Jump to content
Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Gan fod Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 wedi cael Cydsyniad Brenhinol erbyn hyn, mae'r sylw wedi symud at ddatblygu a chytuno ar y rheoliadau. Rhain yw’r is-ddeddfwriaeth i'w defnyddio pan fydd angen mwy o fanylion neu gyfarwyddiadau wrth roi Deddf ar waith.

Cam 1

Roedd y cam hwn yn cynnwys rheoliadau yn ymwneud â system newydd o gofrestru a rheoleiddio’r gweithlu sy’n ofynnol gan y Ddeddf, wedi gweithredu gan Gofal Cymdeithasol Cymru o 3 Ebrill 2017.

Darllenwch y datganiad ysgrifenedig gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ar 22 Tachwedd 2016 ynghylch cam cyntaf y broses o roi'r Ddeddf ar waith.

Rheoliadau sydd bellach yn gyfraith

Mae’r rheoliadau isod sy’n ymwneud â’r gweithlu bellach yn gyfraith a daethant i rym ar 3 Ebrill 2017:

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu Ystyr “Gweithiwr Gofal Cymdeithasol”) 2016

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Rhestr o Bersonau Sydd wedi eu Tynnu Oddi ar y Gofrestr) 2016

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cynnwys y Gofrestr) 2016

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cyfansoddiad Paneli: Personau Rhagnodedig) 2016

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Achosion Gerbron Paneli) 2016

Darllenwch y Memorandwm Esboniadol yng nghyswllt y newidiadau hyn (ar gael yn Saesneg yn unig).

Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2017

Maent yn gwneud gwelliannau i is-ddeddfwriaeth arall o ganlyniad i gychwyn Rhannau 2 i 10 y Ddeddf. Daethant i rym ar 3 Ebrill 2017.

Darllenwch y Memorandwm Esboniadol yng nghyswllt y newidiadau hyn (ar gael yn Saesneg yn unig).

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Achosion Gerbron Paneli) (Diwygio) 2017

Mae’r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Achosion Gerbron Paneli) 2016 fel y gall Gofal Cymdeithasol Cymru ddefnyddio dull gorfodi ar gyfer galw tystion i ymddangos gerbron ei baneli, drwy’r Uchel Lys/Llys Sirol, yn hytrach na’r Tribiwnlys Safonau Gofal. Daethant i rym ar 3 Ebrill 2017.

Darllenwch y Memorandwm Esboniadol yng nghyswllt y newidiadau hyn (ar gael yn Saesneg yn unig).

Cam 2

Bydd ail gam y rheoliadau’n canolbwyntio ar y gofynion a’r safonau sy’n ddisgwyliedig gan ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol mewn lleoliadau gofal cartref a gofal preswyl oedolion; lleoliadau gofal preswyl plant, llety diogel i blant a chanolfannau preswyl i deuluoedd.

Cynhelir ymgynghoriad ar y rheoliadau hyn ddiwedd y gwanwyn i haf eleni a bydd drafft terfynol y rheoliadau’n cael eu cyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod gaeaf 2017 i ddod i rym ym mis Ebrill 2018.

Cam 3

Bydd trydydd cam y rheoliadau’n canolbwyntio ar y gofynion a’r safonau sy’n ddisgwyliedig gan ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol mewn asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol ac asiantaethau cymorth mabwysiadu, gwasanaethau maethu, gwasanaethau lleoli oedolion (cysylltu bywydau) a gwasanaethau eiriolaeth.

Cynhelir ymgynghoriad ar y rheoliadau hyn ddiwedd y gwanwyn i haf 2018 a bydd drafft terfynol y rheoliadau’n cael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad yn ystod gaeaf 2018 i ddod i rym ym mis Ebrill 2019.

Bydd Cam 3 hefyd yn cynnwys gweithredu darpariaethau sefydlogrwydd y farchnad ac asesu ariannol y Ddeddf.

Cyhoeddwyd gyntaf: 2 Mai 2017
Diweddariad olaf: 9 Tachwedd 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (37.8 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch