Jump to content
Nod blaenoriaethau ymchwil newydd yw helpu pobl hŷn i fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus
Newyddion

Nod blaenoriaethau ymchwil newydd yw helpu pobl hŷn i fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Datblygwyd deg blaenoriaeth ymchwil i ofal a chefnogaeth pobl 65 oed a hŷn yng Nghymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Datblygodd y prosiect, a gynhaliwyd ar y cyd â Chynghrair James Lind, y blaenoriaethau trwy ofyn i bron i 400 o bobl hŷn, gofalwyr ac ymarferwyr gofal cymdeithasol, “Sut orau allwn ni ddarparu gofal a chefnogaeth gynaliadwy i helpu pobl hŷn fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus?” .

Gwahoddwyd aelodau'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol i gymryd rhan mewn arolygon a gweithdai i ddweud eu dweud am y blaenoriaethau. Dynodwyd aelodau'r cyhoedd a'u cefnogi i fod yn rhan o dîm cyfranogiad cyhoeddus Canolfan Gymorth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Canfuwyd mai'r blaenoriaethau oedd:

  1. A yw cynllunio gofal cynnar a/neu gyswllt cynnar neu reolaidd gan wasanaethau gofal cymdeithasol, yn helpu i atal problemau ac yn arwain at brofiadau gwell i bobl hŷn nag aros nes bod argyfwng?
  2. Sut allwn ni leihau arwahanrwydd a straen ymysg gofalwyr pobl hŷn ac atal blinder llethol?
  3. Sut y gall gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd, gan gynnwys y sector gwirfoddol, weithio gyda'i gilydd yn fwy effeithiol i ddiwallu anghenion pobl hŷn?
  4. Sut y gellir teilwra gofal cymdeithasol i bobl hŷn i fuddiannau ac anghenion unigolion, gan gynnwys cymryd rhan yn well mewn penderfyniadau am eu gofal eu hunain?
  5. Sut y gall gofal cymdeithasol gefnogi orau pobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth (e.e. pobl sydd angen cefnogaeth gan ystod o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol)?
  6. Sut y gellir ariannu gofal cymdeithasol i bobl hŷn mewn ffordd gynaliadwy?
  7. Pa rwystrau y mae pobl hŷn yn eu profi wrth gyrchu gwasanaethau (e.e. mynediad at wybodaeth, amseroedd aros, mynediad at dechnoleg ar-lein, cyfathrebu, costau)? Sut y gellir gwella mynediad?
  8. Sut y gellir gwella telerau ac amodau, gan gynnwys cyflogau, y staff sy'n darparu gofal cymdeithasol i bobl hŷn? A fydd hyn yn denu mwy o bobl i'r proffesiwn?
  9. Sut y gellir cadw gofal cymdeithasol i bobl hŷn o ansawdd uchel cyson?
  10. Sut y gall gofal cymdeithasol yn y cartref a'r gymuned alluogi pobl hŷn i gymdeithasu, gan leihau unigrwydd ac arwahanrwydd?

Meddai Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae mor bwysig i ni ymgysylltu â’r bobl sy’n derbyn ac yn darparu gofal er mwyn deall yn wirioneddol yr heriau y maent yn eu hwynebu a sut y gall ymchwil helpu. Mae'r prosiect hwn wedi bod yn enghraifft wych o sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i sefydlu'r meysydd allweddol lle gall ymchwil wneud gwahaniaeth i wella gofal a chefnogaeth a newid bywydau.”

Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2021, yn nodi'r blaenoriaethau ymchwil ac yn rhoi diweddariad ar y cynnydd hyd yma o ran comisiynu ymchwil arnynt.

Dywedodd Lisa Trigg, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Data a Deallusrwydd yng Ngofal Cymdeithasol Cymru: “Bydd gweithio ar y cyd ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ddatblygu set o flaenoriaethau yn canolbwyntio ar y gwaith rydym yn ei wneud o ran ymchwil. Bydd clywed lleisiau cymaint o bobl hŷn, gofalwyr teuluol a phobl sy'n gweithio ym maes gofal a chefnogaeth hefyd yn llywio meysydd eraill o'n gwaith. Hoffem ddiolch i'r holl bobl a gyfrannodd mor onest a brwdfrydig. "

Dywedodd Caroline Whiting, Rheolwr Ymchwil, Cynghrair James Lind: “Mae dull gosod blaenoriaethau Cynghrair James Lind yn grymuso ac yn galluogi pobl nad ydynt fel arfer yn cael cyfle i siapio’r agenda ymchwil i ddweud eu dweud. Rydym wrth ein bodd bod Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru wedi penderfynu addasu'r broses er mwyn ymgysylltu'n gyflym â phobl hŷn, gofalwyr a gweithwyr gofal rheng flaen, yn enwedig yn ystod cyfnod pan mae gofal cymdeithasol yn wynebu mwy o heriau ac yn bwysicach nag erioed.”