Skip to main content
Hygyrchedd y safle
Newyddion

Mae’r bleidlais nawr yn agored ar gyfer enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg cyntaf

15 Gorffennaf 2019

Mae pleidleisio bellach ar agor i ddewis enillydd ar gyfer y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg gyntaf Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae'r wobr yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr gofal cyflogedig mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant sy'n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn gyfan gwbl, enwebwyd 22 o weithwyr gofal ar gyfer y wobr a bu panel o dri barnwr – Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, Jenny Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a Cathryn Thomas, ein Cyfarwyddwr Gwella Cynorthwyol – lywio'r enwebeion i’r chwech terfynol.

Rydym ni nawr yn gwahodd aelodau o'r cyhoedd i bleidleisio am y gweithiwr gofal y credant ddylai gael ei goroni'n enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg gyntaf.

Mae'r bleidlais ar agor tan 30 Gorffennaf 2019 a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad dathlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ar 6 Awst 2019.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: "Rydym yn falch o gyhoeddi’r chwech sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer ein Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg gyntaf erioed.

"Llongyfarchiadau i bawb ar y rhestr fer a diolch yn fawr iawn i bawb a enwebwyd neu a enwebodd weithiwr gofal.

“Roedd safon y ceisiadau a ddaeth i law yn eithriadol o uchel ac yn dangos ehangder y gofal rhagorol sy'n cael ei ddarparu yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Hoffwn annog pawb i ddangos eich cefnogaeth i'r Wobr Gofalu trwy’r Gymraeg a'r chwe ymgeisydd rhagorol yn y rownd derfynol drwy bleidleisio dros y gweithiwr gofal y credwch ddylai gael ei enwi'n enillydd."

Dyma'r chwech sydd ar y rhestr fer:

Keri Davies

Lleoliad gwaith: Meithrinfa a Cyn-ysgol Abacus, Abertawe.

Beth oedd gan Eve Harvey, bu enwebu Keri, i ddweud amdani:

Gan weithio o fewn ein meithrinfa dwyieithog, mae Keri bob amser yn siarad ac yn canu yn Gymraeg.

Mae Keri wedi galluogi'r plant o gartrefi Cymraeg i ymgartrefu'n gyflymach wrth iddi siarad â nhw yn eu mamiaith. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod yr amser y mae'r plant yn ymgartrefu gyda ni gan fod gennym blant sy'n dod o gefndiroedd Cymraeg yn unig heb Saesneg. Mae hyn wedi rhoi tawelwch meddwl i rieni sy'n siarad Cymraeg gan wybod y caiff eu plentyn ei ddeall gan siaradwr Cymraeg iaith gyntaf.

Yn ogystal, mae gennym lawer o blant sy'n mynd ymlaen i ysgol Gymraeg heb unrhyw Gymraeg yn y cartref. Mae Keri wedi eu helpu i ddysgu'r Gymraeg yn barod i gychwyn yn yr ysgol Gymraeg. Mae hyn yn rhoi hyder iddynt i gyfathrebu'n effeithiol yn eu hail iaith.

Mae siaradwr Cymraeg iaith gyntaf yn caniatáu i'r staff eraill wrando ac adeiladu ar eu sgiliau Cymraeg eu hunain. Mae Keri bob amser yn barod i helpu a chynghori staff gyda geirfa a syniadau ar gyfer ymadroddion a chaneuon priodol.

Mae Keri bob amser yn hapus i helpu rhieni pan fydd ganddynt ymholiadau am y Gymraeg – yn enwedig wrth ddeall y gwaith cartref.

Mae Keri bob amser yn hyrwyddo'r Gymraeg o fewn y feithrinfa gan ei bod yn deall sut y gall plant ifanc ennill ail iaith. Ymddangosodd ar S4C yn ddiweddar wrth ffilmio sut yr ydym yn addysgu'r plant i ailgylchu.

Mae'r plant i gyd yn elwa o ddysgu Cymraeg Keri gan ei fod yn rhoi mantais iddynt yn y Gymraeg p'un a ydynt yn mynd i'r ysgol Gymraeg ai peidio.

Carol Evans

Lleoliad gwaith: Tereen Ltd, Conwy.

Beth oedd gan Garry Barratt-Williams, bu enwebu Carol, i ddweud amdani:

Mae Carol wedi gweithio i'n sefydliad ers mwy na 12 mis bellach, a dyma ei swydd gyntaf mewn rôl gofalu.

Fel siaradwr Cymraeg rhugl, mae Carol yn gallu cyfathrebu'n dda gyda'r bobl sy'n defnyddio ein gwasanaeth sy'n byw yn ardaloedd mwyaf anghysbell gogledd Cymru. Gan eu bod yn byw yn yr ardaloedd hyn, mae llawer o bobl sydd angen gwasanaeth gofal yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ac maen bwysig iawn iddynt dderbyn gwasanaeth yn yr iaith hon.

Mae'r bobl y mae hi’n gofalu amdanynt, eu perthnasau a'u cydweithwyr yn hoff iawn o Carol. Mae ganddi gofnod rhagorol ac mae hi’n dangos tosturi, parch ac urddas at y bobl y mae hi’n gofalu amdanynt.

Yn ystod y tywydd garw yn ardaloedd gwledig gogledd Cymru, llwyddodd Carol i fynychu ei holl ymweliadau drwy ddod i'r gwaith ar gefn tractor!

Mae Carol yn rhoi anghenion y rhai y mae hi'n gofalu amdanynt uwchlaw popeth arall, ac mae ei sgiliau gofalu yn yr iaith Gymraeg wedi gwella bywydau pobl eraill, yn enwedig gŵr bonheddig sy'n byw yn ardal Llannefydd, Sir Conwy.

Credaf fod Carol yn haeddu ennill y wobr hon, oherwydd yn yr amser byr y mae hi wedi gweithio yn y sector gofal, mae hi wedi dangos ymroddiad i'r rhai mae hi'n gofalu amdanyn nhw ac mae hi’n parhau i wneud hynny bob dydd.

Sian Morgan

Lleoliad gwaith: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Cyngor Sir Ynys Môn.

Beth oedd gan Dawn Hutchinson, bu enwebu Sian, i ddweud amdani:

Mae Sian yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae Sian wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau'r bobl mae hi'n eu cefnogi trwy:

  • Ei pherthnasedd. Gan fod Cymraeg llafar Sian yn aml wedi ei gwreiddio yn yr un acen a thafodiaith â'r teuluoedd gwledig mae hi'n eu cefnogi, roedd hyn yn helpu teuluoedd i gyfleu eu profiadau, teimlo eu bod yn cael eu deall, a theimlo'n llai ynysig drwy allu defnyddio eu hiaith gyntaf a'u tafodiaith eu hunain.
  • Darparu pecyn 1-i-1 o sgiliau rhianta yn y Gymraeg i riant ag anghenion dysgu ychwanegol y mae ei Saesneg yn gyfyngedig.
  • Darparu ymyriad dwys gyda'r nod o gefnogi newid ymhlith rhieni. Roedd gwneud hyn yn Gymraeg wedi helpu rhieni i ymgysylltu â'r ymyrraeth er mwyn deall y trawma cymhleth a brofir yn eu plentyndod eu hunain, a deall sut y gwnaeth hyn arwain at gydberthynas negyddol a mathau o ymddygiad oedd yn niweidiol i'w hunain neu i'w plant.
  • Cefnogi ailuno plentyn sy'n derbyn gofal ag anableddau o ofal maeth yn ôl i ofal ei fam drwy gefnogi eu cyfathrebu iaith. Bu'r gallu i gyfleu ei brofiadau a'i emosiynau yn Gymraeg yn gymorth iddo adnabod a chyfleu ei brofiad o fod a rhiant oedd yn gaeth i heroin yn y gorffennol. Roedd gallu cyfathrebu'r materion hyn yn Gymraeg yn golygu y gallai reoli ei ddysgeidiaeth emosiynol yn well; yn ei dro yn helpu ei fam i reoli heriau rhianta o ddydd i ddydd unwaith y dychwelodd i'w gofal.
  • Cefnogi dau ddysgwr Cymraeg yn y swyddfa trwy ymarfer Cymraeg llafar gyda nhw, a thrwy roi 'gair Cymraeg y dydd' iddyn nhw ymarfer a cheisio integreiddio eu tasgau yn y gweithle.

Catrin Owen

Lleoliad gwaith: Akari Care, Llanrwst.

Beth oedd gan Gemma Pritchard, bu enwebu Catrin, i ddweud amdani:

Mae Catrin yn hyrwyddo’r defnydd o'r Gymraeg trwy sicrhau bod y bobl mae hi’n eu cefnogi yn cael mynediad i Radio Cymru a S4C. Mae Catrin hefyd yn darllen papurau newydd Cymraeg i breswylwyr o'r ardaloedd lleol roedd trigolion yn arfer byw ynddynt, er mwyn iddynt allu cadw cysylltiad clos â'r cymunedau yr oeddent yn rhan ohonynt.

Mae Cartref Y Borth mewn lleoliad gwledig ac mae Catrin yn sylweddoli pwysigrwydd hyrwyddo iaith y bobl y mae hi’n eu cefnogi gan ei fod yn rhan o'u diwylliant a'u treftadaeth.

Ar hyn o bryd mae Catrin yn ymwneud â cheisio pontio'r bwlch rhwng y cenedlaethau a hyrwyddo'r Gymraeg yn y gymuned trwy wahodd disgyblion ysgol lleol i gymryd rhan mewn sesiynau garddio gyda thrigolion Cartref Y Borth. Gobeithiwn y bydd hyn yn digwydd yn y dyfodol. Mae hi’n cydnabod bod cenedlaethau hŷn yn elwa'n gydfuddiannol o ryngweithio â'r cenedlaethau iau.

Mae Catrin wedi bod yn ymwneud â menter o'r enw "Dementia Red" yn y gorffennol lle roedd hi'n gweithio yn y feddygfa yn Llanrwst. Roedd Catrin yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth i unigolion, teuluoedd a gofalwyr mewn perthynas ag unrhyw wasanaethau, cymorth a gwybodaeth oedd ar gael iddynt drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ogystal, mae Catrin yn ymwneud â'r Gymdeithas Alzheimer ac yn cymryd rhan yn y fenter i helpu i ennill statws "Dementia Gyfeillgar" Llanrwst.

Mae Catrin a'i chydweithwyr yn sicrhau bod trigolion Cartref Y Borth yn cael mynediad i'r Eisteddfod Genedlaethol yr haf hwn, er mwyn cynnal cysylltiadau â'r gymuned a chaniatáu i unigolion ddathlu diwylliant eu hardal leol.

Steve Roberts

Lleoliad gwaith: Calon Lan Community Care, Llanelwy.

Beth oedd gan Michelle Spencer, bu enwebu Steve, i ddweud amdano:

Credaf fod Steve yn haeddu cael cydnabyddiaeth am yr ymroddiad y mae'n ei ddangos i'n gwlad a'n treftadaeth, gan gynnwys y Gymraeg. Mae Steve yn hynod o angerddol ynglŷn â'r iaith Gymraeg ac mae yn ei elfen i allu siarad â'r defnyddwyr gwasanaeth yn eu mamiaith.

Mae Steve yn darparu gofal o safon uchel iawn ac mae'n mynd y tu hwnt yn barhaus i sicrhau bod y bobl y mae yn eu cefnogi yn cael eu grymuso ac yn ganolog i bopeth a wna.

Adlewyrchir hyn yn yr adborth cadarnhaol parhaus a dderbyniwyd gan y bobl y mae Steve yn eu cefnogi, ac yn fwy diweddar, nodwyd ei ymdrechion yn adroddiad monitro ansawdd y sefydliad.

BG – "Mae Steve yn berffaith yn fy marn i"

RA – enwyd Steve yn benodol ar gyfer cyfeiriad arbennig

DV – tynnwyd sylw at Steve ynghyd â thîm cyfan Dinbych

DW – disgrifiwyd Steve a chydweithiwr fel y ddau weithiwr gofal gorau

BW – wedi enwi Steve yn benodol

DW – Mae Steve yn ofalwr gwych

Mae pobl wedi dweud eu bod yn teimlo'n fwy cyfforddus gyda Steve gan ei bod yn haws deall sut yr oeddent yn mynd i dderbyn gofal, ac mae hyn yn galluogi'r broses i ganolbwyntio'n fwy ar yr unigolyn a hybu iechyd a lles.

Rydym i gyd yn gwybod mai un ffactor gall arwain at gam-drin yw unigrwydd cymdeithasol ac felly rydym yn gwerthfawrogi'r holl siaradwyr Cymraeg y gweithiwn gyda nhw.

Mae Steve yn berson caredig ac addfwyn, ac mae ei angerdd dros y Gymraeg a'r bobl y mae yn eu cefnogi yn disgleirio drwy'r amser.

Rydym yn hynod o falch i gynnwys Steve fel cydweithiwr a chynrychiolydd o bolisi a gwerthoedd iaith Gymraeg Calon Lan.

Kirsty Ward

Lleoliad gwaith: Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Beth oedd gan Gail Davies, bu enwebu Kirsty, i ddweud amdani:

Mae Kirsty yn swyddog gwasanaeth dydd sy'n gweithio yn adnodd cymunedol Ystrad Mynach. Ei rôl yw cefnogi oedolion ag anabledd dysgu. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo unigolion i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y dydd o fewn yr adnoddau a'r gymuned leol.

Mae Kirsty wedi meithrin perthynas waith effeithiol ag unigolion sy'n siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf. Mae cyfathrebu effeithiol yn rhan hanfodol o rôl Kirsty wrth gefnogi unigolion ac wrth gyfathrebu â theuluoedd a gofalwyr.

Mae gallu Kirsty i siarad yn Gymraeg â'r unigolion a'u teuluoedd wedi cael effaith gadarnhaol o fewn ein lleoliad gwasanaeth.

Mae Kirsty bob amser yn hapus i siarad â phobl yn Gymraeg, mae'n gwneud hyn bob dydd gyda dau o'n unigolion. O ganlyniad, mae hi wedi gallu meithrin cysylltiadau gwaith agos iawn. Mae'r unigolion hefyd wedi elwa o allu Kirsty i ysgrifennu yn Gymraeg, mae hi wedi gallu eu helpu i gwblhau eu cynlluniau personol yn Gymraeg.

Mae'r unigolion yn ei chael hi’n haws cyfleu eu hanghenion a'u dymuniadau gan ddefnyddio'r Gymraeg. Mae hyn wedi galluogi'r unigolion i fod yn fwy mynegiannol gyda'u cyfathrebu, yn fwy hyderus yn eu hymagweddau ac wedi cael effaith gadarnhaol ar eu lles. Mae siarad yn Gymraeg wedi galluogi'r unigolion i gynnal proses lyfnach o bontio rhwng y cartref a'r gwasanaeth.

Mae Kirsty hefyd wedi gallu cyfathrebu yn Gymraeg gyda theuluoedd yr unigolyn, sy'n arbennig o ddefnyddiol wrth rannu gwybodaeth. Mae hyn wedi bod yn gysur i deuluoedd.

Pleidleisiwch dros enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg cyntaf.