
Bydd yr adnodd yn helpu rheolwyr gofal cartref a hyfforddwyr sydd yn cefnogi staff i gynyddu ymwybyddiaeth a hyfforddi staff i ymdopi dull sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Mae'r adnodd yn cynnwys cyflwyniadau PowerPoint, fideos ac ymarferion adlewyrchiad fel:
• cyflawni canlyniadau
• cael sgwrs dda
• cydbwyso risg, hawliau a chyfrifoldebau.
Mae'r dull sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau yn bwysig, er mwyn sicrhau bod pobl sy'n derbyn gofal a chymorth, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw ei bywydau gorau posibl.
Mae'n cynnwys gweithwyr yn cael sgyrsiau gyda phobl sy'n derbyn gofal a chymorth, eu teuluoedd a'u gofalwyr i ddarganfod beth sy'n bwysig iddyn nhw, ac yna adeiladu ar eu cryfderau a'u galluoedd i'w helpu i gyflawni'r nodau hynny.
Gall rheolwyr a hyfforddwyr ddefnyddio'r adnoddau mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys fel rhan o oruchwyliaeth, mewn cyfarfodydd tîm, recriwtio neu mewn sesiynau cefnogi cyfoed.
Gellir defnyddio'r adnoddau hyn hefyd i gefnogi'r rhai sy'n ymgymryd â Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Lawr lwythwch yr adnoddCanlyniadau personol ar gyfer gofal cartref.