Skip to main content
Hygyrchedd y safle
Newyddion

Brexit – beth allai ei olygu i ofal cymdeithasol yng Nghymru?

28 Ionawr 2019
Sue Evans, ein prif weithredwr

Wrth i ni wylio’r drafodaeth barhaus am Brexit ledled y DU, a’r hyn y gallai ei olygu i economi’r DU a'n ffordd o fyw yn y dyfodol, mae'n werth darllen yr adroddiad a gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ddiweddar, sef Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn nodi canlyniadau negyddol a chadarnhaol posib gadael yr UE.

Mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn un rhan o’r adroddiad, sef yr effaith negyddol bosib ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, o ran recriwtio a chadw.

Un o'n blaenoriaethau strategol yw sicrhau bod gennym ddigon o weithwyr gofal cymdeithasol medrus sy'n gallu darparu gofal a chymorth o ansawdd cyson ar draws Cymru.

Rydyn ni’n gwybod y bydd y galw am ofal cymdeithasol yn debygol o godi wrth i'r boblogaeth heneiddio ac wrth i bobl fyw am gyfnod hwy gydag amrywiaeth o gyflyrau iechyd ac anableddau.

Gwyddom hefyd fod tlodi yn effeithio’n uniongyrchol ar fywyd teuluol, gydag achosion o gyfeirio ym maes amddiffyn plant yn tueddu i gynyddu pan fydd teuluoedd o dan fwy o bwysau economaidd.

Felly, mae'n bwysig ein bod ni’n gwneud popeth a allwn i feithrin a datblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol.

Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddeall effaith Brexit yn well.

Mae gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol yn helpu unigolion i barhau i fod yn annibynnol, cadw’n weithgar ac ymgysylltu â’u cymunedau; ac mae’n amddiffyn plant ac oedolion a allai fod mewn perygl o niwed oherwydd esgeulustod neu gamdriniaeth.

Mae'r GIG yn dibynnu ar y ffaith bod gofal cymdeithasol cyson ar gael i helpu pobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor i aros yn iach yn eu cartrefi eu hunain, yn ogystal â'u cefnogi i ddychwelyd adref o'r ysbyty cyn gynted â phosib.

Mae gwahanol heriau recriwtio a chadw ar gyfer rolau gofal cymdeithasol gwahanol ac mewn gwahanol rannau o Gymru. Gall hyn ddod yn fwy heriol os na all gweithwyr yr UE aros a gweithio yng Nghymru, neu os ydynt yn dewis peidio â gwneud hynny.

Er nad yw niferoedd gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen yr UE yn hysbys gan eu bod yn cael eu cyflogi gan nifer fawr o ddarparwyr annibynnol ac nid ydynt wedi eu cofrestru eto, amcangyfrifir y bydd tri neu bedwar y cant o'r gweithlu o bosib yn dod o wledydd yr UE.

Mae'r GIG yn cyflogi lefel uwch o wladolion yr UE ac os collir y gweithlu cymorth yng Nghymru, mae'n debygol mai gweithwyr gofal cymdeithasol fydd yn llenwi llawer o'r swyddi gwag hynny yn y GIG, gan fod telerau ac amodau’r GIG yn fwy ffafriol ar hyn o bryd.

Mae sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn datblygu cynlluniau recriwtio ar y cyd i leihau effaith Brexit, ac mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda chyrff rhanbarthol i arwain ymgyrch genedlaethol i ddenu, recriwtio a chadw.

Rydyn ni’n targedu pobl ifanc, yn ogystal â phobl a oedd wedi’u cyflogi yn y sectorau manwerthu a sectorau eraill yn flaenorol, ac sy'n wynebu cael eu diswyddo. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gweithgareddau hyn yn lleihau'r risg o heriau pellach i’r gweithlu er mwyn sicrhau bod y rhai sydd angen gofal a chymorth yn gallu dibynnu ar ymateb cyson ar draws Cymru.

I ddarganfod sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi Cymru am y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, ewch i'w gwefan newydd.