig ar gryfderau gyda phlant a theuluoedd
- Plant sy’n derbyn gofal
Gofal a chymorth i bobl hŷn – Neuadd y Ddinas, Caerdydd, 13 Mehefin, 9.30am i 3.45pm
- Gwerthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
- Cefnogaeth i ofalwyr di-dâl
- Gofalu am yr holl berson hŷn
- Gwaith cymdeithasol gyda phobl hŷn yn ei gyd-destun
- Technoleg mewn gofal cymdeithasol i oedolion

Sut bydd y diwrnod yn gweithio?
Bydd y sioeau teithiol yn cynnwys cyflwyniadau gan ymchwilwyr o bob rhan o Gymru.
Yna cewch gyfle i drafod y pynciau yn fanylach gyda’r ymchwilwyr eu hunain ac ymarferwyr eraill.
Rydyn ni eisiau i chi gymryd cymaint o ran â phosib, gan eich helpu chi i ddod o hyd i'r atebion rydych chi'n chwilio amdanynt.
Archebwch le: Llandudno
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad ar 23 Mai ar gael am ddim trwy Eventbrite.
Archebwch le: Caerdydd
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad ar 13 Mehefin ar gael am ddim trwy Eventbrite.