Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch recriwtio i’n helpu ni ddod o hyd i Gadeirydd ac aelod Bwrdd newydd.
Rydyn ni’n chwilio am Gadeirydd newydd gan y bydd ein Cadeirydd presennol Arwel Ellis Owen OBE yn camu i lawr ym mis Gorffennaf 2019 ar ôl tymor o 10 mlynedd.
Rydyn ni hefyd yn chwilio am aelod ychwanegol o’n Bwrdd i lenwi’r 14fed lle ar ein Bwrdd, rôl na chafodd ei lenwi pan wnaethon ni recriwtio’r 13 aelod arall o’n Bwrdd yn 2017.
Prif ddyletswyddau’r Cadeirydd yw:
- gwneud penderfyniadau
- darparu arweinyddiaeth
- cymeradwyo strategaethau
- monitro perfformiad
- gwneud penderfyniad terfynol ar y ffordd orau o wario’n harian ni.
Bydd disgwyl i’r Cadeirydd newydd ddechrau yn ei rôl o 1 Awst 2019 a bydd disgwyl iddo dreulio wyth diwrnod y mis yn y rôl – bydd hwn yn cynnwys mynychu a pharatoi ar gyfer pob cyfarfod Bwrdd, Pwyllgor a phartner.
Bydd y Cadeirydd yn cael ei dalu £337 y diwrnod, a bydd hawl ganddo dderbyn costau teithio a chynhaliaeth yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae ein Bwrdd wedi’i arwain yn lleyg, sy’n golygu byddwn ni wastad gyda mwy o aelodau sy’n derbyn gofal a chymorth, gofalwyr ac aelodau’r cyhoedd na gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Bydd disgwyl i’r aelod Bwrdd newydd ddechrau yn ei rôl ym mis Gorffennaf 2019 a bydd disgwyl iddo dreulio dau ddiwrnod y mis yn y rôl – bydd hwn yn cynnwys mynychu a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd Bwrdd a Phwyllgor, a mynychu hyfforddiant.
Bydd yr aelod Bwrdd yn cael ei dalu £250 y diwrnod, a bydd hawl ganddo dderbyn costau teithio a chynhaliaeth yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Meddai’r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sydd â gwir ymrwymiad i wella’r sectorau gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru i ddefnyddio’i sgiliau a’i phrofiadau i wneud gwahaniaeth i’r ddau sector pwysig ofnadwy hyn.
“Bydd disgwyl iddyn nhw helpu codi hyder yn y gweithlu, ac i arwain a chefnogi gwelliant ym maes gofal cymdeithasol ar draws Cymru.
“Hoffwn i annog unrhyw un sy’n meddwl y gallant wneud y gwahaniaeth yna i ymgeisio ar gyfer y rolau pwysig hyn.”
Bydd ceisiadau yn cau am 4pm, 4 Ionawr 2019.