Digwyddiad

Ymunwch â ni yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2019

03 - 06 Awst 2019
Llanrwst
Gofal Cymdeithasol Cymru

Gobaith i Ddementia

Dyddiad: 3 Awst 2019 (2.30pm – 4.30pm)

Lleoliad: Llwyfan Llannerch

Sefydliadau: Cyngor Llyfrau Cymru, Merched y Wawr, Gofal Cymdeithasol Cymru, Alzheimer’s Cymru, Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru

Cyfres o lyfrau ynglŷn â dementia ac iechyd meddwl a gydlynir gan Gyngor Llyfrau Cymru yw Darllen yn Well. Ymunwch â sesiwn drafod ar ddementia gyda chynrychiolwyr o Gyngor Llyfrau Cymru, Merched y Wawr, Gofal Cymdeithasol Cymru, Alzheimer’s Cymru, a Chanolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru. Dysgwch fwy am waith y sefydliadau hyn i helpu a chefnogi pobl sy’n byw gyda dementia, a’r gefnogaeth benodol ar gyfer siaradwyr Cymraeg sy’n byw gyda dementia.

Mae rhagor o wybodaeth i’w weld yma neu cysylltwch gydag Iwan Williams.


Cynllun Gofal Cymraeg Gwaith

Dyddiad: 5 Awst 2019 (11.00 - 11.30am)

Lleoliad: Shw’mae Su’mae – Learn Welsh

Sefydliadau: Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, Gofal Cymdeithasol Cymru, Coleg Cambria, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Nod y rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’ newydd yw hyfforddi’r gweithlu a rhoi hyder iddynt gynnal sgyrsiau yn Gymraeg a’r rhai maen nhw’n eu helpu. Ymunwch â sesiwn drafod gyda chynrychiolwyr o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Gofal Cymdeithasol Cymru. Dysgwch fwy am y rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’ a phwysigrwydd gofal a ddarparir yn y Gymraeg.

Mae rhagor o wybodaeth i’w weld yma neu cysylltwch gydag Iwan Williams.


Pwysigrwydd recriwtio siaradwyr Cymraeg i weithio mewn gofal a chyhoeddi enillydd y Wobr Gofal trwy’r Gymraeg newydd

Dyddiad: 6 Awst 2019 (11.30am – 12.30pm)

Lleoliad: Cymdeithasau 2

Sefydliadau: Gofal Cymdeithasol Cymru

Ymunwch â ni ar gyfer lansiad Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg. Mae’r wobr yn cydnabod a dathlu gweithwyr gofal sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl trwy ddarparu gofal a chymorth yn Gymraeg.

Roedd enwebiadau yn agored i unrhyw weithwyr gofal cyflogedig sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu flynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, ac sy’n darparu gofal rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyhoeddir yr enillydd, a’r rhai sy’n agos i’r brig, yn y digwyddiad. 

Fe fydd y digwyddiad hefyd yn trafod pwysigrwydd y Gymraeg yn ymgyrch Gofalwn, yr ymgyrch i ddenu, recriwtio a chadw mwy o weithwyr gofal yng Nghymru, a lansiwyd ym mis Mawrth 2019.

Mae rhagor o wybodaeth i’w weld yma neu cysylltwch gydag Iwan Williams.