Jump to content
Ein aelodau Bwrdd
  • Mick Giannasi

    Cadeirydd y Bwrdd, ymddeolodd Mick Giannasi o wasanaeth yr heddlu ym mis Ebrill 2011, ar ôl gyrfa lwyddiannus o dros 31 mlynedd. Derbyniodd Fedal Heddlu’r Frenhines am ei gyfraniad i blismona yn 2011. Ar ôl ymddeol o Wasanaeth yr Heddlu yn 2011, penodwyd Mick gan Lywodraeth Cymru i weithredu fel Comisiynydd ar gyfer Cyngor Ynys Môn. O fis Medi 2013 hyd fis Ebrill 2018, Mick oedd Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Cafodd ei anrhydeddu â CBE yn 2018 fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad at y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

  • Abigail Harris

    Mae Abigail wedi gweithio mewn swyddi arweinyddiaeth uwch yn y GIG, mewn llywodraeth leol ac yn Llywodraeth Cymru am fwy nag 20 mlynedd. Mae hynny’n cynnwys pedair blynedd yn gyfarwyddwr statudol gwasanaethau cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a chwe blynedd yn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Bro Morgannwg. Roedd nifer o’r swyddi y bu’n ei gwneud yn golygu cyflymu’r broses o integreiddio gwasanaethau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae ganddi radd meistr mewn Gofal Integredig.

  • Carl Cooper

    Mae Carl wedi bod yn gweithio yn y Sector Gwirfoddol drwy gydol ei yrfa waith. Bu’n gweithio i’r Eglwys yng Nghymru am 25 mlynedd, ac mae wedi gwneud swyddi rheoli ac arweinyddiaeth uwch ers 1999. Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn aelod o Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg. Dechreuodd ar ei swydd fel Prif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys ym mis Gorffennaf 2008. Mae’n aelod o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys ac yn Is-gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys.

  • Emma Britton

    Mae Emma Britton yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig sy’n gweithio ym maes maethu a mabwysiadu. Mae hi hefyd yn cynorthwyo oedolion sydd wedi goroesi camdriniaeth pan oeddent yn blant ac yn tiwtora pobl ifanc ar ran asiantaeth yn y sector gwirfoddol. Yn ogystal â’i phrofiad proffesiynol, mae gan Emma brofiad personol o fod yn ddefnyddiwr gwasanaethau gofal cymdeithasol.

  • Grace Quantock

    Mae Grace Quantock yn aelod bwrdd ar draws gofal cymdeithasol ac iechyd. Mae'n eistedd ar fyrddau Gofal Cymdeithasol Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Dyffryn Gwy. Mae hi'n ymchwilydd a chynghorydd mewn practis preifat gydag MA mewn seicotherapi a chyflwyno digidol. Mae Grace wedi ymgymryd â dwy gymrodoriaeth ymchwil i gyflenwi gwasanaethau digidol ac wedi gwneud ymchwil gyda’r BBC a Phrifysgol Caerdydd ar gyflenwi data wedi’i lywio gan drawma. Cyfrannodd at Adolygiad Holmes ar gynhwysiant mewn bywyd cyhoeddus yn 2019 ac mae wedi derbyn gwobr Arweinydd Ifanc y Dyfodol Cymru Fairwood.

  • Helen Mary Jones

    Mae gan Helen Mary Jones 40 mlynedd o brofiad o weithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys fel Aelod o’r Senedd, lle bu’n gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a’r Pwyllgor Diwylliant. Bu’n Gadeirydd Grwpiau Trawsbleidiol ar Blant a Phobl Ifanc, Plant sy’n Derbyn Gofal, a Hawliau Dynol. Gwasanaethodd fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Economi.

    Y tu allan i wleidyddiaeth mae wedi dal rolau sylweddol, gan gynnwys prif weithredwr elusen gwaith ieuenctid genedlaethol a Dirprwy Gyfarwyddwr y Comisiwn Cyfle Cyfartal. Fe’i penodwyd i’r Bwrdd Ymyrraeth Gweinidogol a anfonwyd i Gyngor Sir Penfro yn dilyn cyfres o fethiannau diogelu. Mae hi wedi cyflwyno ar bolisi cyhoeddus ym Mhrifysgolion Harvard, Huston ac Austin. Ym mis Medi 2021 cafodd ei hethol i Fwrdd Plant yng Nghymru, y corff ymbarél ar gyfer sefydliadau plant. Ar hyn o bryd mae'n gweithio fel ymgynghorydd polisi a materion cyhoeddus.

  • Joanne Kember

    Fferyllydd yw Joanne ac mae’n byw yng Ngogledd Cymru ers 20 mlynedd. Fel fferyllydd cymunedol, mae hi wedi bod yn flaenllaw yn hybu iechyd a llesiant pobl yr ardal. Mae hi wedi bod yn weithgar gyda’r trydydd sector, yn enwedig mudiadau gofalwyr, ac mae’n eiriolwr dan y cynllun Ffrindiau Dementia.

  • Simon Burch

    Mae Simon wedi cael gyrfa hir yn y sector cyhoeddus, a hynny’n fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Fynwy. Yn ogystal â gwneud swyddi rheng flaen fel athro a gweithiwr cymdeithasol, mae wedi treulio sawl blwyddyn yn gweithio ar ddatblygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd integredig sy’n rhoi lle canolog i’r unigolyn. Mae’n aelod o’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol ac yn credu bod amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn ganolog i’r gwaith gwella a rheoleiddio a wneir gan Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru.

  • Trystan Pritchard

    Mae gan Trystan Pritchard brofiad ledled y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’n Brif Weithredwr Hosbis Dewi Sant yn Llandudno, ac yn y gorffennol mae wedi bod mewn rolau uwch yn y GIG a Llywodraeth Leol. Mae ei feysydd arbenigedd yn cynnwys ymgysylltu â’r cyhoedd a rheoli strategol.

    Treuliodd Trystan flynyddoedd fel Pennaeth Cyfathrebu ar gyfer Bwrdd Iechyd gyda chyfrifoldeb am gyfathrebu strategol, ymgysylltu â rhanddeiliaid a gwasanaethau ar-lein. Yn newyddiadurwr cymwys, mae Trystan wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Pwyllgor Cyngor ar Bopeth Cymru. Mae’n siaradwr Cymraeg rhugl ac mae ei ddiddordebau’n cynnwys mynydda, rygbi Cymru a threulio amser gyda’i deulu ifanc.

  • Aaron Edwards

    Aaron yw Rheolwr Rhaglen Teleofal TEC Cymru. Cyn hynny, roedd Aaron yn gweithio â gwasanaeth teleofal Cyngor Caerdydd, lle’r oedd yn hwyluso’r ddarpariaeth larymau gofal cymdeithasol oedolion i ddinasyddion, gan eu helpu i gadw’u hannibyniaeth yn eu cartref.

    Cyn hyn roedd Aaron yn gadeirydd Rhwydwaith Gwella Dysgu Technoleg Gynorthwyol. Ac mae ar hyn o bryd yn aelod o’r Bwrdd Gwella Ansawdd ar gyfer y Gymdeithas Gwasanaethau Teleofal. Mae'n eiriolwr brwd dros ofal sy’n cael ei hwyluso gan dechnoleg.

    Mae Aaron yn falch o hyrwyddo potensial technoleg i wella diogelwch i bobl sydd angen cymorth ychwanegol, fel y gallan nhw gadw’u hannibyniaeth yn eu hamgylchedd bob dydd.

  • Abyd Quinn Aziz

    Mae Abyd yn Ddarllenydd mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae’n gweithio ers 20 mlynedd. Cyn hyn, roedd Abyd yn gweithio mewn gofal cymdeithasol plant, mewn iechyd meddwl, ac mewn gwaith cymdeithasol mewn derbyn ac asesu a chanolfannau teulu.

    Mae wedi cydlynu hyfforddiant mewn gofal plant ac amddiffyn plant, rheoli a datblygu. Ac roedd yn weithiwr cymdeithasol annibynnol am fwy na 25 mlynedd.

    Roedd Abyd yn gyfrifol am sefydlu’r prosiectau cynadledda grŵp teuluoedd cyntaf yn ne Cymru. Ac mae wedi cadeirio cynadleddau amddiffyn plant mewn awdurdodau lleol cyn mynd ymlaen i addysgu gwaith cymdeithasol cymhwyso ym Mhrifysgol Caerdydd.

    Mae Abyd yn aelod o bwyllgor BASW Cymru, yn un o ymddiriedolwyr Tros Gynnal Plant ac mae ar grŵp llywio Race Alliance Wales. Yn fwyaf diweddar, mae wedi bod yn aelod o Banel Arbenigwyr y Llywodraeth a oedd yn edrych ar y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol ac mae’n rhan o weithgor Gwrth-hiliol Cymru.

    Mae diddordebau ymchwil Abyd yn cynnwys cynadledda grŵp teuluol a gwrth-hiliaeth, ac yn ddiweddar cyd-olygodd Social Work in Wales, a gafodd ei gyhoeddi fis Mehefin 2023. Mae Abyd yn Fwslim ‘Ismaili Dwyrain Affrica’, yn rhedwr ac yn mwynhau ffotograffiaeth, pêl droed a cherddoriaeth ryngwladol.

  • Einir Hanson

    Mae Einir yn gymwysedig fel gweithiwr cymdeithasol ers 24 mlynedd. Ers hynny, mae hi wedi gweithio mewn rolau gwahanol ar draws gwasanaethau plant ac oedolion, gan gynnwys mewn arweinyddiaeth a rheolaeth.

    Mae hi wedi bod yn rheolwr cofrestredig ac yn Unigolyn Cyfrifol, ac mae ganddi brofiad o ddatblygu, sefydlu a rheoli gwasanaethau rheoleiddiedig. Mae Einir hefyd wedi bod yn rhan o lunio gwasanaethau mabwysiadu rhanbarthol a chenedlaethol.

    Mae Einir bellach yn rheoli yng Ngwasanaeth Anabledd Integredig Conwy yn cefnogi darparu gofal a chymorth i oedolion ag anableddau a'u teuluoedd.

    Yn ei rolau arweinyddiaeth amrywiol, mae Einir wedi cael cyfle i ddatblygu gwasanaethau newydd ac ail-ddylunio gwasanaethau presennol i ddiwallu anghenion pobl yn eu cymunedau.

    Yn ddiweddar, gweithiodd ar ddatblygiad gwasanaeth seibiant preswyl newydd yng Nghonwy. Ac ar wasanaeth arloesol 'gydol oes' ar gyfer plant gydag anableddau.

    Mae Einir yn rhiant mabwysiadol ac mae hyn wedi rhoi cipolwg iddi ar dderbyn gofal a chymorth. Mae hi hefyd yn siarad Cymraeg yn rhugl.

  • Kieran Harris

    Mae gan Kieran bron i 15 mlynedd o brofiad gweithredol ag amrywiaeth o elusennau sy’n darparu gofal a chymorth yng Nghymru a ledled y DU.

    Kieran yw Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), lle mae’n helpu’r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau iechyd, gofal a llesiant.

    Mae Kieran yn aelod o grŵp arbenigwyr cenedlaethol sy’n datblygu strategaeth Presgripsiynu Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a phrosiect gwerthuso tair blynedd Cronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

    Mae Kieran yn rheoli rhwydweithiau ac mae’n rhedeg digwyddiadau gyda rhanddeiliaid iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector i annog mwy o gydweithredu ac arloesi mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn rhan o nifer o raglenni a fforymau cenedlaethol, fel y Bwrdd Llesiant Lleol y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, Cymuned Ymarfer Gofal yn y Gymuned, a Grŵp Arweinyddiaeth Gofal Cymunedol Integredig Cymru.

    Cyn hyn bu Kieran ar secondiad â Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth datblygu i Weinidogion, gan gynnwys yr Adran Iechyd y Cyhoedd, ac mae hefyd wedi gweithio yn y maes marchnata a chyfathrebu mewn nifer o sectorau gwahanol.

  • Mark Roderick

    Cafodd Mark ddiagnosis o arthritis gwynegol pan oedd yn 11 mis oed, ac yn raddol mae wedi ymledu drwy ei gorff. Erbyn iddo gyrraedd wyth oed, roedd angen gofal llawn amser arno, a oedd yn cael ei ddarparu gan ei deulu, ac erbyn iddo fod yn 10 oed roedd yn defnyddio cadair olwyn. Ar ôl marwolaeth ei dad yn 2008, dechreuodd Mark gael gofal llawn amser gan asiantaeth allanol.

    Ers 2011, mae Mark wedi bod yn mynychu canolfan ddydd New Horizons, yr unig ganolfan ddydd yng Nghymru i bobl ag anableddau corfforol. Yn New Horizons, mae Mark wedi chwarae rhan flaenllaw mewn tri phrosiect llwyddiannus, ac mae’n awr yn aelod o banel cleientiaid newydd sy’n cynrychioli anghenion a dymuniadau cleientiaid mewn cyfarfodydd â rheolwyr y ganolfan ddydd a’r awdurdod lleol.

    Yn 2023, roedd Mark yn rhan o’r panel ‘Arbenigwyr drwy brofiad’ yn ein Cynadleddau dathlu gwaith cymdeithasol. Mae’n edrych ymlaen at, ac yn gobeithio, cynnig safbwyntiau gwahanol i’r Bwrdd ac at wneud gwahaniaeth positif er budd y gymuned genedlaethol ehangach.

  • Sarah Zahid

    Mae Sarah, sydd â’i gwreiddiau ethnig ym Mhacistan, wedi byw yng Nghonwy ers 20 mlynedd. Mae gan Sarah radd Baglor mewn Gwyddorau Meddygol, a gradd Meistr a oedd yn canolbwyntio ar Iechyd y Cyhoedd, o Brifysgol Manceinion, ac yn ddiweddar cwblhaodd Ddiploma Addysg Uwch mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Iechyd.

    Sarah yw Unigolyn Cyfrifol a rheolwr cofrestredig cartref nyrsio yng Nghonwy, ac mae ganddi brofiad uniongyrchol o ddarparu a rheoli gwasanaethau a reoleiddir, gan wneud yn siŵr bod pob unigolyn yn byw bywyd sy’n bwysig iddyn nhw.

    Mae gan Sarah rôl flaenllaw mewn hybu llesiant cymuned yr henoed yng Nghonwy ac mae’n credu’n gryf mewn gwella partneriaethau, arferion gorau comisiynu, a darparu gofal o safon uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae ei diddordebau y tu allan i’r gwaith yn cynnwys teithio, ffitrwydd ac adeiladu.