Yma fe welwch ddolenni i wefannau defnyddiol gydag adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi pobl ag anableddau dysgu, maent yn cynnwys syniadau ar gyfer cysylltu pobl a ffyrdd o helpu i gynnal pellter cymdeithasol.
Anabledd Dysgu Cymru
Mae Anabledd Dysgu Cymru yn cyhoeddi a diweddaru adnoddau ar gyfer Covid-19 ar ran benodol o’u gwefan. Mae'r wefan yn cynnwys ystod eang o ganllawiau a chyngor, gan gynnwys:
• canllawiau hawdd eu darllen a phosteri ar gyfer gwahanol agweddau ar Covid-19
• fideos ar gyfer golchi dwylo
Am wybodaeth bellach, ewch i Anabledd Dysgu Cymru - Coronafeirws: adnoddau i bobl gydag anabledd dysgu.
Learning Disability England
Mae gan Learning Disability England hefyd wefan ar adnoddau. Mae’r dudalen ar weithgareddau a chysylltu pobl yn arbennig o ddefnyddiol, gan gynnwys cerddoriaeth fyw trwy ‘Gig Buddies’ a ‘Stay Up Late’, gwersi dawns a thechnoleg i gadw mewn cysylltiad â’i gilydd.
Am wybodaeth bellach, ewch i Learning Disability England - Keeping Informed and In Touch during Coronavirus.
Prifysgolion Glasgow, Lancaster a Warwick
Mae Prifysgol Glasgow, ynghyd ȃ Phrifysgol Lancaster a Phrifysgol Warwick, wedi cyhoeddi cyfres o lyfrynnau hunangymorth dan arweiniad rhagorol i gefnogi pobl ag anableddau dysgu / deallusol ysgafn i gymedrol yn ystod Covid-19.
Gellir defnyddio'r llyfrynnau gyda chefnogaeth aelodau'r teulu, ffrindiau, gwirfoddolwyr a gofalwyr ac maent hefyd yn addas ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a phobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Mae fersiynau ar-lein ac wedi'u hargraffu ar gael. Ymhlith y pynciau cyfredol mae:
- ymdopi â theimlo yn isel
- cael noson dda o gwsg
- bod yn egnïol ac aros yn iach - ‘Gallwch chi wneud hyn!’
- datrys problemau - ‘Trefnwch hi’
- ymdopi â phryder.
Am wybodaeth bellach, ewch i Scottish Commission for Learning Disability - Covid-19 guided self help booklet series.
Learning Disability Professionals Senate
Mae Learning Disability Professionals Senate wedi cyhoeddu dau ganllaw ddefnyddiol I bobl ag andableddau dysgu, a’u teuluoed:
- Resources to support families/carers of people with learning disabilities through the Coronavirus restrictions
- Resources to use with people with learning disabilities through the Coronavirus restrictions.
The Palliative Hub
Mae’r The Palliative Hub, sefydliad yn Iwerddon, wedi bod yn cynnal gweminarau i helpu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn argyfwng Covid-19. Mae’r weminar o’r 9fed o Ebrill, Managing isolation during COVID-19 crisis: practical approaches, yn cynnig llawer o syniadau defnyddiol ar gyfer cefnogi pobl.
Canllawiau i ymwelwyr
Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â'r sector gofal cymdeithasol, wedi datblygu Ymweliadau i gartrefi gofal: canllawiau i ddarparwyr. Mae'r canllaw yn rhoi awgrymiadau ynghylch beth dylai ei ystyried wrth gynorthwyo pobl i ailgysylltu'n ddiogel â theuluoedd, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol, tra bo cyfyngiadau ar waith.