Jump to content
Ysgol wanwyn arwain a rheoli
Digwyddiad

Ysgol wanwyn arwain a rheoli

Dyddiad
18 Ebrill 2023 - 25 Ebrill 2023, 9:30am - 12pm
Lleoliad
Caerdydd a Llanelwy
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Yngllŷn â'r digwyddiad

Mae'r digwyddiad yma ar gyfer:

  • arweinwyr a rheolwyr sy’n arwain timau mewn lleoliadau gofal plant a'r blynyddoedd cynnar
  • dysgwyr sy’n astudio tuag at Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant.

Byddwn ni’n edrych ar y pynciau canlynol:

Trosolwg o Gymwysterau Suzi Gray, Ymgynghorydd Technegol, City & Guilds ac Amy Allen-Thomas, Swyddog Pynciau, CBAC

Bydd y sesiwn yma'n edrych ar sut mae’r gyfres o gymwysterau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant, o Lefel 2 i Lefel 5, yn gallu cefnogi datblygiad y gweithlu a bod yn rhan hollbwysig o ddarparu gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd uchel.

Cewch ddysgu sut mae cydweithio a chyfranogiad wedi'i dargedu ym mhroses asesu'r cymwysterau yn gallu helpu’ch staff i gael y gorau o gyllid, i fod yn llwyddiannus, ac i wneud cynnydd yn gyflymach.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – Mark Brown Swyddog Arweiniol Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Gofal Cymdeithasol Cymru

Yn ystod y sesiwn yma, byddwn ni'n edrych ar y gwahaniaeth rhwng diffiniadau tegwch a chydraddoldeb a sut rydyn ni'n diffinio amrywiaeth a gwahaniaethu yng Nghymru.

Byddwn ni hefyd yn edrych ar rai ystyriaethau ymarferol o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, yn ogystal â’r effaith y gall stereoteipio, rhagfarn, gwahaniaethu a throseddau casineb eu cael ar lesiant plant sy’n defnyddio gofal plant.

Hunanasesu – Kevin Barker/Ceri Herbert, Arolygiaeth Gofal Cymru

Bydd Kevin Barker a Ceri Herbert yn hwyluso trafodaeth am bwysigrwydd hunanasesu o ran darparu gwasanaeth o ansawdd da i blant.

Byddant yn myfyrio ar yr hyn a ddysgwyd o arolygiadau ac ymgysylltiadau eraill â darparwyr. Bydd hon yn sesiwn rhyngweithiol a fydd yn defnyddio profiadau’r rheini sy’n bresennol.


Dyddiadau, amseroedd a lleoliadau

Oherwydd niferoedd cyfyngedig, dim ond arweinwyr a rheolwyr yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant all gofrestru ar gyfer yr ysgol wanwyn.

Caerdydd

  • 9:30 i 12pm
  • Dydd Mawrth, 18 Ebrill
  • Gwesty’r Clayton, Heol y Santes Fair, Caerdydd, CF10 1GD

Cofrestru drwy Eventbrite ar gyfer digwyddiad Caerdydd

Llanelwy

  • 9:30 i 12pm
  • Dydd Mawrth, 25 Ebrill
  • Canolfan OpTIC - Parc Busnes Llanelwy, Ffordd William Morgan, Llanelwy LL17 0JD

Cofrestru drwy Eventbrite ar gyfer digwyddiad Llanelwy