Jump to content
Noddi Gwobrau 2024

Yn anffodus oherwydd gollyngiad dŵr dydy ein llinellau ffôn ddim yn gweithio. Rydyn ni’n gweithio'n galed i ddatrys y mater ac yn ymddiheuro am unrhyw broblemau a achosir.

Gwybodaeth am gyfleoedd i noddi Gwobrau 2024.

Mae’r Gwobrau yn gyfle i’ch sefydliad ddangos eich cefnogaeth i weithwyr sy’n gwneud cymaint i gefnogi eraill yn ein cymunedau.

Trwy noddi’r Gwobrau, gallwch:

  • helpu’n uniongyrchol i godi safonau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru
  • cael eich cysylltu â rhagoriaeth a chyflawniad.

Byddwn ni hefyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i gefnogaeth eich sefydliad i’r Gwobrau i fwy na 100,000 o weithwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. A hyn i gyd am fuddsoddiad cymharol fach.

Pam noddi Gwobrau 2024?

Mae noddi Gwobrau 2024 yn gost-effeithiol, ac mae yna fuddion amlwg. Mae sawl rheswm pam mae noddi'r gwobrau’n gwneud synnwyr busnes da:

  • mae ganddyn nhw broffil uchel

Mae'r sector yn cydnabod y Gwobrau fel uchafbwynt llwyddiant y rhai sy'n darparu gwasanaethau i oedolion a phlant yng Nghymru.

Mae hyn yn golygu bod y Gwobrau'n uchel iawn eu parch ymysg y gweithlu o 100,000 o bobl.

Fel arfer, mae nifer o'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol yn bresennol yn y seremoni wobrwyo, fel:

  • y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
  • uwch swyddogion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol
  • cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol
  • cynghorwyr lleol â chyfrifoldeb am wasanaethau cymdeithasol
  • penaethiaid sefydliadau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar cenedlaethol
  • rheolwyr sefydliadau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar.
  • maen nhw’n sefyll am ragoriaeth a chyflawniad

Nod y Gwobrau yw cydnabod timau a gweithwyr gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar gorau oll.

Mae'r safon yn uchel iawn, sy'n gwneud y Gwobrau yn opsiwn gwych i sefydliadau sy'n dymuno cael eu cysylltu â rhagoriaeth a chyflawniad.

  • maen nhw'n uniongyrchol gysylltiedig â sicrhau safonau gofal a chymorth uchel yng Nghymru

Bydd eich nawdd yn helpu i ysgogi'r rhai sy'n cymryd rhan i gadw safonau'n uchel a rhannu ymarfer nodweddol gyda'u cydweithwyr.

  • maen nhw’n fuddsoddiad cost-effeithiol

Yn fwy nag erioed, mae angen prisio’r pecynnau nawdd yn rhesymol i wneud synnwyr busnes i unrhyw sefydliad. Dyna pam mae’r gost o fod yn rhan o’r Gwobrau yn costio cyn lleied â £2,500.

Pecynnau nawdd

Mae dwy ffordd y gallwch chi gefnogi Gwobrau 2024:

  • fel y prif noddwr
  • drwy noddi gwobr.

Prif noddwr

Fel y prif noddwr, byddwch chi’n cael:

  • eich enw a’ch logo ar yr holl ddeunydd cyfathrebu am y Gwobrau 2024
  • eich enw a’ch logo ar ein tudalennau gwe yn hyrwyddo’r Gwobrau
  • hyperddolen i’ch gwefan o dudalennau gwe’r Gwobrau
  • marchnata ar-lein, drwy e-bost ac ar y cyfryngau cymdeithasol rhwng nawr a’r seremoni wobrwyo
  • logo prif noddwr y Gwobrau wedi’i gynllunio’n arbennig i chi ei ddefnyddio ar eich deunydd swyddfa a marchnata hyd at 1 Rhagfyr 2024
  • eich crybwyll ym mhob datganiad newyddion am y Gwobrau 2024
  • bwrdd i wyth mewn safle heb ei ail yn y seremoni wobrwyo amser cinio ddydd Iau, 25 Ebrill 2024 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd
  • eich enw a’ch logo yn cael eu harddangos yng nghanol y llwyfan yn y seremoni wobrwyo
  • eich enw a’ch logo ar y cyflwyniad sleidiau yn ystod y seremoni wobrwyo
  • cydnabyddiaeth o'ch cefnogaeth mewn areithiau gan ein Cadeirydd a'r prif gyflwynydd
  • cyfle i siarad am hyd at bum munud ar ddechrau'r seremoni wobrwyo
  • cyfle i gael stondin arddangos yn y seremoni wobrwyo
  • eich enw ar dlysau a thystysgrifau pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol
  • eich enw a’ch logo yn rhaglen y seremoni wobrwyo
  • hysbyseb tudalen lawn yn rhaglen y seremoni wobrwyo
  • crybwyll eich enw yn ein heitemau e-fwletin am y Gwobrau, sy'n cyrraedd mwy na 60,000 o bobl.

Noddi gwobr

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn noddi un o'r gwobrau, mae chwe categori i ddewis ohonyn nhw. Mae tri ar gyfer timau a sefydliadau, a thri ar gyfer gweithwyr a timoedd.

Trwy noddi un o’r categorïau, byddwch chi’n cael:

  • nawdd egsgliwsif i'r categori gwobrau o’ch dewis
  • eich enw ym mhob math o ddeunydd cyfathrebu am eich categori
  • eich enw a'ch logo ochr yn ochr â'ch categori dewisol ar ein tudalennau gwe yn hyrwyddo Gwobrau 2024
  • eich crybwyll ym mhob datganiad newyddion am y Gwobrau 2024
  • pum lle am ddim ar fwrdd mewn safle heb ei hail yn y seremoni wobrwyo amser cinio ddydd Iau, 25 Ebrill 2024 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd
  • eich enw a’ch logo wrth ymyl eich categori noddedig yn rhaglen y seremoni wobrwyo
  • eich enw a’ch logo ar brif arddangosfa’r llwyfan yn y seremoni wobrwyo
  • cyfle i gyflwyno’ch gwobr i'r prosiect neu weithiwr buddugol
  • ffotograffau gydag’ch enillydd gwobr.

Cysylltwch â ni i ddod yn noddwr

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn brif noddwr neu noddi categori gwobrwyo, anfonwch e-bost at Bethan Price yn gwobrau@gofalcymdeithasol.cymru

Cyhoeddwyd gyntaf: 2 Tachwedd 2023
Diweddariad olaf: 2 Tachwedd 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (39.6 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch