Jump to content
Rhannwch eich straeon am y Ddeddf
Newyddion

Rhannwch eich straeon am y Ddeddf

| Charmine Smikle

Hoffem glywed beth mae eich grŵp neu sefydliad wedi bod yn ei wneud yn wahanol ers i’r Ddeddf ddod i rym, a’r effaith ar fywydau pobl o ddydd i ddydd.

Rydym ni wedi gweld rhai straeon ardderchog ac ysbrydoledig ynghylch sut mae sefydliadau wedi gweithio gyda phobl i’w helpu i gyflawni beth sydd o bwys iddyn nhw. Rydym ni eisiau darganfod sut mae’r Ddeddf wedi cael ei gweithredu ledled Cymru ac, yn bwysicaf oll, sut mae wedi gwella bywydau pobl.

Hoffem siarad â chi am unrhyw straeon rydych chi wedi’u casglu dros y flwyddyn ddiwethaf. Gallai’r rhain fod yn straeon digidol neu ysgrifenedig rydych chi eisoes wedi’u cynhyrchu, neu gallant fod yn straeon yr hoffech gael ychydig o help i’w datblygu. Gallwn weithio gyda chi i helpu cyflwyno straeon ynghylch sut mae eich gwaith wedi gwella bywydau pobl, mewn ffordd a fydd yn helpu pobl eraill i ddysgu a chael eu hysbrydoli i weithio mewn ffordd debyg.

Hoffem rannu a hyrwyddo’r straeon i helpu pobl eraill ddysgu o’r profiadau hyn, oherwydd gall enghreifftiau bywyd go iawn gyflwyno neges rymus a helpu pobl eraill i ddychmygu effaith y ffordd rydym ni’n gweithio gyda phobl.

Y bwriad yw gweithio gyda chi i amlygu straeon y gellir eu cyhoeddi ar Hyb Gwybodaeth a Dysgu Deddfwriaeth Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan ac yr hoffech drafod pethau ymhellach, anfonwch neges e-bost at hyb@gofalcymdeithasol.cymru ac fe wnawn ni gysylltu â chi i gael sgwrs.

Edrychwn ymlaen at glywed eich straeon.