Jump to content
Dulliau newydd o helpu mwy o bobl i ymgymryd â swyddi ym maes gofal
Newyddion

Dulliau newydd o helpu mwy o bobl i ymgymryd â swyddi ym maes gofal

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Yn fy ngholofn flaenorol, ysgrifennais am bwysigrwydd cefnogi llesiant unigolion sy'n gweithio ym meysydd gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant. Dyma un o brif flaenoriaethau ein cynllun pum mlynedd.

Blaenoriaeth bwysig arall yw denu a recriwtio digon o bobl sydd â'r sgiliau a'r gwerthoedd priodol i weithio mewn swyddi gofalu. Rydyn ni’n gwybod bod gweithio yn y sector gofal yn rhoi llawer o foddhad ac yn cynnig cryn amrywiaeth a chyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Fel mewn sawl proffesiwn arall, mae yna brinder gweithwyr newydd a llawer o swyddi gwag ledled Cymru. Mae hyn yn peri pryder, gan fod prinder gweithwyr yn gallu arwain at ganlyniadau difrifol i bobl yn ein cymunedau sy'n dibynnu ar ymarferwyr am ofal, cymorth a llesiant.

Dyna pam, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi cynyddu ein hymdrechion i helpu mwy o bobl i ymgymryd â swyddi ym maes gofal yng Nghymru.

Rydyn ni wedi datblygu ein gwefan swyddi, gofalwn.cymru, fel rhan o ymgyrch genedlaethol Gofalwn Cymru i ddenu mwy o bobl i weithio ym maes gofal. Erbyn hyn, mae'r wefan yn hysbysebu cannoedd o swyddi ledled y wlad.

Hefyd, buom ni’n darparu mwy o gymorth uniongyrchol i baratoi pobl i weithio ym maes gofal. Mae hyn ar ffurf rhaglen hyfforddi ddi-dâl ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Teitl yr hyfforddiant tridiau ar-lein yw 'Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol', ac mae ar gael i unrhyw un dros 18 sy'n byw yng Nghymru.

Mae'r hyfforddiant yn cael ei ddarparu unwaith yr wythnos am dair wythnos, ac mae angen cwblhau llyfr gwaith. Mae'n ymdrin â’r elfennau hanfodol i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol, fel cyfathrebu, cadw pobl yn ddiogel ac arferion gwaith.

Yn ddiweddar, rydyn ni wedi cynnal dwy fersiwn wedi'u teilwra o'r rhaglen hyfforddi hefyd: un gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog ar gyfer y bobl ifanc y mae'r ymddiriedolaeth yn gweithio gyda nhw, a'r llall gyda'r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yn Abertawe.

Nod y ddau gwrs oedd darparu trosolwg o ofal cymdeithasol a helpu unigolion i benderfynu a yw'r maes yn addas iddyn nhw.

Dywedodd un o'r bobl ifanc a gymerodd ran yn rhaglen hyfforddi Ymddiriedolaeth y Tywysog: “Fe ymunais i â’r cwrs er mwyn cael profiad o ofal oedolion... Rwy'n hoffi'r ffaith fod pob diwrnod yn wahanol wrth weithio yn y sector a bod y swydd yn rhoi boddhad gwirioneddol.”

Dywedodd un arall o'r bobl ifanc a fu'n cymryd rhan: “Fe wnes i fwynhau pob rhan o'r rhaglen. Roedd yn gynhwysfawr ac fe ddysgais i lawer am swyddi gwahanol, am gyfathrebu, ac am iechyd a diogelwch.”

I unigolion dros 18 oed sy'n cwblhau'r cwrs cyflwyniad llawn i ofal cymdeithasol, mae yna gyfle i gael cyfweliadau gwarantedig gydag amrywiaeth gynyddol o gyflogwyr.

Mae hyn yn helpu i roi hyder i bobl pan fyddan nhw’n gwneud cais am swydd, yn cyflymu prosesau recriwtio, yn sicrhau bod ymgeiswyr gwell ar flaen y ciw, ac efallai’n darparu amrywiaeth ehangach o ymgeiswyr gan nad yw'r broses yn digalonni pobl nad ydynt yn gyfforddus yn llenwi ffurflenni cais hir.

Hefyd, rydyn ni wedi dechrau rhaglen benodol ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal. Mae'n rhaglen wedi ei theilwra sy'n rhoi trosolwg o ofal cymdeithasol i bobl ifanc.

Mae angen diwrnod a hanner i gwblhau'r hyfforddiant, ac mae'n addas i bobl ifanc rhwng 14 ac 17 oed. Cynhelir y sesiynau nesaf ym mis Hydref.

Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o'r cyrsiau, dylech e-bostio: cyswllt@gofalwn.cymru

Gall cyflogwyr hysbysebu swyddi a gall pobl chwilio am swyddi yn gofalwn.cymru.