Newyddion

I gydnabod y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru

08 Hydref 2018
Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru

Fel Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, rwyf yn ffodus i weld gwaith gwych yn cael ei wneud gan ymarferwyr rheng flaen, gyda chymorth a chefnogaeth rheolwyr a chyfarwyddwyr ledled Cymru.

Er bod lle i wella o hyd, mae tystiolaeth fod pawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r bobl hynny sy’n dibynnu ar fodolaeth darpariaeth gofal a chymorth da. Yn aml, y fyddin gudd o ofalwyr sy’n deulu neu’n ffrindiau sy’n ysgwyddo'r baich trwm, ond mae angen cymorth a chefnogaeth y gwasanaethau cyhoeddus arnynt i allu parhau i gyflawni eu swyddogaethau gofalu.

Cynhaliwyd pedwar digwyddiad arwyddocaol ym mis Medi oedd yn gyfle i fyfyrio.

Y cyntaf oedd y Gynhadledd Gofal Cymdeithasol Genedlaethol, a gynhaliwyd ar y cyd gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru. Roedd y gynhadledd yn gyfle i arweinwyr proffesiynol a gwleidyddol ymuno ag ymarferwyr rheng flaen i rannu safbwyntiau rhyngwladol a lleol ar ofal cymdeithasol, i hyrwyddo dysgu a rhannu ymarfer da o bob rhan o'r byd.

Roedd y dystiolaeth o Ganada o ddiddordeb neilltuol i mi oherwydd roedd yn dangos sut y gall ailgyfeirio arian o ofal cymdeithasol clinigol i les cymdeithasol wella iechyd a llesiant. Mae hefyd yn fwy cost-effeithiol.

Dilynwyd hyn gan Wobrau Gofal Cymdeithasol Cymru, achlysur lle daeth unigolion o bob rhan o Gymru oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol i fwynhau te prynhawn tra roeddynt yn aros yn eiddgar i weld pwy oedd wedi ennill y wobr gyntaf glodfawr mewn amryw o gategorïau oedd yn cydnabod ac yn dathlu rhagoriaeth mewn gofal.

Cawsom bron i 90 o gynigion ar gyfer saith categori o wobrau. Roedd ymroddiad ac ymrwymiad yr holl unigolion a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn gwneud i rywun deimlo’n wylaidd iawn ac roedd y timau a ddaeth i'r brig yn haeddu’r gymeradwyaeth a gawsant.

Cynhaliwyd y trydydd digwyddiad gan Dîm Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru ac Academi Wales. Cefais y fraint o gadeirio’r diwrnod oedd yn canolbwyntio ar wella'r elfen o weithio mewn partneriaeth er mwyn diwallu anghenion pobl.

Roedd amrywiaeth eang o sefydliadau yn bresennol, a buom yn ystyried astudiaeth achos ddienw oedd yn cael ei hactio gan unigolion proffesiynol lle'r oedd gweithwyr proffesiynol o’r sectorau gwirfoddol, gofal cymdeithasol ac iechyd yn trafod anghenion cymhleth unigolyn.  Roedd y mwyafrif ohonom yn gyfarwydd â'r ymarfer gwael oedd yn cael ei arddangos, yn enwedig o ran diffyg cyfranogiad y dinesydd a’i deulu yng nghyswllt diwallu ei anghenion.

Ymrwymodd pawb oedd yn bresennol i herio ymddygiad o'r fath pe baent yn ei weld yn eu sefydliad eu hunain. Yr her i ni i gyd yw cymell pob gweithiwr proffesiynol i wneud yr un peth.

Yn olaf, bûm mewn sesiwn ôl-drafodaeth yn dilyn digwyddiad Rheithgor Dinasyddion a gynhaliwyd dros gyfnod o dri diwrnod yn Stadiwm Liberty, Abertawe. Roedd 15 rheithiwr wedi gwirfoddoli i glywed gan amryw o dystion am eu profiadau ym maes gofal cymdeithasol er pan ddaeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym yn 2016.

Cyflwynodd swyddogion Llywodraeth Cymru'r cyd-destun drwy rannu nodau gwleidyddol y Ddeddf ar y diwrnod cyntaf. Darparwyd tystiolaeth gan ddefnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gofal cymdeithasol o'r trydydd sector a'r sector statudol, gyda’r rheithwyr yn holi tystion er mwyn cael gwybodaeth a fyddai’n gweithredu fel sail ar gyfer adroddiad ac argymhellion.

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd, ond mae arwyddion cynnar yn awgrymu ei bod yn debygol y ceir argymhellion sy’n ymwneud â gwella gwybodaeth a chyngor, cyfranogiad gwell yng nghyswllt dinasyddion a chysondeb o ran dull gweithredu ar draws Cymru. Byddaf yn rhannu rhagor o wybodaeth yn f'erthygl nesaf.