Jump to content
Pum rheswm pam y dylech chi ymgeisio am y Gwobrau 2022
Newyddion

Pum rheswm pam y dylech chi ymgeisio am y Gwobrau 2022

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Dim ond pythefnos sydd ar ôl i chi ymgeisio am y Gwobrau 2022. Dyma’r gwobrau sy'n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith nodedig ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Os nad ydych chi wedi cyflwyno eich cais eto – dyma bum rheswm pam y dylech chi wneud cais am Wobr neu enwebu tîm, sefydliad neu weithiwr gofal am wobr.

1. Cydnabod eich cyflawniad

Mae llawer o waith rhagorol yn mynd rhagddo ledled Cymru i gefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae’r Gwobrau yn gyfle i gydnabod y gwaith rydych chi’n ei wneud ac mae’n gyfle i’r sectorau gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar i ymfalchïo yn yr hyn y maent wedi’u cyflawni.

2. Cynyddu morâl a balchder staff

Does dim rhaid i chi ennill Gwobr i wella morâl a balchder staff, ond mae dangos i’ch tîm neu’ch aelodau staff eich bod chi’n teimlo bod eu gwaith nhw’n deilwng o ennill un o’r Gwobrau hyn yn gallu bod yn ffordd wych o hybu morâl a brwdfrydedd. Mae ysgrifennu eich cais neu eich enwebiad yn rhoi darlun clir iawn i chi ac i’ch tîm neu eich aelodau staff o werth eich gwaith i’r gymuned. Mae’n hawdd colli golwg ar hyn weithiau, hyd nes byddwch chi’n camu’n ôl ac yn edrych arno’n wrthrychol.

3. Rhannu ymarfer da a syniadau newydd

Gall rhannu eich profiadau a’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu rhoi gwybodaeth amhrisiadwy i bobl eraill er mwyn helpu i gryfhau gofal a chymorth ledled Cymru. Drwy gymryd rhan yn y Gwobrau neu enwebu gweithiwr gofal ar gyfer y wobr Gofalwn Cymru, rydych chi’n dangos eich ymrwymiad i rannu profiadau a dysgu oddi wrth eich gilydd.

4. Gwella canlyniadau ar gyfer pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth

Mae pobl yn gweithio ym maes gofal i helpu i wella bywydau pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth. Mae’r Gwobrau yn cydnabod y gwaith called sy’n mynd rhagddo mewn cymunedau ledled Cymru. Drwy ddathlu ac arddangos y gorau o’r gwaith hwn, gall y Gwobrau helpu i wella gofal a chymorth i bawb.

5. Gwella delwedd gofal

Gyda saith categori, mae’r Gwobrau yn darparu llwyfan i arddangos y ddarpariaeth gofal a chymorth orau ar gyfer amrywiaeth o bobl. O gefnogi pobl hŷn i blant bach, prosiectau sy’n cael eu harwain gan ddinasyddion i arweinyddiaeth tîm cadarn – mae’r Gwobrau yn tynnu sylw at rai o’r mentrau a’r gweithwyr gofal mwyaf ysbrydoledig o bob cwr o Gymru.

A fydd eich prosiect neu eich aelodau staff yn disgleirio yn 2022? Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud cais neu enwebiad ar gyfer y Gwobrau eleni – mae gennych chi tan 5pm, 5 Tachwedd 2021 i wneud hynny.

Cael mwy o wybodaeth