Jump to content
Cyfiawnder teuluol

Cyfiawnder teuluol yw’r system sy’n cael ei ddefnyddio i ddatrys dadleuon sy’n ymwneud â phlant a theuluoedd. Mae hwn yn cynnwys gwaith y Llys Teulu. Mae gan weithwyr cymdeithasol cyfrifoldeb i ddarparu gwybodaeth i’r Llys Teulu. Mae’r dudalen hon yn cynnwys ystod o adnoddau ar gyfiawnder teuluol a gwaith y llys teulu.

Cyfiawnder Teuluol - Pwysigrwydd Tystiolaeth

Mae'r canllawiau'n helpu gweithwyr cymdeithasol i ymgorffori ymchwil mewn prosesau penderfynu a'i chyflwyno'n effeithiol mewn achosion yn y llysoedd teulu. Cafodd yr adnodd allweddol hwn ei hadolygu yn 2018 ar gyfer gweithwyr cymdeithasol Cafcass Cymru ac awdurdodau lleol.

Cafodd yr adnodd hwn ei baratoi gan Gofal Cymdeithasol Cymru a Research in Practice, gyda mewnbwn sylweddol gan weithwyr proffesiynol o fewn y llysoedd teulu.

Mae’r adnodd yn cynnwys llawlyfr sy’n mynd i’r afael â’r tirlun polisi a chyfreithiol sy’n datblygu o fewn y system cyfiawnder teuluol yng Nghymru.

Mae tri briff ymarfer yn gysylltiedig â’r llawlyfr:

Cyfraith gofal cymdeithasol plant yng Nghymru

Am ragor o wybodaeth am gyfraith gofal cymdeithasol plant yng Nghymru, ewch i dudalennau Prifysgol Caerdydd ar gyfraith gofal cymdeithasol plant ac Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd.

Mae'r safle yn helpu gweithwyr cymdeithasol, ymarferwyr gofal cymdeithasol, gofalwyr maeth ac ymgynghorwyr i ddod o hyd i'r gyfraith bresennol mewn perthynas â gofal cymdeithasol i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Fe'i cefnogir gan Gofal Cymdeithasol Cymru a'r sefydliadau canlynol:

Cysylltwch â ni

Os oes gennych gwestiwn, gallwch gysylltu â ni.

Cyhoeddwyd gyntaf: 6 Mawrth 2017
Diweddariad olaf: 24 Ebrill 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (35.2 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch