Jump to content
Rhannwch eich barn am ein newidiadau i’r Codau Ymarfer Proffesiynol
Newyddion

Rhannwch eich barn am ein newidiadau i’r Codau Ymarfer Proffesiynol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n diweddaru ein Codau Ymarfer Proffesiynol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr i wneud yn siŵr eu bod mor glir a hawdd eu defnyddio â phosibl.

Mae’r codau yn set o safonau y mae’n rhaid i bawb sydd wedi cofrestru gyda ni eu dilyn, er mwyn helpu i gadw pobl yn ddiogel.

Nid ydyn ni wedi diweddaru’r codau er 2017, ac ers hynny mae nifer y bobl sydd wedi cofrestru gyda ni wedi cynyddu o 11,000 i dros 60,000 o bobl.

Y llynedd buom yn siarad â mwy na 300 o bobl sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol ac fe wnaethon ni ofyn am barn am y codau. Clywsom eu bod am iddynt fod yn symlach ac yn fyrrach. Rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau yn seiliedig ar yr adborth hwn a hoffen ni wybod beth yw eich barn amdanynt.

Os ydych chi’n weithiwr gofal cymdeithasol neu’n gyflogwr, nid yw’r codau diwygiedig yn gofyn ichi newid eich ymarfer mewn unrhyw ffordd. Nod y geiriad newydd arfaethedig yw ei gwneud yr hyn a ddisgwylir gennych chi yn gliriach .

Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Disgwylir i bob gweithiwr gofal cymdeithasol, rheolwr a chyflogwr yng Nghymru weithio yn unol â’n codau ymarfer proffesiynol. Rydyn n hefyd yn ymgorffori’r codau mewn adnoddau i gefnogi’r sector megis cymwysterau ac ymarfer arweiniad felly mae'n bwysig ein bod ni’n clywed gan gynifer o bobl â phosibl am ein newidiadau.

“Rydyn ni’n awyddus iawn i glywed gan bobl sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol a gan unrhyw un sy’n derbyn gofal a chymorth gan ein gweithlu. Mae pob safbwynt yn bwysig felly dywedwch wrthym ni beth yw eich barn.”

Sut gallwch chi gymryd rhan

Mae gwybodaeth ar ein gwefan am ein hymgynghoriad a’r hyn rydym wedi’i newid yn y codau.

Gallwch anfon eich barn atom mewn sawl ffordd, megis drwy ein ffurflen ar-lein, drwy e-bost neu drwy anfon fideo atom.

Gallwch hefyd ymateb fel grŵp neu sefydliad. Rydyn ni wedi creu rhai pecynnau ymgysylltu i’ch helpu i redeg sesiynau a chasglu barn.

Wrth i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben, bydd dwy sesiwn ar-lein, ar 27 Tachwedd a 5 Rhagfyr, ar gael i’r rhai a gollodd gyfleoedd cynharach i roi eu hadborth. Byddwch yn gallu archebu lle i fynychu’r rhain trwy ein gwefan, a bydd cofrestru’n agor fis Tachwedd.

Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw canol dydd, 17 Rhagfyr 2024.

Gweld yr ymgynghoriad

Rhannwch eich barn

Videos

Rhannwch eich barn am ein Codau Ymarfer Proffesiynol

Fideo BSL

Gwyliwch ein fideo BSL sy'n egluro pam ein bod ni'n newid y Codau Ymarfer Proffesiynol a sut gallwch chi rannu eich barn.