
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnig tri diwrnod o hyfforddiant am ddim i gefnogi hyfforddwyr i ddarparu pecyn Hyfforddi Diogelu Sylfaenol Cymru Gyfan. Mae’r hyfforddiant yn addas ar gyfer lleoliadau sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion sy’n wynebu risg, yn y sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector. Dilynwch y dolenni i gael rhagor o fanylion am ddyddiadau a lleoliadau yng Nghaerdydd, Aberystwyth a'r Rhyl.
Dylai cyfranogwyr feddu ar:
a) brofiad neu gymhwyster priodol wrth ddarparu hyfforddiant neu hwyluso;
b) gwybodaeth gefndir a phrofiad / cymhwyster mewn diogelu (unrhyw oedran);
c) cefnogaeth rheolwyr i baratoi ar gyfer y modiwl hwn (rydym yn argymell eich bod yn gyfarwydd â'r cwrs a gyda deunyddiau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Rhan 7 Diogelu
Bydd yn fanteisiol i fynychwyr y gweithdy hyfforddwyr hwn os ydynt yn debygol o fod yn darparu cyrsiau diogelu.