Skip to main content
Hygyrchedd ar y wefan

Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd

Cymwysterau sy'n cael eu hargymell ar gyfer ymarfer:

  1. City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

a

  1. City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer

neu

  1. City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Nid oes angen cofrestru

Cymwysterau eraill a dderbyniwyd

  1. Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheoli Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon 

  2. Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ymarfer Uwch Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon

  3. NVQ 4 mewn Arwain a Rheoli ar gyfer Gwasanaethau Gofal

  4. NVQ 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)

  5. NVQ 4 mewn Rheoli (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal cymdeithasol)

  6. NVQ 4 mewn Gofal

Cymwysterau eraill y DU a dderbyniwyd

O ganlyniad i newid cymwysterau yng Nghymru, fe fydd cymwysterau cyfwerth o weddill y DU yn cael eu hychwanegu yn fuan. Cysylltwch â ni yn uniongyrchol fel rheolwr sydd a chymwyster o weddill y DU.

Gofynion sefydlu

Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.

Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.