Jump to content
Beth yw Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gwella Canlyniadau i Blant?

Dysgwch fwy am waith rhaglen newid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella canlyniadau i blant

Beth yw Grŵp Cynghori’r Gweinidog (GCG)?

Mae'r rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant yn rhaglen newid gan Lywodraeth Cymru sy'n ceisio gwella gwasanaethau i blant a theuluoedd sydd angen cymorth a chefnogaeth.

Goruchwylir y gwaith gan Grŵp Cynghori’r Gweinidog (GCG) dan gadeiryddiaeth David Melding AC, sy'n darparu cyngor arbenigol i'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar sut i ategu gwell canlyniadau i blant yng Nghymru.

Mae ganddo aelodaeth eang o randdeiliaid lefel uchel gan bob un o'r asiaentaethau allweddol sy'n ymwneud â phlant sy' wedi derbyn gofal yng Nghymru.

Mae'r GCG yn chwarae rhan allweddol wrth wella canlyniadau i blant drwy:

  • oruchwylio datblygiad polisi Llywodraeth Cymru
  • helpu i nodi bylchau posibl mewn polisi
  • cynhyrchu syniadau
  • darparu cyngor ar yr hyn sy'n ymddangos ei fod yn gweithio orau yn ymarferol
  • monitro effaith y rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant
  • sicrhau bod ymagweddau at wella canlyniadau i blant yn cyd-fynd ac yn effeithiol ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol ac awdurdod lleol.

Pa faterion mae'r rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant yn canolbwyntio arnynt?

Mae gan wleidyddion ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru rôl allweddol wrth helpu i arwain a chraffu ar raglen waith GCG a'i heffaith.

Mae’r rhaglen wedi’i rhannu’n dri maes allweddol ar gyfer gweithredu:

  • lleihau nifer y plant sydd angen gofal mewn modd diogel
  • gwella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal drwy ddarparu'r lleoliadau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt
  • cynorthwyo pobl ifanc sy'n gadael gofal i sicrhau dyfodol llwyddiannus a bywyd annibynnol iddynt.

Gallwch ddysgu mwy am y gwaith hwn yn Natganiad Cyfarfod Llawn gan y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol yn Nhachwedd 2018.

Mae gweithgaredd o fewn y rhaglen yn canolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth sydd i'w cyflawni dros y 18 mis nesaf a fydd yn galluogi gweithredu effeithiol a chanlyniadau gwell i blant â phrofiad gofal.

Mae hyn yn cynnwys cynyddu gwaith ataliol ac ymyrraeth gynnar gyda theuluoedd i leihau'r angen am ofal, defnydd effeithiol ac effeithlon o gronfeydd a digonolrwydd lleoliad gwell (mewn gofal maeth, gofal preswyl, llety diogel ac ar gyfer pobl sy'n gadael gofal).

Mae pob un o'r ffrydiau gwaith yn cael ei gadeirio a'i is-gadeirio gan Bennaeth Gwasanaeth Plant neu gynrychiolydd o'r trydydd Sector.

Mae 12 maes gwaith wedi'u nodi ar gyfer gweithredu, sy'n ymdrin ag ystod eang o bynciau.

Mae rhagor o wybodaeth am waith y GCG yn ei Fframwaith Gweithredu Cam Tri 2018, gan gynnwys:

  • sut mae gwaith y GCG yn cyd-fynd â deddfwriaeth a pholisi Llywodraeth Cymru
  • cynnydd gwaith y GCG
  • yr achos dros newid pellach i wella canlyniadau i blant
  • egwyddorion dylunio, llywodraethu a chylch gorchwyl GCG.

Yn ogystal, mae canllaw i blant a phobl ifanc ynglŷn â gwaith y GCG.

Sut mae'r rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant yn ategu hawliau plant yng Nghymru?

Mae'r rhaglen a'r MAG wedi ymrwymo i hawliau plant, gan gadw at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (Saesneg yn unig).

Mae'r penderfyniadau y mae'n eu gwneud ynghylch gwella canlyniadau i blant yn unol â'r ymrwymiadau hyn.

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig.

Mae'n rhaid i bartneriaid perthnasol roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig drwy Adran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Sut mae'r rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant yn hyrwyddo newidiadau a fydd o fudd i blant a phobl ifanc?

Mae rhaglen y GCG yn helpu i sicrhau newidiadau mewn gwasanaethau a sut cânt eu darparu, gan ganolbwyntio mwy ar atal, a defnyddio'r cryfderau o fewn teuluoedd, rhwydweithiau a chymunedau fel adnoddau allweddol.

Mae'r pwyslais ar ddarparu gwasanaethau ymatebol, cynaliadwy, hyblyg ac arloesol drwy gyd-gynhyrchu.

Bydd llwyddiant yn dibynnu ar integreiddio gwasanaethau a gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth, gan gynnwys drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Sut mae'r rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant yn hyrwyddo llais y plentyn?

Mae Grŵp Cynghori’r Gweinidog yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau trydydd sector sy'n hyrwyddo llais y plentyn.

Mae is-gadeirydd y Grŵp, Dan Pitt, hefyd yn un sydd wedi gadael gofal.

Mae’n rhaid i ni helpu i sicrhau bod llais y plentyn neu'r unigolyn ifanc a'u teuluoedd nid yn unig yn cael ei glywed ond bod camau’n cael eu cymryd yn sgil hynny i wella gwasanaethau.

Rhaid canolbwyntio lawn cymaint ar wneud newidiadau â datblygu polisi, ac rydym i gyd yn rhannu cyfrifoldeb am beri i'r newidiadau hyn ddigwydd ar gyflymder a chyda'r effaith fwyaf.

Cyhoeddwyd gyntaf: 30 Medi 2019
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (45.3 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch