Newyddion

Cyhoeddi teilyngwyr am Wobrau mawreddog sy’n cydnabod rhagoriaeth mewn gofal

21 Awst 2018
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae prosiect lle mae gofalwyr yn agor eu cartrefi i bobl sy’n agored i niwed, cynllun i leihau risg o gamfanteisio’n rhywiol ar bobl ifanc a menter gardd gymunedol sy’n dod â phreswylwyr â dementia a grwpiau ymylol at ei gilydd ymhlith y teilyngwyr ar gyfer y Gwobrau mawreddog.

Cynhelir y gwobrau bob dwy flynedd gan Gofal Cymdeithasol Cymru, ac eleni, cafwyd y nifer uchaf erioed o geisiadau. Mae’r gwobrau’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu rhagoriaeth mewn gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Mae’r Gwobrau yn agored i dimau a sefydliadau o’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol ac annibynnol. Maent yn cydnabod mentrau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl, wedi cefnogi datblygiad staff ac wedi annog gwelliant i wasanaethau.

Lansiwyd y Gwobrau i ddechrau yn 2005 gan y Cyngor Gofal, sef y sefydliad cyn Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd yr enillwyr, a gyhoeddir mewn seremoni yn Neuadd Dinas Caerdydd ddydd Iau, 13 Medi 2018, yn cael eu dewis gan banel o feirniaid. Mae’r panel beirniaid yn cynnwys aelodau bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru a sefydliadau partner o bob cwr o Gymru.

Maent yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth o gyrff cenedlaethol fel Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru, Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW), Fforwm Gofal Cymru, Plant yng Nghymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, Conffederasiwn GIG Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Gwasanaethau’r Gweithlu, Addysg a Datblygu o GIG Cymru.

Dywedodd Arwel Ellis Owen OBE, Cadeirydd panel beirniaid y Gwobrau a Gofal Cymdeithasol Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd fod y nifer uchaf erioed o geisiadau eleni wedi arwain at garfan gref o deilyngwyr sy’n dangos yn glir faint o ymarfer rhagorol sy’n digwydd ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru.

“Bydd y seremoni wobrwyo’r mis nesaf yn gyfle gwych i amlygu’r darnau rhagorol hyn o waith a bydd yn sbardun ar gyfer hyrwyddo ymarfer rhagorol a’i rannu â gweddill y gweithlu gofal cymdeithasol a gofal plant.

“O ganlyniad, bydd gan y Gwobrau rhan bwysig mewn helpu gwella gwasanaethau ac yn cael effaith gadarnhaol ar y rheiny sy’n derbyn gofal a chymorth ledled y wlad.”

Categorïau a theilyngwyr

Gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddinasyddion (noddir gan Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru)

  • Cyngor Bro Morgannwg – am ei brosiect sy’n gwella llesiant pobl hŷn trwy wella’r cydweithio rhwng gweithwyr cymdeithasol, asiantaethau gofal cartref a phreswylwyr, i wneud yn siŵr fod gan breswylwyr reolaeth dros eu gofal a’u cymorth.
  • PSS Shared Lives Wales – am brosiect lle mae oedolion sy’n agored i niwed yn symud i fyw at ofalwyr proffesiynol sydd wedi cael eu recriwtio’n arbennig ac wedi derbyn hyfforddiant proffesiynol, sy’n agor eu cartrefi iddynt ac yn rhoi cymorth iddynt 24 awr y dydd mewn amgylchedd teuluol.

Dulliau effeithiol o ddiogelu (noddir gan Blake Morgan)

  • Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru – am ei fenter Protocol Hunanesgeuluso, a ddatblygwyd i atal anaf difrifol neu hyd yn oed farwolaeth pobl y mae’n ymddangos eu bod yn esgeuluso eu hunain, gan gefnogi eu hawl i gael eu trin â pharch ac urddas a “chynorthwyo i adnabod sefyllfaoedd o hunanesgeuluso”.
  • Gwasanaethau Casnewydd i Blant a Barnardo’s – am eu prosiect Gwasanaethau Cymorth Integredig i Deuluoedd, sy’n arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y plant a dynnwyd oddi wrth eu teuluoedd ac yr aethpwyd â nhw i ofal. Mae’r cynllun yn darparu cymorth amlasiantaethol dwys ar gyfer teuluoedd “sy’n agos at fod angen gofal” ac yn helpu gwella rhianta.
  • Cyngor Sir Penfro – am ei brosiect Gwarcheidwaid Diogelu Pobl Ifanc, lle mae pobl ifanc yn helpu pobl ifanc eraill i ddeall materion diogelu a chadw eu hunain rhag niwed. Hefyd, mae’r grŵp wedi cynnal dwy gynhadledd ar ddiogelu i ddarparu hyfforddiant a hyrwyddo diogelu ymhlith grŵp mawr o bobl ifanc o bob cwr o Sir Benfro.

Canlyniadau gwell trwy ddysgu a gweithio gyda’n gilydd (noddir gan Deloitte)

  • Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro – am ei brosiect sy’n helpu pobl hŷn i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.  Mae’n lleihau derbyniadau i’r ysbyty ac yn cynyddu trefniadau rhyddhau’n gynnar trwy ddarparu cludiant, addasiadau ymateb cyflym a gwasanaeth gweithiwr achos.
  • Gwasanaeth Dydd Sant Ioan/Cyngor Abertawe – am ei Fenter Gardd Gymunedol, sy’n dod â phreswylwyr â dementia a grwpiau ymylol at ei gilydd, gan gynnwys oedolion ag anabledd dysgu a phobl o elusennau i’r digartref, ac elusennau cyffuriau ac alcohol.  Mae hyn yn galluogi i “berthnasoedd cyfoethog a pharhaus ar y ddwy ochr” ddatblygu.
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – am ei brosiect sydd wedi’i anelu at ostwng risg camfanteisio’n rhywiol ar bobl ifanc. Mae ei waith ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Heddlu Gogledd Cymru wedi darparu hyfforddiant pwrpasol ar gyfer staff ac wedi sefydlu fforwm amlasiantaethol misol i rannu gwybodaeth am gyflawnwyr risg uchel a phobl ifanc sy’n agored i niwed.

Defnyddio data ac ymchwil i gefnogi atal, ymyrraeth gynnar ac effeithiolrwydd

  • Cyngor Sir Penfro – am ei brosiect i leihau faint o amser y mae’n rhaid i bobl aros am ofal a chymorth. Mae wedi newid y diwylliant pan fydd dau aelod o staff yn darparu gofal i bobl hŷn ac anabl yn eu cartrefi eu hunain. Fe wnaeth therapydd galwedigaethol profiadol helpu magu hyder y gofalwyr mewn defnyddio technegau ac offer eraill gyda defnyddwyr gwasanaeth, sy’n golygu nad oes prinder staff mwyach.

Datblygu gweithlu hyderus a chynaliadwy (noddir gan yr undeb GMB)

  • Right at Home, Caerdydd a Chasnewydd – am brosiect sy’n darparu llwybr gyrfa cynhwysfawr ac arloesol ar gyfer gweithwyr gofal, gan roi cyfleoedd hyfforddi “arloesol” iddynt mewn meysydd gofal arbenigol, gwborau a chydnabyddiaeth unigol, cymorth arbenigol â datblygiad personol a phroffesiynol, a gofal bugeiliol o ansawdd da yn y gymuned.
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – am brosiect “llawn dychymyg” sy’n helpu gweithwyr cymdeithasol newydd i ddechrau eu gyrfaoedd yn y ffordd orau posibl. Cânt gymorth, addysgu a mentora trwy gyfuniad o weithdai a digwyddiadau hyfforddi mewnol gyda siaradwyr allanol, yn ogystal â sesiynau mentora unigol a grŵp.

Canlyniadau rhagorol i bobl o bob oed trwy fuddsoddi mewn dysgu a datblygu staff (noddir gan Y Brifysgol Agored Cymru)

  • Care Without Compromise, Castell-nedd – am ei brosiect sy’n cynorthwyo pobl ag anableddau dysgu mewn “lleoliad preswyl unigryw”. Mae staff yn cynorthwyo preswylwyr ar gyfer adsefydlu ac annibyniaeth, sy’n golygu eu bod yn treulio mwy o amser yn y gymuned ac yn mynd ymlaen i fyw mewn tai â chymorth, byw yn annibynnol â chymorth cartref, neu’n dychwelyd i fyw yn agosach at eu teuluoedd.
  • Cyngor Sir y Fflint – am raglen newid diwylliannol i wella bywydau pobl hŷn mewn cartrefi gofal. Neilltuir swyddog monitro ym mhob cartref gofal sy’n gweithio gyda staff i ymgorffori ymarfer “sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn”. Hefyd, caiff staff eu paru â phreswylwyr ar sail diddordebau a rennir, a dewisiadau diwylliannol ac iaith, gan wella eu synnwyr o lesiant ymhellach.

Atebion arloesol a chreadigol – rhannu eich profiadau

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf - am ei fenter Cadw’n Iach Gartref. Mae’r prosiect yn helpu lleihau derbyniadau diangen i’r ysbyty ac yn cynyddu trefniadau rhyddhau’n gynnar trwy gludiant, addasiadau ymateb cyflym a gwasanaeth gweithiwr achos.
  • Cyngor Sir Fynwy – am ei brosiect My Mates, sy’n gweddnewid bywydau pobl ag anabledd dysgu trwy eu helpu i wneud ffrindiau a byw “ag angerdd a diben”. Mae My Mates yn helpu ei aelodau i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol, gwneud ffrindiau ac o bosibl meithrin perthnasoedd personol agos, tra’n cael cynnig cyngor a gwybodaeth mewn amgylchedd cefnogol.