Jane Kelso o Elliots Hill Care sy'n siarad am y modd y maen nhw wedi gwneud newidiadau yn eu cartref gofal i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg gyda phreswylwyr.

Allwch chi ddisgrifio eich cartref gofal cyn i chi wneud newidiadau?

Yn ein cartref gofal ni, sydd wedi bod yn rhedeg am fwy na 27 mlynedd, rydym wastad wedi bod â rhai preswylwyr yr oeddem yn gwybod mai Cymraeg oedd eu hiaith gyntaf, ond a oedd yn gallu sgwrsio yn Saesneg gan eu bod wedi bod ar wardiau arhosiad hir mewn lleoliadau seiciatrig lle nad oedd llawer o Gymraeg yn cael ei siarad. Mae Sir Benfro, islaw'r ffin ieithyddol, yn cael ei hadnabod fel 'Lloegr fach y tu draw i Gymru' ac mae ceisio recriwtio siaradwyr Cymraeg wedi bod yn broblem! Fodd bynnag, rydym wastad wedi bod ag o leiaf un siaradwr Cymraeg, felly roeddem yn ymdopi. Ar sawl achlysur, fe roddon ni gynnig ar wahanol fentrau gyda geiriau Cymraeg yn cael eu gosod dros y cartref i gyd!

Byddai pethau'n mynd yn draed moch pan fyddai'r rhai a oedd yn byw yn y cartref yn aml yn anghytuno â'r ffordd yr oedd y Gymraeg wedi cael ei hysgrifennu (mae'n debyg nad yw Cymraeg Solfach yr un fath â Chymraeg Caerfyrddin) - gan beri mwy o ddryswch i ni fel staff!

Pam benderfynoch chi wneud newidiadau?

A minnau wedi gwrando ar sgwrs y Cyngor Gofal yn y seminar yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd, cefais fy ysgogi i fod yn ymwybodol o bwysigrwydd y Gymraeg i'r rhai a oedd yn byw gyda ni. Wedi'r cwbl, fe dreulion nhw eu magwraeth ar aelwyd Gymraeg ac fe ddylen ni o leiaf wneud ymdrech fel grŵp cyfan.

Sut symudoch chi ymlaen?

Cynt, roeddwn wedi ceisio annog staff i fynychu dosbarthiadau Cymraeg yn y coleg ond yn ofer. Gyda phenderfyniad newydd, fe weithion ni gyda'n cydgysylltydd hyfforddiant a Choleg Sir Benfro ac fe wnaethon ni benderfyniad: dysgu Cymraeg yn y cartref fel grŵp cyfan fyddai'r opsiwn mwyaf effeithiol. Fe allen ni fod â phresenoldeb gwell ac fe allai'r bobl yr ydym ni'n eu cefnogi deimlo cymhelliant i'n cefnogi ni ac efallai teimlo'n bwysig am ein bod ni i gyd yn ceisio siarad Cymraeg.
Fe ddechreuon ni â Chymraeg llafar, gan bod y Cyngor Gofal yn awgrymu ei fod mor bwysig. Fe drefnon ni sesiwn brynhawn yn y cartref gyda Janice o'r Coleg. Roedd yr holl staff yn hapus i ymuno.

A oedd unrhyw anawsterau?

Mae'n gallu bod yn anodd dod â staff ynghyd ar yr amser y mae Janice yn dod i mewn. Ond rydym wastad yn cael te a chacennau wrth ddysgu Cymraeg, sydd wastad yn symbyliad da!

A oedd yn llwyddiant?

Alla i ddim gorbwysleisio cymaint o lwyddiant oedd hwn! Roedd pawb ar eu hennill. Fe roddodd yr holl staff adborth a oedd yn dynodi cymaint y gwnaethant ei fwynhau!
Roedd y preswylwyr yn profi ymdeimlad o berthyn, ac roedd yn hyfryd gweld y rhyngweithio a'r chwerthin rhwng pawb. Roeddem ni wedi gwneud yr ymdrech, ac roedden nhw wrth eu bodd.

A fydd effeithiau hirdymor o ganlyniad i'r fenter hon?

Effeithiau hirdymor: chwerthin, ymdeimlad ein bod yn parchu'r rhai sy'n siarad Cymraeg ac sy'n byw gyda ni, a'n bod ni i gyd yn gallu cyfathrebu gan ddefnyddio brawddegau Cymraeg sylfaenol. Rydym yn mynd i barhau ar ôl seibiant felly gobeithio y gaeaf hwn y byddwn ni i gyd yn gallu canu'r Anthem Genedlaethol yn Gymraeg!

Fyddech chi'n ei wneud eto?

Fydden ni'n ei wneud eto? Byddem, bob tro! Roedd y bobl yr ydym ni'n eu cefnogi'n teimlo'u bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Eich profiadau chi?

Os oes gennych chi enghraifft o wella darpariaeth Gymraeg yn eich gweithle, fe hoffem ni glywed gennych.