Skip to main content
Hygyrchedd y safle

Covid-19: Gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau i'ch cefnogi trwy'r pandemig

Tudalen hafan Covid-19

Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd

I gofrestru fel rheolwr:

  1. Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheolaeth Breswyl Plant a Phobl Ifanc) Cymru

I gofrestru fel gweithiwr:

  1. City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd

ac

  1. City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)

neu un or cymwysterau canlynol

  1. Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ymarfer Uwch Plant a Phobl Ifanc) Cymru a Gogledd Iwerddon

  2. Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) Cymru a Gogledd Iwerddon

  3. Gradd mewn gwaith cymdeithasol

Bydd gweithwyr sydd heb gyflawni un o’r cymwysterau a restrir yn gallu gwneud cais i gofrestru os byddant yn cwblhau’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AWIF) neu Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn deuddeg mis o ddechrau eu swydd. Bydd angen iddynt hefyd gyflawni un o’r cymwysterau gofynnol o fewn y cyfnod cofrestru cyntaf o dair blynedd.

Fe dderbynnir unrhyw gymwysterau a rhestrwyd ar gyfer rolau uwch yn yr un maes gwasanaeth ei dderbyn ar gyfer cofrestru yn y rôl yma hefyd.

Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ofynnol

Gall dirprwy reolwyr gofal plant preswyl gofrestru fel rheolwr os ydynt yn cwrdd â'r gofynion ar gyfer rheolwr gofal preswyl i blant.


Cofrestrwch yma

Gofynion eraill

Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.

Mae'r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.

Cymwysterau eraill a dderbyniwyd

  1. City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)

  1. Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru

  2. Tystysgrif Uwch mewn Gofal Preswyl i Blant a Phobl Ifanc

  3. Tystysgrif mewn Gofal Preswyl i Blant a Phobl Ifanc

  4. NVQ 4 mewn Arwain a Rheoli ar gyfer Gwasanaethau Gofal (mae’n rhaid i hyn gynnwys unedau B6 a B7)

  5. NVQ 4 Dyfarniad Rheolwyr Cofrestredig ym maes Gofal Preswyl i Blant

  6. NVQ 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)

  7. NVQ 4 mewn Gofal

  8. NVQ 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)

  9. NVQ 3 mewn Gofalu am Blant a Phobl Ifanc

Cymwysterau eraill y DU a dderbyniwyd

Dylai gweithwyr sy’n symud i Gymru sy’n meddu ar gymhwyster a gydnabyddir gan y Department of Education (Lloegr), y Northern Ireland Social Care Council neu’r Scottish Social Services Council yn cwblhau agweddau o’r fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol sy’n berthnasol i’w rôl a’r gwasanaeth a hefyd rhaid cwblhau’r Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru (plant a phobl ifanc) er mwyn gallu gwneud cais i gofrestru.

Gofynion sefydlu

Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.

Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o’r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.

Gofynion hyfforddiant a dysgu ôl-gofrestru (PRTL)

Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig gyflawni 90 awr neu 15 diwrnod o hyfforddiant a dysgu ôl-gofrestru ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd y mae'r unigolyn wedi cofrestru.

Rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a dysgu ôl-gofrestru.

Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ofynnol

Gall dirprwy reolwyr gofal plant preswyl gofrestru fel rheolwr os ydynt yn cwrdd â'r gofynion ar gyfer rheolwr gofal preswyl i blant.


Cofrestrwch yma
Printiwch y dudalen hon