Skip to main content
Hygyrchedd y safle

Covid-19: Gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau i'ch cefnogi trwy'r pandemig

Tudalen hafan Covid-19
Defnyddio taliadau uniongyrchol mewn ffordd hyblyg yn ystod y pandemig

Dewch o hyd i gwestiynau ac atebion yma ynghylch sut y gallai Covid-19 effeithio ar daliadau uniongyrchol yng Nghymru, gan gynnwys gweithwyr a gweithwyr yn hunanynysu, a staff ffyrlo.

Beth yw’r disgwyliadau o ran defnyddio taliadau uniongyrchol mewn ffordd hyblyg?

Mae taliadau uniongyrchol yn ffordd hyblyg i bobl drefnu eu gofal a’u cymorth eu hunain. Mae’r pandemig Covid-19 yn sefyllfa eithriadol lle byddai’r hyblygrwydd hwn yn gallu helpu i sicrhau bod pobl yn parhau i gael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.

Dylid parhau i ddefnyddio taliadau uniongyrchol, i’r graddau mwyaf posibl, fel y cytunwyd yn y cynllun gofal a chymorth. Er hynny, gellir cael amgylchiadau yn ystod y pandemig lle nad yw hyn yn bosibl, er enghraifft, o ganlyniad i absenoldeb staff.

Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i unigolion ei drafod gyda’u tîm gofal cymdeithasol neu dîm cymorth taliadau uniongyrchol i ddod o hyd i’r ffyrdd gorau i gwrdd ag anghenion pob unigolyn. Wrth ymateb i hyn mewn ffordd hyblyg, dylid ystyried y Fframwaith foesegol ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion yn ystod Covid-19.

Pethau i’w hystyried:

  • beth fyddai taliadau uniongyrchol yn gallu ei ariannu yn ystod y pandemig, fel y bydd yr unigolyn yn cael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arno?
  • a yw’n bosibl lleihau neu atal y cyfyngiadau presennol ar wariant drwy daliadau uniongyrchol?
  • a oes sail resymegol glir sy’n galluogi’r unigolyn i aros yn ddiogel ac atal ei dderbyn i ysbyty?
  • a ellir darparu’r gofal a’r cymorth mewn ffordd ddiogel?

Mae’n bwysig o hyd fod pobl sy’n cael taliadau uniongyrchol yn cadw derbynebau neu dystiolaeth fel y byddent yn gwneud fel arfer a’u bod yn cadw cofnod o’r ffordd y cafodd yr arian ei wario.

Beth allai newid o ran y ffordd y mae taliadau uniongyrchol yn cael eu defnyddio, yn y cyd-destun presennol?

Mae’n bosibl y bydd angen newid y ffordd y mae rhai pobl yn cael gafael ar ofal a chymorth o ganlyniad i’r canllawiau a’r rheolau ar ynysu cymdeithasol. Bydd hyn yn golygu ystyried gwahanol ffyrdd i ddarparu gofal a chymorth, er enghraifft, cael dosbarthiadau ymarfer corff drwy dechnoleg yn hytrach nag mewn lleoliadau yn y gymuned neu ddarparu gwybodaeth a chymorth i strwythuro gweithgareddau pob dydd.

A yw pobl yn gallu defnyddio taliadau uniongyrchol sydd wedi’u dyrannu iddyn nhw ond heb eu gwario (a elwir weithiau’n arian wrth gefn) neu gael gafael ar arian argyfwng oddi wrth yr awdurdod lleol?

Ydynt, os bydd yr awdurdod lleol yn cytuno ar hynny. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir defnyddio dyraniadau sydd heb eu gwario i sicrhau bod unigolion yn gallu cael gofal a chymorth priodol. Dylai unigolion drafod hyn â’u tîm gofal cymdeithasol neu dîm cymorth taliadau uniongyrchol.

Dylai unigolion gadw derbynebau fel y byddent yn gwneud fel arfer a chofnodi sut mae’r arian wedi cael ei wario.

Parhau â thaliadau uniongyrchol

A fydd taliadau uniongyrchol yn cael eu hatal oherwydd y pandemig?

Na fyddant. Nid yw’r pandemig Covid-19 yn rheswm dros atal taliadau uniongyrchol os nad yw angen yr unigolyn am ofal a chymorth wedi newid.

Beth fydd yn digwydd os bydd yr unigolyn sy’n cael taliadau uniongyrchol yn mynd yn sâl, yn hunanynysu neu’n cael ei dderbyn i ysbyty?

Os bydd unigolyn, neu unrhywun arall sy’n byw yn yr un cartref, yn dangos symptomau Covid-19, bydd angen iddyn nhw dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar hunanynysu. Mae’r canllawiau’n dweud bod unigolion yn gallu parhau i dderbyn gofal hanfodol yn eu cartref, gyda chyfarpar diogelu personol (PPE).

Gall hyn fod yn anodd os yw’r bobl sydd fel arfer yn darparu gofal a chymorth yn perthyn i grŵp sy’n agored i niwed neu’n byw gyda rhywun sy’n cael ei ystyried yn agored i’r risg o gael Covid-19. Gall hyn olygu newid eu ffordd o weithio, neu feddwl am ffyrdd eraill i ddarparu’r gofal a chymorth sydd eu hangen ar yr unigolyn.

Oni bai ei fod yn dweud yn wahanol yng nghontract cyflogaeth y Cynorthwyydd Personol (PA) neu ei fod yn cael ei gytuno fel arall, bydd angen i’r unigolyn dalu i’w Gynorthwyydd Personol am yr oriau y byddai’n eu gweithio fel arfer ond bod yr unigolyn yn ei gynghori i beidio â gweithio. Bydd angen i awdurdodau lleol benderfynu sut byddant yn rheoli taliadau os bydd unigolyn yn gofyn i’w Gynorthwyydd Personol beidio ag ymweld, a gallent ystyried:

  • talu tâl cadw i’r Cynorthwywyr Personol a gyflogir gan ddefnyddio taliadau uniongyrchol tra byddant yn methu â gweithio
  • meddwl am ffyrdd eraill i’r Cynorthwywyr Personol gyfrannu fel rhan o’r gweithlu gofal cymdeithasol, os na allant gyflawni eu swydd arferol

Os bydd angen i unigolion aros dros dro mewn ysbyty, gall yr awdurdod lleol dalu tâl cadw er mwyn sicrhau bod Cynorthwywyr Personol yn derbyn tâl. Bydd angen cytuno ar y cyfnod y bydd y trefniant hwn yn para. Mae taliadau cadw yn ddefnyddiol i helpu i gadw Cynorthwywyr Personol ac felly i helpu’r unigolyn i ddychwelyd adref yn ddiogel, cyn gynted â phosibl.

Mae’n bwysig bod unigolion sy’n defnyddio taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaethau yn siarad â’r darparwr gwasanaethau a’u hawdurdod lleol am atal y gwasanaeth tra byddant yn yr ysbyty, yn sâl neu’n hunanynysu. Bydd telerau ac amodau eu cytundeb â’r darparwr gwasanaethau yn dangos a oes angen parhau i dalu ffioedd neu beidio.

Lle mae’r rheswm dros aros mewn ysbyty yn golygu bod anghenion yr unigolyn am ofal a chymorth wedi newid, bydd hyn yn golygu bod angen newid ei gynllun gofal a chymorth hefyd.

A yw Cynorthwywyr Personol yn gallu cynorthwyo pobl mewn ysbyty, os ydynt wedi cael eu derbyn fel claf mewnol?

Ni ellir defnyddio taliad uniongyrchol i ddarparu cymorth i unigolyn mewn ysbyty gan mai’r GIG sy’n gyfrifol am hynny.

Gall Cynorthwyydd Personol ddewis mynd i weld unigolyn yn anffurfiol mewn ysbyty ond, oherwydd y pandemig presennol, bydd yn gorfod cydymffurfio â mesurau rheoli haint fel sy’n arferol.

Mae Cynorthwywyr Personol yn chwarae rhan hanfodol pan fydd unigolyn yn gadael yr ysbyty. Mae’n bwysig bod unigolion yn cael y cyngor a’r canllawiau diweddaraf ynghylch eu rhyddhau’n ddiogel o’r ysbyty a’u bod yn gallu rhannu’r rhain â’u Cynorthwywyr Personol.

Beth am gynlluniau wrth gefn?

Mae cynlluniau wrth gefn yn helpu pobl i ddeall a meddwl am beth fyddant yn ei wneud os bydd pethau’n newid dros dro ac ar fyr rybudd. Drwy lunio cynllun wrth gefn, neu ddiweddaru cynllun wrth gefn presennol, gellir helpu i sicrhau bod anghenion yr unigolyn yn parhau i gael eu diwallu os bydd ei drefniadau presennol yn gorfod newid o ganlyniad i Covid-19. Lle mae unigolion eisoes yn delio â sefydliad cymorth taliadau uniongyrchol, mae’n bosibl y bydd y sefydliad hwnnw’n gallu darparu cymorth i ddatblygu cynllun o’r fath.

Mae angen cytuno â’r awdurdod lleol ar gynlluniau wrth gefn, os oes modd, a’u defnyddio yn ôl yr angen. Rhai o’r pethau i’w hystyried wrth lunio cynllun wrth gefn yw:

  • Staffio – nodwch ffyrdd y mae Cynorthwywyr Personol neu wasanaethau a brynir â thaliadau uniongyrchol yn gallu gweithio’n wahanol os na allant weithio yn y ffordd arferol. Byddai hyn yn gallu cynnwys pethau fel patrymau shifftiau hirach a throsglwyddo cyfrifoldeb yn llai aml.
  • Darpariaeth amgen – lle nad yw’n bosibl darparu elfennau o ofal a chymorth (er enghraifft, dosbarthiadau ymarfer corff yn y gymuned), edrychwch ar ffyrdd eraill i gyflawni’r hyn sydd ei angen (e.e. defnyddio dosbarthiadau, cyfarpar neu dechnoleg ymarfer corff ar-lein).
  • Rhwydweithiau cymorth amgen – ystyriwch ddynodi aelodau o’r teulu estynedig, ffrindiau a/neu wirfoddolwyr a chysylltu â nhw i ofyn iddynt helpu unigolion i aros yn iach a diogel yn eu cartrefi. Cofiwch ei bod yn bosibl y bydd angen darparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant iddynt.
  • Uwchsgilio aelodau staff presennol – nodwch y cymorth neu hyfforddiant ychwanegol y gall fod eu hangen ar aelodau staff presennol. Nid yw hyn yn golygu hyfforddiant wyneb yn wyneb o reidrwydd: gellir ei ddarparu drwy gydweithwyr neu e-ddysgu.

Bydd angen i bob awdurdod lleol gytuno ar ba mor hyblyg y mae taliadau uniongyrchol a chynlluniau cymorth yn gallu bod yn ystod y pandemig, yn cynnwys taliadau un-tro neu daliadau argyfwng, a sut y gellir defnyddio taliadau uniongyrchol sydd wedi’u dyrannu ond heb eu gwario.

Bydd angen i awdurdodau lleol roi cyfrif am yr arian sydd wedi’i wario, felly bydd angen iddynt gael gwybodaeth glir i gyfiawnhau’r taliadau, yn cynnwys taliadau untro neu daliadau argyfwng. Oherwydd hyn, mae’n bwysig bod unigolion yn cadw derbynebau ac yn cofnodi sut y cafodd y taliadau eu gwario yn ystod y cyfnod hwn.

Os yw gofal yn cael ei ddarparu gan asiantaeth, dylid cysylltu â hi’n uniongyrchol i drafod cynlluniau wrth gefn, yn cynnwys trefniadau i’w dilyn os nad yw gweithwyr gofal arferol yn gallu gweithio oherwydd salwch, templed ar gyfer cynllun wrth gefn.

Cyfarpar diogelu personol (PPE)

A yw Cynorthwywyr Personol yn gymwys i gael PPE?

Ydynt. Mae Cynorthwywyr Personol yn weithwyr hanfodol ac felly dylent ddefnyddio PPE yn unol â’r canllawiau ar gyfer gweithwyr hanfodol eraill. Ewch i’n tudalen PPE lle mae dolenni at y cyngor diweddaraf.

Mae Tabl 2 yn y canllawiau swyddogol yn gymwys i Gynorthwywyr Personol.

A ellir defnyddio taliadau uniongyrchol i brynu PPE i Gynorthwywyr Personol?

Os yw’r taliadau uniongyrchol presennol yn cynnwys arian i brynu PPE i Gynorthwywyr Personol, gall hyn barhau.

Os na fydd unigolion neu Gynorthwywyr Personol yn gallu cael gafael ar PPE fel y byddent fel arfer, neu os na threfnwyd i’r taliadau uniongyrchol gynnwys talu am PPE, yna gofynnwch am gymorth gan yr awdurdod lleol: bydd yn gallu helpu i gael y PPE sydd ei angen. Bydd y tîm gofal cymdeithasol neu’r tîm cymorth taliadau uniongyrchol yn gallu darparu cyngor.

Pa weithdrefnau diogelwch sydd i’w dilyn wrth ddefnyddio PPE?

Ni fydd PPE yn effeithiol os na chaiff ei ddefnyddio’n gywir. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu nifer o adnoddau sy’n egluro hyn:

Ystyriaethau cyflogaeth i Gynorthwywyr Personol

Gall darparwyr yswiriant ateb unrhyw ymholiadau am gyfrifoldebau cyflogaeth yr unigolyn.

Beth ddylai pobl ei wneud os yw eu Cynorthwyydd Personol yn sâl neu os nad yw’n gallu gweithio?

Os bydd Cynorthwyydd Personol yn mynd yn sâl neu os bydd angen iddo hunanynysu, bydd angen gwneud trefniadau eraill i ddarparu gofal a chymorth i’r unigolyn. Gall hyn olygu gofyn i Gynorthwywyr Personol eraill gymryd rhagor o waith. Os nad yw hyn yn bosibl, bydd angen i’r unigolyn weithredu ei gynllun wrth gefn. Gall hyn olygu bod aelodau o’r teulu’n camu i’r bwlch i ddarparu gofal a chymorth ychwanegol.

Os nad yw’n bosibl rhoi’r cynllun wrth gefn ar waith, bydd angen hysbysu’r awdurdod lleol am hyn fel y bydd yn gallu helpu’r unigolyn i ddatblygu cynllun dros dro sy’n gallu cwrdd ag anghenion yr unigolyn am ofal a chymorth tra bydd ei Gynorthwyydd Personol yn gwella.

Mae’n bosibl bod rhai pobl sydd fel arfer yn darparu gofal a chymorth a fydd yn dymuno peidio â mynd i weithio os ydynt yn ofni dal Covid-19, yn enwedig os ydynt yn perthyn i grŵp sy’n agored i niwed, neu’n byw gyda rhywun sy’n cael ei ystyried yn agored i niwed. Efallai y byddant yn gallu ailnegodi eu ffordd o weithio, neu gymryd gwyliau am dâl neu heb dâl os bydd yr unigolyn sydd ag angen gofal a chymorth yn cytuno ar hynny.

A yw Cynorthwywyr Personol yn gymwys i gael tâl salwch?

Ydynt, maent yn gymwys os ydynt yn ennill mwy na £118 yr wythnos. Byddant yn cael eu talu o’r diwrnod cyntaf yn hytrach na phedwerydd diwrnod y salwch. Mae cyflogeion a gweithwyr yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol (SSP) os oes angen iddynt hunanynysu oherwydd:

  • eu bod wedi cael Covid-19
  • eu bod yn dangos symptomau Covid-19
  • bod symptomau Covid-19 gan rywun ar eu haelwyd
  • bod meddyg neu NHS 111 wedi eu cyfarwyddo i hunanynysu

Nid oes angen i Gynorthwywyr Personol ddarparu tystiolaeth i’w cyflogwyr er mwyn iddynt hawlio SSP ar eu rhan. Bydd angen i gyflogwyr gysylltu â’u darparwr cyflogres i’w hysbysu am unrhyw absenoldeb a gymerwyd oherwydd salwch, fel y bydd modd talu’r cyflog cywir i Gynorthwywyr Personol. Bydd SSP yn cael ei dalu allan drwy’r gyflogres ac yn cael ei adhawlio drwy CthEM/HMRC. Bydd yr ad-daliad hwn am hyd at ddwy wythnos ar gyfer pob cyflogai.

Os yw Cynorthwyydd Personol yn hunanynysu ac wedyn yn mynd yn sâl, dylai roi gwybod i’w gyflogwr dros y ffôn, nid yn bersonol.

Mae’r canllawiau diweddaraf ar wefan Llywodraeth y DU.

A ellir talu gofalwyr teuluol neu ffrindiau agos allan o’r taliadau uniongyrchol a gytunwyd os nad yw Cynorthwywyr Personol ar gael?

Teuluoedd a ffrindiau sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r gofal a chymorth yn ein cymunedau. Os nad yw Cynorthwyydd Personol ar gael, yna mae’n bosibl y bydd aelodau o’r teulu a ffrindiau’n gallu camu i’r adwy a darparu’r gofal a chymorth ychwanegol sydd eu hangen ar yr unigolyn am gyfnodau byr ar sail wirfoddol. Gellir nodi hyn yng nghynllun wrth gefn yr unigolyn.

Os bydd y sefyllfa’n parhau am gyfnod hirach, gall yr awdurdod lleol gytuno i dalu ffrindiau agos ac aelodau o’r teulu drwy daliadau uniongyrchol. Byddai angen trafod hyn a chytuno arno â’r awdurdod lleol.

Mae rhai ffactorau pwysig i’w hystyried wrth benderfynu a ddylid defnyddio arian o daliadau uniongyrchol presennol i dalu aelodau o’r teulu neu ffrindiau:

  • bydd angen dilyn y prosesau arferol ar gyfer cyflogaeth a’r gyflogres, yn cynnwys glynu wrth oriau gwaith a chyfraddau tâl a gytunwyd
  • a oes angen darparu hyfforddiant ychwanegol a chynnal asesiad o gymhwysedd
  • materion cyfraith cyflogaeth sy’n gysylltiedig â hawliau’r Cynorthwywyr Personol sy’n derbyn tâl ar hyn o bryd
  • unrhyw gostau ychwanegol a fydd yn codi os bydd hawl gan gyflogeion presennol i barhau i dderbyn cyflog
  • yr effaith ar unrhyw fudd-daliadau y mae’r ffrind/aelod o’r teulu yn eu cael yn barod
  • yr effaith ar iechyd a lles yr aelod o’r teulu ac a yw’n cael ei roi o dan straen afresymol
  • os mai’r aelod o’r teulu sy’n derbyn y taliadau uniongyrchol ac os mai hwnnw yw’r cyflogwr hefyd, gellir cael gwrthdaro buddiannau. Yn yr achos hwn, byddai cyflogi’r aelod o’r teulu drwy asiantaeth neu drydydd parti yn ateb posibl
  • yr effaith bosibl ar berthnasau os bydd yr aelod o’r teulu’n dod yn gyflogai

Beth yw disgwyliad y llywodraeth o ran rhoi Cynorthwywyr Personol ar ffyrlo?

Y disgwyl yw na fydd nifer mawr o sefydliadau’r sector cyhoeddus yn defnyddio’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws gan fod y rhan fwyaf o gyflogeion y sector cyhoeddus yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol mewn ymateb i’r pandemig Covid-19. Mae’r llywodraeth yn cyfri Cynorthwywyr Personol yn weithwyr allweddol hanfodol, felly ychydig iawn ohonynt a fydd yn cael eu rhoi ar ffyrlo.

Os yw unigolion yn derbyn cyllid cyhoeddus drwy daliadau uniongyrchol i gyflogi Cynorthwywyr Personol, mae disgwyl iddynt barhau i’w talu, gan fod taliadau uniongyrchol yn cael eu talu i’r unigolyn o hyd. Mae hyn yn golygu na fydd angen rhoi Cynorthwywyr Personol ar ffyrlo.

Mewn nifer bach o achosion, er enghraifft, lle nad yw’n bosibl i’r Cynorthwyydd Personol ddarparu’r gofal a chymorth sydd eu hangen, a lle gellir eu hadleoli i helpu i ymateb i’r coronafeirws, gall fod yn briodol defnyddio’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws. Gall y canllaw byr hwn ar ffyrlo i gyflogeion a chwmnïau bach fod yn ddefnyddiol.

Os bydd unigolyn yn penderfynu atal Cynorthwyydd Personol rhag dod i’w gartref, gall y Cynorthwyydd Personol fod â hawl i gael tâl llawn, yn ôl yr amodau yn ei gontract cyflogaeth. Ni fydd hawl awtomatig ganddo i gael ei roi ar ffyrlo, gan ei bod yn bosibl bod y gwaith ar gael o hyd. Mae rhai awdurdodau lleol yn siarad â Chynorthwywyr Personol ynghylch sut y gallant ddefnyddio eu sgiliau i helpu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol os nad ydynt yn gallu cyflawni eu gwaith arferol.

Mae cymorth cyffredinol ar gael ar faterion busnes ar dudalen Cwestiynau Cyffredin y llywodraeth neu drwy ffonio 0300 060 3000.

A ellir defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu treuliau ychwanegol y mae Cynorthwywyr Personol wedi’u hysgwyddo yn ystod y pandemig – er enghraifft, taliadau maes parcio os nad ydynt yn gallu teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus?

Mae taliadau uniongyrchol yn helpu pobl i gyflawni eu canlyniadau personol ac mae Cynorthwywyr Personol yn cael eu hystyried yn weithwyr hanfodol. Bydd angen i’r unigolyn sy’n derbyn taliadau uniongyrchol farnu ynghylch pa mor briodol a chosteffeithiol yw ysgwyddo treuliau ychwanegol rhesymol. Os na fydd yn sicr, gall drafod hyn â’r awdurdod lleol er mwyn cael syniad cliriach o beth sy’n rhesymol.

Bydd angen cytuno â’r awdurdod lleol ar unrhyw beth sy’n ychwanegu cost at daliadau uniongyrchol, yn cynnwys taliadau ychwanegol i Gynorthwywyr Personol, aelodau’r teulu neu ffrindiau sy’n darparu gofal a chymorth.

Fodd bynnag, mae rhai penderfyniadau i alluogi’r unigolyn i aros yn ddiogel ac atal ei dderbyn i’r ysbyty y bydd angen eu gwneud yn gyflym, ac mae’n bosibl na fydd unigolion bob amser yn gallu cael gafael ar eu hawdurdod lleol mewn pryd. Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen iddynt wneud penderfyniadau a darparu sail resymegol glir dros eu penderfyniad, derbynebau a thystiolaeth ysgrifenedig o’r ffordd y cafodd yr arian ei wario ar ôl gwneud y penderfyniad.

A yw unigolion yn gallu ailgyflogi Cynorthwywyr Personol blaenorol sydd eisoes wedi’u hyfforddi i’w cynorthwyo?

Ydynt. Os bydd angen, gall Cynorthwywyr Personol blaenorol ddarparu gwasanaeth dros dro a byddant eisoes yn gyfarwydd ag anghenion yr unigolyn. Gall hyn fod yn rhan o gynllun wrth gefn yr unigolyn.

Bydd angen i’r cyflogwr perthnasol ystyried a fydd angen unrhyw hyfforddiant a datblygiad ychwanegol ar y Cynorthwyydd Personol sydd i’w ailgyflogi (yn cynnwys dysgu gan gydweithwyr neu e-ddysgu) i’w ailgynefino â’r gwaith mor gyflym â phosibl.

Oherwydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol, a fydd dogfennau swyddogol gan Gynorthwywyr Personol i ddangos eu bod yn gwneud gwaith hanfodol?

Na fydd, nid oes angen hyn ond mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi datblygu’r cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol i helpu i ddangos pwy yw’r gweithwyr allweddol. Fel gweithwyr allweddol, mae Cynorthwywyr Personol yn gymwys i gael y cardiau hyn. Mae’r cardiau’n helpu i ddangos pwy yw’r gweithwyr allweddol pan fyddant yn teithio o le i le ac i sicrhau buddion eraill i weithwyr allweddol, er enghraifft, oriau siopa penodedig.

Gellir lawrlwytho’r cardiau i ffôn symudol neu eu hanfon drwy’r post ar ffurf blastig. Rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol ein helpu i adnabod gweithwyr sydd heb eu cofrestru gyda ni ac sy’n gymwys i gael y cardiau, yn cynnwys Cynorthwywyr Personol.

Os nad yw Cynorthwyydd Personol wedi cael cerdyn eto, gall ofyn i’w gyflogwr am lythyr yn egluro ei rôl a sut mae’n berthnasol i’r canllawiau a gyhoeddwyd ar y rheini sy’n perthyn i gategorïau o weithwyr allweddol.

Mae canllawiau’r llywodraeth yn dweud yn glir fod caniatâd i unrhyw un deithio yn ôl ac ymlaen i’w waith os nad yw’n bosibl iddo weithio gartref. Nid oes statws arbennig i weithwyr allweddol yn hyn o beth. Nid oes angen dogfennau i brofi bod teithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith yn angenrheidiol.

Mae’r diffiniad o weithiwr allweddol yn berthnasol mewn cysylltiad â defnyddio darpariaethau eraill, fel gofal i blant mewn ysgolion lleol os na ellir gofalu amdanynt yn ddiogel gartref. Fel gweithwyr allweddol, mae Cynorthwywyr Personol yn gymwys i gael y cymorth hwn.

Pa gymorth ariannol neu gymorth cyflogaeth y byddaf yn eu cael?

Os yw unigolion yn derbyn taliad uniongyrchol, dylent barhau i dderbyn y swm a gytunwyd gan eu hawdurdod lleol.

Mae’r llywodraeth wedi gweithredu nifer o fesurau i helpu unigolion sy’n cael taliadau uniongyrchol, sy’n cynnwys:

  • darparu tâl salwch statudol (SSP) o’r diwrnod cyntaf
  • deddfwriaeth sy’n caniatáu i fusnesau bach a chanolig hawlio’n ôl SSP a dalwyd am absenoldeb oherwydd salwch sy’n ganlyniad i Covid-19
  • adleoli gwirfoddolwyr i gynorthwyo pobl yn eu cartrefi.

Gofynion monitro

A fydd cyllidebau taliadau uniongyrchol yn parhau i gael eu hadolygu?

Byddant, er ei bod yn bosibl na fyddant yn cael eu hadolygu mor aml ag o’r blaen yn ystod y pandemig.

Os bydd rhywun yn pryderu nad yw’r swm a ddyrannwyd yn y taliad uniongyrchol yn ddigonol, neu ei fod yn ormod, dylai gysylltu’n uniongyrchol â’r awdurdod lleol.

A oes disgwyl i unigolion barhau i gadw tystiolaeth o’u gwariant?

Oes. Yn ôl yr arfer, dylid cadw derbynebau neu dystiolaeth sy’n dangos sut y cafodd y taliad uniongyrchol ei wario.

Pobl sy’n ariannu eu gofal a’u cymorth eu hunain

Pa gymorth sydd ar gael i bobl sy’n talu am eu gofal eu hunain?

Mae pobl sy’n defnyddio eu harian eu hunain i gyflogi Cynorthwyydd Personol yn gallu dilyn yr egwyddorion yn y ddogfen hon mewn perthynas â chynllunio wrth gefn, ac iechyd a diogelwch. Os nad yw unigolion yn gallu cael gafael ar y gofal a chymorth sydd eu hangen arnynt, dylent gysylltu â’u hawdurdod lleol i drafod eu trefniadau gofal a chymorth.

Cadw’n ddiogel

Beth ddylai cyflogwyr ei wneud os yw eu Cynorthwyydd Personol yn gwrthod hunanynysu pan yw o dan amheuaeth o fod â’r coronafeirws?

Os oes gan unigolyn Gynorthwyydd Personol sy’n dangos symptomau Covid-19, dylai hunanynysu ar unwaith yn unol â chanllawiau Llywodraeth. Mae’n bwysig na fydd rhywun sy’n dangos symptomau yn parhau i ddarparu gofal wyneb yn wyneb, o dan unrhyw amgylchiadau.

Os bydd Cynorthwyydd Personol, neu unrhyw un y mae unigolyn yn dod i gysylltiad ag ef, yn gwrthod hunanynysu, yna dylai’r unigolyn ofyn am gymorth gan yr awdurdod lleol i orfodi hyn.

Beth yw’r gweithdrefnau ar gyfer rheoli heintiau yn y tŷ?

Os yw Cynorthwywyr Personol yn cyflawni dyletswyddau glanhau, dylent ddefnyddio’r cynhyrchion domestig arferol, fel glanedyddion a channydd.

Dylai gwastraff personol (e.e. hancesi papur, padiau ymataliaeth wedi’u defnyddio ac eitemau eraill wedi’u baeddu gan hylifau corfforol) a chadachau glanhau untro gael eu storio’n ddiogel o fewn bagiau sbwriel untro. Wedyn dylid rhoi’r bagiau hyn mewn bag arall, ei glymu’n dynn a’i gadw ar wahân i’r gwastraff arall yn yr ystafell. Dylid rhoi’r bag hwn o’r neilltu am o leiaf 72 awr cyn ei roi yn y bin gwastraff domestig arferol i’w waredu yn ôl yr arfer.

Ni ddylai dillad budr gael eu hysgwyd cyn eu golchi: bydd hyn lleihau’r posibilrwydd o wasgaru’r feirws drwy’r aer. Wedyn gellir golchi eitemau yn ôl yr arfer, a gellir golchi’r holl ddillad budr yn yr un llwyth. Os ydych yn golchi dillad mewn tŷ golchi, arhoswch am 72 awr ychwanegol ar ôl diwedd y cyfnod ynysu o 7 diwrnod (ar gyfer ynysu gan unigolyn) neu gyfnod ynysu o 14 diwrnod (ar gyfer aelwydydd). Os yw eitemau wedi’u baeddu’n drwm gan hylifau corfforol, dylid eu gwaredu ar ôl cael caniatâd gan y perchennog.

Manylion cyswllt allweddol

Darparwyr yswiriant taliadau uniongyrchol

Cyngor a chymorth cyffredinol ar gyflogaeth

Diolch i:

  • Mark Cooper, Tîm Taliadau Uniongyrchol, Cyngor Sir y Fflint
  • Zoe Williams, Brociwr Byw’n Annibynnol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.