Rydym yn chwilio am y storiau go iawn tu ôl i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym eisiau clywed am yr hyn rydych wedi bod yn ei wneud yn wahanol ers y Ddeddf a sut mae hyn wedi newid bywydau pobl.
Newidiodd y Ddeddf sut mae ymarferwyr yn gweithio yn y ffyrdd canolynol:
- Pobl – rhoi’r unigolyn wrth wraidd eu gofal a chymorth drwy roi mwy o lais a rheolaeth iddynt
- Llesiant – helpu pobl i wella eu llesiant drwy ffocysu eu cryfderau, rhwydweithiau, cymuned ac amgylchiadau personol
- Ymyrryd yn gynnar – canolbwyntio mwy ar atal a chynorthwyo pobl cyn i’r anghenion fynd yn rhai brys
- Gweithio ar y cyd – gweithio mewn partneriaeth well rhwng y bobl a’r cyrff sy’n gyfrifol am ofal a chymorth
Yr hyn mae egwyddion y Ddeddf yn ei feddwl i ymarferwyr
Rydym eisiau eich storiau i’w hyrwyddo ar ein gwefan i ysbrydoli gweithwyr proffesiynol eraill a’u helpu i ddysgu o’ch ymarfer da.
Gall y rhain fod yn storiau rydych eisoes wedi’u cynhyrchu a rhannu, neu adnoddau amrwd y gallen ni eich helpu chi i’w datblygu.
Defnyddiwch y ffurflen isod i’ch tywys chi drwy’r stori. Dychwelwch eich ffurflen i rebecca.cicero@gofalcymdeithasol.cymru erbyn 9 Mawrth 2018.
Edrychwn ymlaen at glywed eich storiau!