Skip to main content
Hygyrchedd y safle

Covid-19: Gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau i'ch cefnogi trwy'r pandemig

Tudalen hafan Covid-19
Canllawiau gwirfoddoli mewn lleoliadau gofal cymdeithasol

Mae'r canllaw hwn ar gyfer gwirfoddoli mewn lleoliadau gofal cymdeithasol yn ystod argyfwng COVID-19 wedi'i ddatblygu ar y cyd gan WCVA, Gofal Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru.

Cyflwyniad

Datblygwyd canllawiau ar wirfoddoli mewn lleoliadau gofal cymdeithasol ar y cyd gan CGGC, Gofal Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae’r canllawiau yn darparu gwybodaeth am egwyddorion cyffredinol gwirfoddoli ar gyfer staff sy’n rheoli gwirfoddolwyr ym maes gofal cymdeithasol, neu sy’n debygol o orfod gwneud hynny, boed o awdurdod lleol, darparwr annibynnol neu sefydliad y sector gwirfoddol dan gontract i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth yn y lleoliadau canlynol:

  • Cartrefi gofal
  • Darpariaeth byw â chymorth i bobl ag anabledd dysgu
  • Gofal cartref
  • Gwasanaethau dydd
  • Gwasanaethau cymorth cymunedol eraill

Mae’r rhestr wirio un dudalen yn helpu gwasanaethau a sefydliadau gofal cymdeithasol i ddefnyddio gwirfoddolwyr yn effeithiol ac yn ddiogel yn ystod pandemig COVID-19.

Pam mae angen canllawiau

Mae’r pandemig COVID-19 cyfredol yn debygol o effeithio ar wasanaethau gofal cymdeithasol am fisoedd i ddod. Mae’n debygol y bydd llawer o wirfoddolwyr yn methu neu’n amharod i wirfoddoli, oherwydd eu bod nhw neu aelodau o’u teulu yn agored i gael eu heintio. Ar yr un pryd, bydd mwy a mwy o straen ar wasanaethau gofal cymdeithasol, gyda’r tebygolrwydd y bydd mwy o alw am wasanaethau gwirfoddolwyr yn ogystal â chyfleoedd i wirfoddolwyr gymryd ran. Nod deddfwriaeth newydd yw ei gwneud hi’n haws i bobl wirfoddoli er mwyn helpu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys galluogi sefydliadau i wneud gwiriadau sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y rhai sydd am wirfoddoli.

Mae prif bwyntiau’r canllawiau wedi’u crynhoi mewn rhestr wirio gryno.

Gofalu am wirfoddolwyr a lleihau’r perygl o ledaenu COVID-19

Bydd angen i rai gwirfoddolwyr roi’r gorau i wirfoddoli am y tro, oherwydd eu hoed (70 oed) a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes a fydd yn eu rhoi mewn perygl, gan gynnwys y rhai sydd wedi cael llythyr gwarchod ac sy’n cael eu cynghori i aros gartref am 12 wythnos. Efallai y bydd angen cynnal adolygiad risg o wirfoddolwyr cyfredol, gan ofyn cwestiynau allweddol am eu bregusrwydd ac annog y rhai sydd mewn perygl i roi’r gorau i wirfoddoli am y tro. Efallai y bydd gwirfoddolwyr yn teimlo bod dyletswydd arnyn nhw i ddal ati, a’u bod angen anogaeth gennych i roi’r gorau iddi am y tro a symud i wneud pethau â llai o risg, fel helpu gyda llinell gymorth neu gymorth cyfeillio.

Gwirfoddoli: gair i gall

Iechyd yn bennaf

Gall unrhyw un wirfoddoli mewn sawl ffordd. Yn y lle cyntaf, ac fel blaenoriaeth er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r feirws yn y sefydliad, mae angen i bob sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol feddwl am rolau gwirfoddoli digyswllt y gellir eu gwneud o bell, trwy gyfrwng ffonau, e-bost, fideos FaceTime neu WhatsApp er enghraifft. Mae’r rolau hyn yn llawn mor bwysig ag eraill i atal unigrwydd ac ymdeimlad o golli cysylltiad. Gall pobl sy’n hunanynysu oherwydd y posibilrwydd eu bod wedi’u heintio neu eu bod mewn perygl o gael eu heintio gyflawni rolau gweithio o bell hefyd os ydyn nhw’n teimlo’n ddigon da - ond mae’n bwysig nad ydyn nhw’n rhoi gorau i ynysu er mwyn gwirfoddoli.

Ni ddylid disgwyl i wirfoddolwyr wneud y canlynol:

  • unrhyw waith symud neu godi a chario, gan fod angen hyfforddiant ar gyfer hyn
  • darparu gofal o natur bersonol
  • paratoi bwyd na gwneud gwaith tŷ
  • rhoi meddyginiaeth.

Wrth i bethau fynd o ddrwg i waeth, a bod galw ar wirfoddolwyr i helpu, dylent ond wneud hynny os ydyn nhw wedi cael cyfarpar diogelu personol (PPE) ac yn unol â’r canllawiau diweddaraf ar PPE. Hefyd, rhaid i wirfoddolwyr ddilyn yr un safonau â’r gweithlu cyflogedig a chydymffurfio â chyngor y sefydliad neu’r awdurdod lleol.

Elwa i’r eithaf ar wasanaethau gwirfoddolwyr

Bydd y rhan fwyaf o weithgareddau gwirfoddol wedi cael eu hatal mewn lleoliadau gofal cymdeithasol er mwyn lleihau cysylltiadau uniongyrchol. Er enghraifft, gwirfoddolwyr ym maes trin gwallt a harddwch, defnyddio anifeiliaid anwes fel therapi a cherddorion sy’n mynd i gartrefi gofal neu wasanaethau byw â chymorth neu weithgareddau eraill wedi’u trefnu gan gydlynwyr gweithgareddau mewn cartrefi gofal lle mae gwirfoddolwyr yn dod i leoliadau gofal o’r gymuned leol.

Efallai y bydd angen cwtogi ar weithgareddau gan fod gwirfoddolwyr yn brin, neu oherwydd bod rhagor o flaenoriaethau yn rhywle arall. Os ydych angen cyfyngu ar wasanaethau gwirfoddoli mewn un maes yn benodol dros dro, cofiwch wneud hyn yn glir i’ch staff.

Byddwch yn greadigol

Gan fod angen i bawb gyfyngu ar gysylltiad ag eraill a chadw pellter cymdeithasol, mae angen meddwl am ffyrdd eraill o wirfoddoli a’r mathau o weithgareddau y mae modd eu cyflawni o bellter diogel - trwy gyfrwng cyfryngau cymdeithasol er enghraifft. Mae parhau i ddarparu cyfleoedd i bobl ymarfer y meddwl a rhyngweithio’n gymdeithasol yn bwysig i’w hiechyd a’u llesiant.

Gwelwyd enghreifftiau gwych o blant yn gwneud cardiau ac yn anfon negeseuon i gartrefi gofal lleol, cyn belled â bod cartrefi gofal yn cymryd mesurau priodol i gadw pellter a defnyddio chwistrellydd gwrthfacteria er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o drosglwyddo’r haint i breswylwyr eithriadol o fregus.

Gallai gweithgareddau gwirfoddol eraill gynnwys:

  • Trefnu i anfon fideos er mwyn cysylltu preswylwyr cartrefi gofal, darpariaeth tai â chymorth a rhai sy’n cael gofal gartref gyda’u teuluoedd, trwy gynnig cymorth technegol i wneud hyn. Mae’r gweithgaredd hwn yn debygol o fod yn hwb i’r sawl sy’n cael cymorth a’u teuluoedd hefyd, a lleihau effeithiau unigrwydd a theimlo’n ynysig.
  • Gallech feddwl am weithgareddau gwirfoddoli amgen fel ffrydio dosbarthiadau byw i breswylwyr cartrefi gofal neu greu fideo gyda chynghorion gwallt neu harddwch.
  • Gallai ysgolion sydd ar agor i blant a phobl ifanc gweithwyr allweddol greu fideos byrion ohonyn nhw’n canu neu’n anfon negeseuon, gan y gwyddom fod gweithgareddau rhyng-genhedlaeth yn llesol fanteisiol i’r ddwy ochr.
  • Mewn rhai lleoliadau gofal, byddai gwirfoddolwyr sy’n arbenigwyr ymarfer corff wedi gallu cyflwyno sesiynau’n uniongyrchol – ond gellid eu gwneud trwy gyfrwng cyswllt fideo er mwyn parhau i annog pobl i symud a lleihau’r perygl y bydd cyhyrau’n nychu.
  • Mae cyfeillion ffôn yn ffordd arall o wirfoddoli gyda sefydliadau trydydd sector sy’n darparu’r gwasanaeth hwn, ond gellid hefyd gwneud hyn trwy FaceTime ar gyfer pobl sy’n cael gofal gartref er mwyn rhyngweithio fwyfwy â phobl sy’n teimlo’n fwy ynysig.

Cynyddu’r gweithlu gwirfoddol ym maes gofal cymdeithasol

Bydd angen i chi benderfynu lle mae angen rhagor o wirfoddolwyr a sut gallech gyflymu llwybrau recriwtio a hyfforddi, rheoli gwirfoddolwyr newydd neu symud gwirforddolwyr i rolau newydd yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Os oedd gwirfoddolwyr wedi gorfod rhoi’r gorau i’w rolau gwirfoddoli arferol, efallai y bydd cyfleoedd i symud i rolau cyflogedig am gyfnod dros dro, gyda’r cymorth a’r hyfforddiant cywir. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol neu ewch i www.gofalwn.cymru am fwy o fanylion.

Hyfforddiant i wirfoddolwyr

Bydd canfod ffyrdd newydd o gyflwyno hyfforddiant i wirfoddolwyr, a fyddai wedi’i ddarparu wyneb yn wyneb fel arfer, yn hanfodol.

Bydd defnyddio cyfleusterau hyfforddi ar-lein, fel Zoom, gweminarau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, yn helpu i gynnig atebion wrth weithio o bell.

Dylai unrhyw hyfforddiant gynnwys pwysigrwydd diogelu eu hunain a’r rhai sy’n defnyddio cymorth gwirfoddolwr, hyd yn oed o bell.

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i weld pa hyfforddiant sefydlu ar-lein sydd ar gael. Mae enghreifftiau o weithgareddau hefyd ar gael yn ein tudalen fframwaith sefydlu.

Gellid recriwtio gwirfoddolwyr o’r canlynol:

  • Y gronfa gyfredol o wirfoddolwyr y gallai fod angen eu symud er mwyn canolbwyntio ar ateb y galw a’r rhai sydd â’r angen mwyaf.
  • Cyn-wirfoddolwyr y gallech eu hannog i ddychwelyd er mwyn cynyddu eich cronfa.
  • Gweithwyr o sefydliadau corfforaethol a busnesau lleol sy’n methu gweithio gan nad ydynt yn cael eu hystyried yn weithwyr allweddol.
  • Myfyrwyr sydd bellach gartref o’r coleg neu’r brifysgol (e.e. myfyrwyr cyrsiau’r celfyddydau, TG a gofal cymdeithasol).
  • Staff sydd wedi ymddeol o’r sector gofal cymdeithasol.
  • Aelodau’r cyhoedd sydd heb wirfoddoli o’r blaen.

Symud gwirfoddolwyr

Gall archwiliad sgiliau o wirfoddolwyr hen a newydd helpu i symud staff gan gynnwys nodi pa wirfoddolwyr sydd â phrofiad neu sgiliau arbenigol y gellid gwneud defnydd effeithiol ohonynt ac nad oes angen eu hyfforddi yn yr un modd â gwirfoddolwyr heb yr un profiad. Efallai y bydd sefydliadau ar draws y sector gofal cymdeithasol yn gallu recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr newydd yn gyflym.

Cymorth a goruchwyliaeth

Dylai gwirfoddolwyr ym mhob maes gofal cymdeithasol gael cymorth a goruchwyliaeth. Mae diogelwch gwirfoddolwyr a phobl mewn lleoliadau gofal yn hollbwysig. Os nad yw’r gallu neu’r seilwaith yno i gyflymu proses recriwtio pobl i wirfoddoli ym maes gofal cymdeithasol (neu sefydliad gwirfoddol neu annibynnol sy’n gweithredu fel darparwr dan gontract i’r maes gofal cymdeithasol), efallai y byddwch yn gorfod rhoi’r gorau i recriwtio am y tro ond gan gyfeirio ymholiadau i’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.

Hysbysebu cyfleoedd

Gallech ystyried creu cyfle gwirfoddoli ‘COVID-19’ ar wefan www.volunteering-wales.net er mwyn recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr dros dro yn ystod y cyfnod hwn. Mae categori penodol Covid-19 ar gyfer cyfleoedd, sy’n ei gwneud hi’n haws i bobl chwilio amdanyn nhw. Cafodd ap gwirfoddolwyr Covid-19, sydd ynghlwm wrth www.volunteering-wales.net, ei lansio ar 3 Ebrill 2020 er mwyn rheoli pobl sydd eisiau gwirfoddoli ar gyfer gweithgareddau penodol yn ymwneud â Covid-19. Bydd yr ap yn caniatáu i weinyddwyr a darparwyr greu tasgau penodol sy’n gysylltiedig â’r sefyllfa Covid-19. Bydd angen i ddarparwyr gofrestru’r un fath â gwirfoddolwyr ar wefan www.volunteering-wales.net.

Gall Cynghorau Gwirfoddol Sirol roi cyngor ar pa gyfleoedd lleol sydd ar gael i helpu’r rhai sydd wedi hunanynysu ac sydd angen cymorth ychwanegol, fel help i gael bwyd wedi’i ddanfon i’w cartref.

Newidiadau i’r ddeddfwriaeth

Nod y ddeddfwriaeth newydd ar goronafeirws yw cynyddu’r gweithlu gofal sydd ar gael a lleihau nifer y tasgau gweinyddol sydd angen eu cyflawni. Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi newidiadau i ofynion DBS fel bod modd recriwtio gwirfoddolwyr yn gynt. Bydd gan weithwyr yr hawl i gymryd cyfnodau o wyliau di-dâl er mwyn gwirfoddoli a derbyn rhywfaint o iawndal ariannol am golli enillion. Mae hyn yn debygol o arwain at fwy o gynigion i wirfoddoli gan aelodau’r cyhoedd.

Os oes angen gwiriad DBS ar gyfer rôl gwirfoddoli, fe fydd angen gwirio os oes gan y person gwiriad DBS cywerth. Os yw ar yr un lefel, nid oes angen i chi wneud gwiriad DBS arall cyn belled â'i fod wedi'i greu yn y dair mlynedd diwethaf. Bydd angen i'r DBS hefyd fod yn berthnasol i'r grŵp mae'r person yn gwirfoddoli ag ef, felly gwiriad i weithio gyda phlant neu un ar gyfer gweithio gydag oedolion. Gweler hefyd: CGGC yn lansio canllawiau ar wiriadau GDG yng nghanol argyfwng Covid-19 a Chanllawiau’r Llywodraeth ar geisiadau rhad ac am ddim a gwasanaeth gwirio rhestr waharddedig cyflym newydd, sy’n ymateb I COVID-19. (Saesneg yn unig)

Dylai gwirfoddolwyr cyfredol sydd â gwiriad DBS cyfredol fod yn gymwys am rolau newydd, a gellid targedu rolau sydd angen sgiliau penodol ar gyfer grwpiau penodol o weithwyr.

Diogelu

Mae diogelu yn fater i bawb. Os ydych chi’n credu bod rhywun mewn perygl enbyd, dylech ffonio 999. Dylai bod gan wirfoddolwyr ddealltwriaeth sylfaenol o faterion diogelu. Gallwch lawrlwytho ap Gweithdrefnau Diogelu Cymru o’r Apple App Store a Google Play Store; ac maen nhwar gael arlein ar www.diogelu.cymru.

Os oes gennych unrhyw bryderon diogelu, siaradwch â’ch awdurdod lleol a gofynnwch am yr adran diogelu oedolion neu amddiffyn plant.

Codi pryderon

Bydd angen sicrhau bod gwirfoddolwyr yn gwybod beth i’w wneud os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon am y ffordd mae gwasanaeth yn gweithredu. Gwnewch yn siŵr fod gwirfoddolwyr yn gwybod sut i gwyno am rywbeth, a’u bod yn gwybod am eich polisi chwythu’r chwiban. Hefyd, dylech roi gwybod iddyn nhw am y cymorth sydd ar gael gan yr arolygiaeth a chyrff rheoleiddio os oes ganddyn nhw unrhyw gwestiynau neu bryderon.

I godi pryder am ddarparwr neu wasanaeth, cysylltwch â Arolygiaeth Gofal Cymru am gyngor cyfrinachol trwy ffonio 0300 7900 126 neu e-bostio CIW@gov.wales.

I godi pryder am am weithiwr unigol, cysylltwch â Gofal Cymdeithasol Cymru drwy ffurflen ar-lein https://gofalcymdeithasol.cymru/addasrwydd-i-ymarfer/codi-pryder neu e-bostio ftp@socialcare.wales.

Yn olaf, dylech bwysleisio’r cynghorion ar olchi dwylo a mesurau syml fel cadw pellter cymdeithasol. Ni ddylai gwirfoddolwyr ymwneud â gweithgareddau sy’n gofyn am gysylltiad uniongyrchol oni bai bod ganddyn nhw’r cyfarpar diogelu personol cywir (masgiau, feisorau ac ati).

Gwybodaeth ddefnyddiol eraill