
Hygyrchedd
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwefan gyda gwybodaeth sy'n gynhwysol gyda chynnwys sy'n hygyrch i bawb, waeth beth fo'u hanabledd, gallu neu dechnoleg. Rydym am sicrhau bod ein gwybodaeth yn hygyrch ar gyfer ein holl ymwelwyr. Mae gennym ganllaw i nodweddion hygyrchedd ein gwefan.
BrowseAloud
Mae BrowseAloud yn darllen cynnwys y wefan ar uchel, gan uwcholeuo pob gair wrth iddo gael ei lefaru, mewn llais ansawdd uchel, sy’n swnio fel person.
Mae'n cynnig:
- Testun-i-lafar gyda dewis o gyflymderau darllen a nodweddion uwcholeuo i helpu deall y darllen
- Teclyn cynyddu’r testun i helpu defnyddwyr gyda nam ar eu golwg
- Teclyn creu ffeiliau MP3 sy’n trawsnewid y testun i ffeiliau sain ar gyfer gwrando heb gysylltu â’r we
- Masgiau sgrîn i atal pethau ymylon ar y sgrîn er mwyn i ddarllenwyr ganolbwyntio ar y testun dan sylw
- Symleiddiwr tudalennau gwe sy’n tynnu cynnwys ‘prysur’ er mwyn i bobl darllen yn haws.
Gellir defnyddio BrowseAloud drwy’r bar Hygyrchedd ar frig y dudalen.
Llywio drwy’r bysellfwrdd
Mae llywio rhesymegol a chyson i bobl sy’n defnyddio bysellfwrdd.
Gallwch ddeall dolenni allan o’u cyd-destun ar gyfer defnyddwyr darllenwyr sgrîn.
Mae ein logo yn eich anfon i’r hafan Dolen sgipio llywio – Ar gyfer defnyddwyr â golwg, gallwch weld y dolenni ‘sgipio iddynt’ drwy wasgu’r bysell ‘tab’ ar ôl i’r dudalen lwytho. Gellir sgipio i wahanol fannau o’r dudalen, gan ddibynnu ar yr opsiwn sydd ar gael. Yn anffodus, efallai na fydd Dolenni Sgipio yn gweithio’n iawn ym mhob porwr. Felly gadewch i ni wybod os oes problemau.
Llywio darllenwr sgriniau
Os ydych yn defnyddio darllenwr sgrîn y dylech fod yn gallu llywio drwy’r safle drwy ddefnyddio’r gorchmynion bysellfwrdd hyn:
- H i symud ymlaen drwy’r penawdau tudalennau
- Shift + H i symud yn ôl drwy’r penawdau tudalennau
- 1 i lywio i’r pennawd lefel 1 nesaf (neu 2 i’r pennawd lefel 2 nesaf, ac yn y blaen hyd at bennawd 6)
- Shift + 1 i lywio i’r pennawd lefel 1 blaenorol (yr un peth gyda phenawdau 2-6)
- Insert + F5 i gael rhestr o orchmynion ffurflen ar y dudalen
- Insert + F6 i gael rhestr o’r penawdau ar y dudalen
- Insert + F7 i gael rhestr o bob dolen ar y dudalen.
Cytunedd porwr
Mae’r safle wedi cael ei brofi ar draws llwyfannau a phorwyr ac ar hyn o bryd mae’n cytûn â phorwyr cyfoes megis :
- Microsoft Internet Explorer 8+
- Mozilla Firefox
- Apple Safari
- Google Chrome 10+
- Opera 10+.
Noder: mae’n bosibl y byddwch yn cael problemau gyda hen fersiynau o’r porwyr hyn neu borwyr gwe eraill. Os oes problemau, mae pob croeso i chi gysylltu â ni.
Ffeiliau i’w lawrlwytho
Mae gennym ffeiliau i’w lawrlwytho ar sawl ffurf. Y mwyaf cyffredin yw:
Adobe Acrobat (.pdf)
Microsoft Word (.doc)
Os na allwch agor y dogfennau hyn, lawrlwythwch a gosod fersiwn ddiweddaraf y feddalwedd rad ac ddim:
Chwaraeydd cyfryngau
Rydym yn defnyddio Youtube i ddangos fideos. Mae gan bob fideo drawsysgrifiad i gyd-fynd ag e i’w lawrlwytho.