Jump to content
Cefnogi plant sy’n byw mewn gofal plant preswyl yn yr ysgol

Dysgwch fwy am y ffactorau sy’n effeithio ar addysg plant sy’n byw mewn gofal preswyl, y gweithiwr proffesiynol sy’n eu cefnogi yn yr ysgol, a sut gallwch helpu i greu amgylchedd sy’n rhoi iddynt y siawns gorau o gyrraedd eu potensial mewn addysg.

Pa ffactorau sy’n effeithio ar addysg plant sy’n byw mewn gofal preswyl?

Mae gennych rôl allweddol yn sicrhau bod y plant rydych yn gofalu amdanynt yn cael y gorau allan o addysg. Yn y ffordd yma, y gallwch helpu eu paratoi nhw i fyw bywydau diogel ac annibynnol yn oedolion.

Gwyddom fod cyflawniad addysgol yn is ymysg plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru na phlant eraill, o’r cyfnod sylfaen drwodd i’r brifysgol.

Gall plant sy’n cael eu cyfrif yn ‘Blant sy’n Derbyn Gofal’ fod yn byw â theulu estynedig, â theulu mabwysiedig, mewn gofal maeth, neu mewn gofal preswyl i blant. Ni wnaed digon o ymchwil i ddeilliannau addysgol pob un o’r categorïau hyn ond mae’n debygol mai’r plant sy’n byw mewn gofal preswyl sydd â’r deilliannau dysgu isaf o’r holl grwpiau uchod.

Mae hyn nid oherwydd eu bod yn llai abl na phlant eraill ond yn hytrach oherwydd y cyfleoedd a’r strwythur sydd ganddynt o’u hamgylch, gan gynnwys:

  • amgylcheddau ansefydlog ac anhrefnus
  • amser a dreulir allan o’r ysgol
  • dechrau’r ysgol rhan o’r ffordd drwy flwyddyn academaidd
  • cefnogaeth addysgol ychwanegol wael
  • diffyg dealltwriaeth ymysg staff addysgol o’u hanghenion penodol o ran iechyd meddwl ac emosiynol.

Mae symud i gartref newydd fel arfer yn golygu newid ysgol a dengys ymchwil y bydd unrhyw ddisgybl sy’n symud ysgolion yn cyflawni llai na’r disgyblion hynny sy’n aros yn yr un ysgol gynradd a’r un ysgol uwchradd.

Gall effaith ychwanegol trawma a chamdriniaeth ar y plant y gofalwch amdanynt olygu eu bod yn wynebu anfanteision addysgol sylweddol o’u cymharu â phlant eraill.

Ond â’r gefnogaeth iawn gall plant sy’n byw mewn gofal preswyl wneud yn dda mewn addysg ac mae gennych rôl werthfawr i sicrhau eu bod yn cael profiadau positif a’u bod yn cyrraedd eu potensial yn llawn.

I gefnogi eich person ifanc orau, bydd angen ichi gydweithio â nifer o weithwyr proffesiynol yn eu hysgol.

Yr unigolyn dynodedig i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yn yr ysgol

Gall y plant a gefnogwch fod yn mynychu ysgol a gynhelir (dan ofal yr awdurdod lleol) neu ysgol annibynnol (dan ofal sefydliad gofal).

Dan Adran 20 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Saesneg yn unig), rhaid i bob ysgol a gynhelir fod ag ‘unigolyn dynodedig’ i hyrwyddo cyflawniad addysgol plant sydd wedi cael profiad o ofal a sicrhau bod yr ysgol yn bodloni eu hanghenion. Mae’n bwysig eich bod yn cadw cysylltiad rheolaidd â’r unigolyn dynodedig ar gyfer y plentyn y gofalwch amdano, er mwyn deall y disgwyliadau arnoch chi, nhw a’r plentyn.

Mae’n bosibl y bydd gan ysgolion annibynnol system arall ar gyfer cefnogi plant; maent yn debygol o fod yn ysgolion llai, lle mae pob athro/awes yn adnabod pob plentyn yn dda. Os yw eich person ifanc yn mynd i ysgol annibynnol, eich rôl yw sicrhau y ceir llinellau cyfathrebu clir rhwng yr ysgol a’r staff yn eich cartref.

Cynlluniau Addysg Personol

Bydd gan bobl plentyn a gefnogwch Gynllun Addysg Personol (CAP), sy’n rhan o’u Cynllun Gofal a Chefnogaeth cyffredinol. Dylech gyfrannu at adolygu’r CAP bob tymor ysgol drwy rannu eich barn am sut mae eich person ifanc yn datblygu yn yr ysgol a sut gallwch chi a’r ysgol leihau unrhyw rwystrau rhag dysgu y maent yn eu hwynebu.

Cydgysylltydd addysg plant sy’n derbyn gofal (APDG)

Mae gan bob awdurdod lleol gydgysylltydd addysg plant sy’n derbyn gofal (APDG) i gydlynu CAPau a monitro cynnydd plant sy’n derbyn gofal yn yr awdurdod hwnnw. Mae’r cydgysylltwyr yn sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal yn cael unrhyw gefnogaeth addysgol ychwanegol y mae arnynt ei hangen a dylech fod mewn cysylltiad rheolaidd â chydgysylltydd eich awdurdod lleol.

Manylion cysylltu cydgysylltwyr APDG yng Nghymru

Gall plant a phobl ifanc ddefnyddio Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol i siarad ar eu rhan ac i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth ychwanegol o safbwynt eu haddysg .

Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol

Dylai’r plant y gofalwch amdanynt gwblhau asesiadau pan gyrhaeddant ysgol newydd. Mae hyn yn bwysig i gael ‘llinell sylfaen’ o’u lefel addysgol. Mae’n bosibl bod ganddynt fylchau yn eu haddysg ac os symudant i awdurdod lleol gwahanol, mae’n bosibl na fydd eu hysgol newydd yn gallu gweld eu deilliannau o’u hysgol flaenorol.

Os oes arnynt angen cefnogaeth ychwanegol yn yr ysgol, gallai’r Cydlynydd ADY neu seicolegydd addysg ddarparu hyn. Dylai ysgolion hefyd weithio â chydgysylltwyr APDG i gynnig neu’ch cyfeirio at wasanaethau cwnsela addysgol i’ch person ifanc. Mae Voices from Care hefyd yn cynnig gwasanaethau cwnsela am ddim (Saesneg yn unig).

Gallwch helpu i sicrhau bod gan eich person ifanc lais yn ei Gynllun Datblygu Unigol (CDU) drwy drafod eu cynnydd â nhw y tu allan i’r ysgol a mynychu cyfarfodydd adolygu.

Sicrhau bod athrawon yn ymwybodol o amgylchiadau ac anghenion unigol plant

Mae angen ichi rannu gwybodaeth ag athrawon am unrhyw newidiadau yn amgylchiadau plentyn. Gall hyn helpu’r ysgol ragweld a delio ag effaith y newidiadau hyn a chynnig gwell cefnogaeth i’r plentyn pan fo angen.

Dylech siarad â’r unigolyn dynodedig (neu uwch aelod o staff mewn ysgol annibynnol), a all basio’r neges ymlaen at staff addysgu eraill i sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei rhannu’n brydlon rhwng yr asiantaethau a’r unigolion perthnasol.

Cefnogi pobl ifanc â bywyd yn yr ysgol a gwaith cartref

Mae plant sydd wedi cael profiad o ofal wedi dweud bod pobl weithiau’n bwrw amcan rhy isel o’u galluoedd ac nad ydynt bob amser yn eu hannog i gyrraedd eu potensial. Dylech chi a phob gweithiwr proffesiynol arall sy’n gysylltiedig â’u haddysg rannu a chefnogi disgwyliadau uchel ohonynt drwy bwysleisio agwedd ‘gallu gwneud’ at waith dosbarth a gwaith cartref.

Dangoswch fod gennych ddiddordeb yn eu haddysg drwy drafod eu diwrnod ysgol a’r hyn maent yn ei astudio. Sicrhewch fod ganddynt le tawel i astudio ac unrhyw offer mae arnynt ei angen i wneud gwaith cartref.

Helpwch eich person ifanc i ddathlu llwyddiannau, yn ogystal â chefnogi’r ysgol ag unrhyw gosbau yn eu herbyn. Mae eich person ifanc angen gweld eich bod yn gwerthfawrogi addysg ac mai’r rheol yn y cartref ydy gwaith cartref yn gyntaf, gweithgareddau wedyn.

Dylech hefyd fod yn rhan o fywyd yr ysgol, megis mynd i nosweithiau rhieni/gofalwyr, ateb ceisiadau am wybodaeth neu adborth, yn ogystal â mynd ar dripiau ysgol lle bo hynny’n bosibl.

Gallwch ddarllen rhagor am farn plant sy’n derbyn gofal am sut i wella eu profiad o’r ysgol ym mhrosiect Exchange #messagetoschools (Saesneg yn unig).

Osgoi cael eich labelu’n ‘wahanol’

Gall cael eich labelu’n ‘wahanol’ arwain at broffwydoliaeth sy’n hunan-wireddu i’r plant y gofalwch amdanynt. Wrth drafod profiadau positif yn yr ysgol yn y prosiect #messagestoschools, siaradodd y plant am y bobl a gredai ynddynt, a gydnabyddai eu potensial, ac a oedd yn disgwyl iddynt ymroi i’w gwaith, gwneud eu gwaith cartref a bod fel pawb arall.

Drwy gredu yn eu potensial, gallwch fod yn adnodd gwerthfawr dros ben i’r person ifanc y gofalwch amdano, fel y dywedodd un myfyriwr sy’n awr yn y brifysgol:

Pan ddeuwn adre dan grio oherwydd bod yr athro’n dweud na fyddwn ni’n gallu gwneud rhywbeth, arferai [fy ngofalwr] ddweud, na, mi elli, mi elli. Roedd hi’n gefnogol iawn ... roedd hi’n gwneud imi gredu ychydig bach mwy ynof fi fy hun [ac] yn gwneud imi fod awydd gwneud ychydig mwy.

Prosiect #messagestoschools

Gwahardd o’r ysgol

Mae plant sy’n cael eu gwahardd o’r ysgol yn wynebu bylchau pellach yn eu haddysg. Gall fod yn anodd i ysgolion gynnal safon ymddygiad da heb gefnogaeth gan asiantaethau allanol a chartrefi plant. Mae cyfathrebu rhwng yr ysgol, y plentyn, gweithwyr gofal plant preswyl, ac asiantaethau eraill, yn allweddol i sicrhau bod llai o blant yn cael eu gwahardd, a’u bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gydol eu haddysg. Dylai trafodaethau ynglŷn ag osgoi’r broses wahardd ganolbwyntio ar atebion a sicrhau bod anghenion y plentyn yn ganolog i’r cynllunio.

Adnoddau defnyddiol a chysylltiadau

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd gweithwyr gofal preswyl i blant drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg pedair cwestiwn byr.

Cyhoeddwyd gyntaf: 19 Mawrth 2019
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (53.3 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch