
Gweithdai Gofal a Chymorth Gyda'i Gilydd
Oherwydd poblogrwydd ein gweithdai Adeiladu Gofal a Chymorth Gyda'n Gilydd y llynedd, rydym yn cynnal dwy sesiwn ychwanegol.
Pwrpas y gweithdai yw helpu pobl i wella'r ffordd maen nhw’n gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu gofal a chymorth gwell mewn ffordd cyd-gynhyrchiol. Rydym i gyd eisiau gwneud pethau'n well ac yn wahanol ond weithiau gallen wynebu rhwystrau neu deimlo'n siŵr ein bod ar y llwybr cywir. Mae'r digwyddiadau hyn wedi eu cynllunio i gynnig cyngor ymarferol ac atebion gan y bobl sydd wedi bod yno ac yn ei wneud.
Ar gyfer pwy mae’r digwyddiadau yma?
Mae'r digwyddiadau hyn ar gyfer sefydliadau ac unigolion sydd ar y llwybr i gyd-gynhyrchu ac yn edrych am help i symud ymlaen gyda syniadau a phrosiectau, megis:
- Pobl sy'n gweithio mewn sefydliadau statudol, annibynnol neu drydydd sector. Gallech weithio ym maes tai, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol neu unrhyw leoliad sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol
- Rheolwyr a chomisiynwyr sy'n edrych ar atebion arloesol i ofal a chymorth ac eisiau edrych ar sut y gellir gwneud hyn
- Grwpiau cymunedol neu unigolion sydd am gymryd rhan mewn llunio gofal a chymorth
- Grwpiau cymunedol neu unigolion sy'n mynd ati i geisio gosod rhywbeth i helpu grŵp o bobl, er enghraifft caffi i ofalwyr.
Beth fydd y digwyddiadau yn ei gynnwys?
Yn y sesiynau hanner diwrnod hyn, byddwch yn gallu dewis o gyfres o weithdai ymarferol; byddwn hefyd yn rhoi diweddariad ar y polisi cenedlaethol a chyd-destun deddfwriaethol i'ch helpu i ddeall pam mae cyd-gynhyrchu yn berthnasol i'ch gwaith. Dewch â'ch syniadau neu'ch prosiectau rydych chi'n gweithio arnynt i gael cyngor ac awgrymiadau ar yr hyn sydd yn gweithio a ddim yn gweithio.
Pryd a ble?
Dydd Llun 19 Mawrth, 1 – 4pm, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
I archebu lle, cliciwch ar y dolenni uchod. Noder bod lleoedd yn gyfyngedig. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Dyfan Jones trwy ffonio 02920 780 654 neu e-bostiwch Dyfan.Jones@gofalcymdeithasol.cymru