Jump to content
Newydd! Pecyn cymorth i gefnogi datblygu cynllun ardal
Newyddion

Newydd! Pecyn cymorth i gefnogi datblygu cynllun ardal

| Bethan Price

O dan Adran 14a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, rhaid i fyrddau partneriaeth rhanbarthol ddatblygu cynlluniau ardal ar gyfer eu rhanbarthau gan eu bod bellach wedi cwblhau eu hasesiadau poblogaeth. Rhaid cyhoeddi’r cynlluniau ardal cyntaf erbyn mis Ebrill 2018.

Cafodd y pecyn cymorth ei ddatblygu gan Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru yn dilyn trafodaethau â'n partneriaid mewn llywodraeth leol a chenedlaethol, byrddau iechyd a’r trydydd sector i ganfod pa gymorth allai fod ei hangen arnynt i fodloni’r gofynion a nodir yn Canllawiau Statudol yn ymwneud â Chynlluniau Ardal o dan Adran 14A.

Mae’r pecyn cymorth wedi’i rannu yn dair adran:

• Cydrannau'r cynllun – mae’r rhain yn rhoi trosolwg o beth mae’n rhaid ei gynnwys yn y rheoliadau a’r canllaw statudol
• Templed o’r cynllun ardal – gall y rhanbarthau addasu'r templed hwn yn unol â’u brand a’u harddull tŷ
• Nodiadau cyfarwyddyd – mae’r rhain yn cynnig rhagor o eglurder, arweiniad a chyngor ar rannau penodol o’r canllaw statudol.

Gallwch lawrlwytho’r pecyn cymorth yma.