Jump to content
Hygyrchedd ar ein gwefan

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwefan â gwybodaeth sy'n gynhwysol a chynnwys sy'n hygyrch i bawb, waeth beth fo'u hanabledd, eu gallu neu eu technoleg. Dyma ganllaw i'r nodweddion hygyrchedd ar ein gwefan.

Llywio gyda bysellfwrdd

Mae ein gwefan yn darparu'r swyddogaeth llywio bysellfwrdd ganlynol:

  • Llywio rhesymegol a chyson ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd.
  • Gellir deall cysylltiadau allan o'u cyd-destun ar gyfer defnyddwyr darllenwyr sgrin.
  • Amlygir dolenni ar ffocws bysellfwrdd.
  • Mae ein logo yn cysylltu â'r hafan.
  • Ar gyfer defnyddwyr â golwg, datgelir y dolenni 'sgipio i' trwy wasgu'r allwedd tab ar ôl ir dudalen lwytho. Gallwch 'sgipio i' wahanol rannau o'r dudalen, yn dibynnu ar ba opsiynau sydd ar gael. Yn anffodus, efallai na fydd 'dolenni sgipio' yn gweithio'n gywir ym mhob porwr, gallwch Gysylltu â ni i roi gwybod i ni a ydych chi'n cael anawsterau.

Llywio gyda darllenydd sgrin

Os ydych chi'n defnyddio darllenydd sgrin, gallwch lywio trwy'r wefan trwy ddefnyddio'r gorchmynion bysellfwrdd canlynol:

  • H i symud ymlaen drwy’r penawdau tudalennau.
  • Shift + H i symud yn ôl drwy’r penawdau tudalennau.
  • 1 i lywio i’r pennawd lefel 1 nesaf (neu 2 i’r pennawd lefel 2 nesaf, ac yn y blaen hyd at bennawd 6).
  • Shift + 1 i lywio i’r pennawd lefel 1 blaenorol (yr un peth gyda phenawdau 2-6).
  • Insert + F5 i gael rhestr o orchmynion ffurflen ar y dudalen.
  • Insert + F6 i gael rhestr o’r penawdau ar y dudalen.
  • Insert + F7 i gael rhestr o bob dolen ar y dudalen.

Cydnawsedd porwr

Mae’r safle wedi cael ei brofi ar draws llwyfannau a phorwyr ac ar hyn o bryd mae’n cytûn â phorwyr cyfoes megis :

  • Microsoft Internet Explorer 8+
  • Mozilla Firefox
  • Apple Safari
  • Google Chrome 10+
  • Opera 10+.

Os ydych chi'n cael anawsterau wrth gyrchu ein cynnwys wrth ddefnyddio fersiynau hŷn o'r porwyr hyn neu borwyr gwe eraill nad ydyn nhw wedi'u rhestru uchod Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni.

Ffeiliau i’w lawrlwytho

Rydym wedi sicrhau bod ffeiliau ar gael i'w lawrlwytho mewn amrywiaeth o fformatau.

Y rhai mwyaf cyffredin yw:

  • Adobe Acrobat (.pdf)
  • Microsoft Word (.doc).

Os na allwch agor y mathau hyn o ddogfennau, gallwch lawrlwytho a gosod y fersiynau diweddaraf o'r feddalwedd am ddim:

Cynnwys fideo

Rydym yn defnyddio YouTube i ddangos cynnwys fideos. Mae'n bosib lawrlwytho trawsysgrifiad i gyd-fynd a pob fideo.

Help i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio

Mae My Computer My Way gan AbilityNet yn rhoi canllaw cam wrth gam i addasiadau unigol y gallwch eu gwneud i'ch cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn smart i'w gwneud hi'n haws ei ddefnyddio. Gallwch:

  • Archwiliwch yr addasiadau yn ôl anabledd
  • Chwilio am addasiad penodol rydych chi am ei wneud i'ch dyfais
  • Wirio pa system weithredu rydych chi arni.

Ewch i My Computer My Way gan Ability.net i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf: 27 Mawrth 2017
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (37.1 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch