Jump to content
Datblygu gofal a chymorth gyda’n gilydd: galwad am siaradwyr yn ein dosbarthiadau arbenigol
Newyddion

Datblygu gofal a chymorth gyda’n gilydd: galwad am siaradwyr yn ein dosbarthiadau arbenigol

| Charmine Smikle

Ydych chi wedi gweithio gyda phobl rydych chi’n eu cynorthwyo neu gyda’ch cymuned leol i ddatblygu atebion i’w hanghenion gofal a chymorth?

Rydym yn cynnal cyfres o ddosbarthiadau arbenigol ledled Cymru yn ddiweddarach eleni i helpu pobl i wella eu dealltwriaeth a’u ffyrdd o gydweithio i ddatblygu gwasanaethau gofal a chymorth mewn ffordd gydgynhyrchiol.

Os ydych chi’n sefydliad statudol, annibynnol neu drydydd sector sydd wedi gweithio gyda’r bobl rydych chi’n eu cynorthwyo i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio, hoffem i chi siarad yn ein dosbarthiadau. Gallech fod yn gweithio ym maes tai, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol neu unrhyw leoliad sy’n gysylltiedig â gofal cymdeithasol.

Efallai eich bod wedi ailgynllunio gwasanaeth gyda’ch gilydd, wedi cefnogi mentrau cymdeithasol neu gydweithfa i ddatblygu neu drawsnewid yn llwyr eich modelau gwasanaeth mewn partneriaeth â’r unigolion sy’n derbyn eich gofal.

Byddwn yn cynnal dosbarthiadau mewn lleoliadau amrywiol ledled Cymru ac rydym yn chwilio am bobl i ddarparu gweithdy yn seiliedig ar eich profiadau, wedi’u datblygu gyda’ch cymorth a’ch cefnogaeth chi.

Os gallwch chi helpu, cysylltwch â ni, rebecca.cicero@gofalcymdeithasol.cymru, erbyn dydd Gwener 8 Medi fan bellaf.