Hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn ar y rheoliadau drafft. Mae’r rhain:
- yn sefydlu proses dau gam ar gyfer asesu a chymeradwyo darpar fabwysiadwyr
- yn cwtogi’r amser gofynnol i asiantaethau mabwysiadu roi manylion darpar fabwysiadwyr a phlant sydd i’w mabwysiadu i Gofrestr Mabwysiadu Cymru
- yn galluogi ‘swyddogion awdurdodedig’ i dystio i gydsyniad rhiant neu warcheidwad i orchmynion lleoli neu fabwysiadu, os yw’r rhiant neu’r gwarcheidwad yn byw y tu allan i Gymru neu Loegr.
Yn ystod y cyfnod ymgynghori byddwn yn cynnal digwyddiadau gwybodaeth:
- ar 6 Tachwedd 2018 yng Nghaerdydd
- ar 8 Tachwedd 2018 yn Wrecsam
I gael rhagor o fanylion ewch i: RISCAct2016@llyw.cymru
Ymatebwch i ddiwygiadau i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005
Daw’r ymgynghoriad i ben ar 9 Ionawr 2019.